Mae’r sesiwn hon yn cynnig cyflwyniad i setiau data cyfoethog The Audience Agency a bydd yn edrych ar sut gallwn ni helpu eich sefydliad i wneud cynlluniau sy’n adlewyrchu anghenion eich cymuned leol a’r farchnad ehangach.

Mae Express Market Analysis yn dwyn ynghyd y pedwar maes gwybodaeth penodol isod i helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau ynghylch marchnata, datblygu cynulleidfaoedd, rhaglennu, profiad ymwelwyr a chynllunio busnes:

  1. Cynulleidfaoedd Cyfredol
  2. Ymgysylltu Diwylliannol
  3. Cipolwg ar y Boblogaeth
  4. Potensial y Farchnad

Yn y sesiwn hon, byddwch yn ymgyfarwyddo â’r broses hon a’r wybodaeth sydd ar gael i’w chefnogi, gan gynnwys amrywiaeth o adnoddau rhad ac am ddim a rhai y telir amdanynt.

Dyddiad: Dydd Mercher 29 Tachwedd 1:30 PM – 3:00 PM

Archebwch eich lle: https://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/985575

Pwy:

Mae’r weminar hon wedi’i hanelu at y rheini sydd eisiau dysgu mwy am setiau data The Audience Agency a'i hymchwil i gynulleidfaoedd, sy’n disgrifio’r boblogaeth a’i hymgysylltiad diwylliannol presennol a phosibl. Bydd yn edrych ar sut gallwn ni eich cefnogi chi i ddefnyddio’r rhain i gynllunio sut rydych chi'n ymgysylltu â chynulleidfaoedd, gan ystyried anghenion eich cymuned leol a’r farchnad ehangach.

Bydd y weminar yn ddefnyddiol ar gyfer staff uwch sy’n cynllunio cynigion diwygiedig ac yn datblygu cynlluniau ailagor, yn ogystal â’r rheini sy’n gweithio ym meysydd ymgysylltu, marchnata, datblygu a rolau eraill sy’n ymwneud â’r cyhoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu:

  • Trosolwg o setiau data cynulleidfa The Audience Agency, gan gynnwys Audience Answers.
  • Defnyddio’r setiau data i ddeall eich cynulleidfaoedd a'ch marchnad, ac i feincnodi ar lefel poblogaeth ac ymgysylltu diwylliannol.
  • Sut gall The Audience Agency eich helpu i ddefnyddio’r data hwn i ddeall potensial eich sefydliad yn y farchnad.

Hwylusydd:

Catherine Bradley, Uwch Ymgynghorydd

Fformat:

Mae’r sesiwn hon ar ffurf seminar 90 munud, gydag amrywiaeth o arddangosiadau ymarferol ac astudiaethau achos.

Cost: Am ddim