Bydd y sefydliad celfyddydau, iechyd a llesiant, People Speak Up, ynghyd ag artistiaid o Sir Benfro, Lisa Evans a Stirling Steward yn cynnal sesiynau Symud a Gwneud wythnosol am ddim o ddiwedd Ebrill hyd fis Gorffennaf i annog pobl ifanc i greu a bod yn weithgar.

Anelwyd y sesiynau Symud a Gwneud am ddim at yr oedrannau 8-13 oed a byddant yn cael eu cynnal bob dydd Mercher ar ôl yr ysgol o 30 Ebrill hyd 9 Gorffennaf rhwng 5pm a 6.30pm yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hermon, Y Glôg, Sir Benfro.

Yn cael ei gefnogi gan Blant mewn Angen y BBC, bwriad Symud a Gwneud yw i annog pobl ifanc i fynegi eu hunain yn greadigol, a dechrau symud mewn amgylchedd hwyliog, cynhwysol a diogel.  

Cynlluniwyd y gweithdai wythnosol ar ôl ysgol i gefnogi llesiant emosiynol trwy symud, dawns, crefftau a’r celfyddydau, a byddant yn cael eu harwain gan yr artist dawns Stirling Steward a’r artist gweledol Lisa Evans. Bwriedir i’r sesiynau fod yn chwareus a chreadigol ac maen nhw am ddim ac ar agor i bawb.

Rydym mor falch o fod wedi cael cyllid gan Blant mewn Angen y BBC i helpu i gyflwyno’r gweithgaredd am ddim hwn yn y gymuned. Rydym yn gwybod o brofiad sut y gall symud a chreadigrwydd helpu pob oed i wella iechyd meddwl a llesiant. Rydym am i gymaint o bobl ifanc ag sy’n bosibl i ddod ar ôl yr ysgol a chymryd rhan. Nid oes angen unrhyw brofiad. Byddwn yn creu gofod diogel, hwyliog a chroesawus i bawb.” Artist Symud a Gwneud - Lisa Evans 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â People Speak Up ar:

info@peoplespeakup.co.uk
01554 292393