Dydd Mercher 20 Mawrth 2-4pm

Y cerflunydd, Glenn Morris fydd y siaradwr gwadd ddydd Mercher 20 Mawrth. Mae'n gweithio'n bennaf mewn carreg a chyfryngau cymysg gan ddefnyddio technegau cerfio traddodiadol i greu ffurfiau sy'n ymddangos yn haniaethol ar yr olwg gyntaf ond sy'n aml yn seiliedig ar gyfarfyddiadau real iawn o'i amser yn yr Arctig, neu sy'n cael eu llywio gan ei bryderon amgylcheddol. Dewch i wrando ar Glenn yn trafod ei waith.

Mae gan Glenn Morris radd dosbarth cyntaf mewn cerflunwaith. Mae'n athro cymwysedig a threuliodd nifer o flynyddoedd yn dysgu crochenwaith; aelod o ‘Arts Alive Wales’ a’r grŵp amgylcheddol a dielw ‘Vulgar Earth’.

Mae'r Sgyrsiau Celf rheolaidd poblogaidd hyn yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb.
Maent yn gyfeillgar, yn anffurfiol ac yn ffordd hwyliog o ddysgu mwy am y celfyddydau a chwrdd â phobl eraill sydd â diddordebau tebyg.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â office@midwalesarts.org.uk