Syniadau ymarferol ar gyfer cynnwys eich cymuned drwy fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar bobl.

Beth mae “canolbwyntio ar bobl”, “cyd-gynhyrchu”, “cyd-greu” a “cyfranogol” yn ei olygu mewn gwirionedd yn ymarferol? A sut mae dod â’r manteision i’n cymunedau ac i’n sefydliadau?

Mae’r sesiwn hon, sydd wedi’i llunio ar gyfer sefydliadau sy’n ystyried cymryd camau newydd i weithio’n agosach gyda’u cymunedau, yn annog arbrofi ymarferol gydag ymarfer sy’n canolbwyntio ar bobl. Gan ddefnyddio cymysgedd o ymchwil a phrofiadau ar lawr gwlad, rydyn ni’n rhannu theori a llawer o awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwneud cysylltiadau ystyrlon sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall â’r cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu.

Dyddiad: Dydd Mercher 27 Medi 1:30pm - 3:00pm

Archebwch eich lle yma: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/903821

Pwy:

Unrhyw un sy’n arwain neu’n bwriadu dechrau neu ailgychwyn mentrau ymgysylltu. Does dim ots beth yw cefndir eich gyrfa. Ein nod yw magu hyder ond rydyn ni hefyd yn croesawu ymarferwyr profiadol ac yn eu gwahodd i rannu eu heriau a’u profiadau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:

Syniadau syml y gellir eu cyflawni ar gyfer:

- dod i adnabod eich cymuned,

- cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau a gweithgareddau creadigol,

- manteisio i'r eithaf ar ddysgu a phrofiadau o'r cyfyngiadau symud,

- mynd i’r afael â’r heriau o weithio fel hyn y tu mewn i’n sefydliadau.

Hwyluswyr:

Anne Torreggiani, Prif Swyddog Gweithredol

Mae Anne wedi bod yn ddylanwadol dros dri degawd, gan wella ymarfer ac eiriol dros newid yn y sector diwylliannol, yn enwedig o ran annog dull sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa a defnyddio data wrth ddatblygu polisi ac ymarfer.

Carly Henderson, Uwch Ymgynghorydd Cyd-greu a Chyfranogi

Mae Carly yn ymgynghorydd sydd â chefndir ym maes ymgysylltu â'r gymuned ac ymarfer cyfranogol. Cyn ymuno â’r Asiantaeth Cynulleidfaoedd, bu’n Bennaeth Dysgu ac Ymgysylltu yn Theatr Oldham Coliseum ac ar hyn o bryd mae’n ymddiriedolwr Gŵyl Genedlaethol Creu a Kaskosan.

Fformat:

Mae’r sesiwn hon yn weminar 90 munud ar ffurf gweithdy, gyda'r cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu barn.

Cost: Am ddim