Hyfforddiant cyfathrebu i ddiwydiannau’r sgrin yw ReFocus, gan helpu pobl i weithio yn fwy cynhwysol â chriw ag anabledd dysgu ac/neu awtistig. Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn niwydiannau’r sgrin, boed yn unigolyn llawrydd neu’n rhan o sefydliad, ac i unrhyw adran ym maes teledu a ffilm.

Mae gennym ddau sesiwn yn dod i fyny ym mis Rhagfyr, ar y 6ed a'r 12fed.

Yn y sesiwn diwrnod cyfan hon, byddwn yn cael trafodaethau grŵp hamddenol a chwarae rhannau rhyngweithiol gydag actorion Hijinx a hwyluswyr wedi eu hyfforddi. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau mewn lle anfeirniadol, cefnogol, a dysgu o brofiad personol ein hactorion.

Mae cyllid gan Cymru Greadigol wedi ein galluogi i gyflwyno ReFocus ar gyfraddau amrywiol gyda chymhorthdal – ac am ddim yn achlysurol.

Archebwch eich lle nawr!