Ymunwch â’n Sesiwn TEA i ddysgu sut mae gwerthoedd a dewisiadau cynulleidfaoedd yn effeithio ar eu presenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol.

Gan ddefnyddio’r data a’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Cultural Participation Monitor (Haf 2023), byddwn yn edrych ar sut mae lleoliadau sy’n rhannu eu gwerthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol a rhaglennu cynnwys newydd neu gyfarwydd yn effeithio ar bresenoldeb cynulleidfaoedd.

Dyddiad: Dydd Mercher 11 Hydref 2:15 PM – 3:00 PM

Archebwch eich lle: Archebwch eich lle rhad ac am ddim – Sesiwn TEA | Gwerthoedd a Dewisiadau Cynulleidfaoedd – Zoom, Dydd Mercher 11 Hydref 2023, 2:15 PM - 3:00 PM (tickettailor.com)

Gwybodaeth am Sesiynau TEA:

Mae’r Sesiynau TEA (Trafod Tystiolaeth a Chynulleidfaoedd) yn rhoi cyflwyniad rheolaidd i’r ymchwil, prosiectau a gwybodaeth diweddaraf am y sector gan The Audience Agency - dewch i fwynhau paned a sgwrs. Drwy’r sesiynau briffio misol byr hyn, mae ein tîm yn rhannu gwybodaeth gyfredol am y sector diwylliannol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc allweddol, wedi’i bennu gan y dadansoddiad diddorol a’r ymchwil sy’n digwydd ar y pryd o bob rhan o’n tîm. Mae hon yn ffordd hawdd o gadw llygad ar ganfyddiadau data diweddaraf y gynulleidfa a thrafod eich syniadau gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r sector.

Pwy:

Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb.

Gall fod o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn data cynulleidfa cyfredol.

Hwyluswyr:

  • Oliver Mantell, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth
  • Ella Brown, Ymchwilydd Tystiolaeth
  • Isaac Kay-Lavelle, Cynorthwyydd Ymchwil

Fformat:

Sesiynau briffio 45 munud ar-lein yw Sesiynau TEA.

Mae’r 30 munud cyntaf ym mhob sesiwn yn cynnwys sawl crynodeb byr o’r canfyddiadau, y prosiectau a’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ddata y mae The Audience Agency wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn wedyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod gyda phobl eraill, yn ogystal â’n tîm ni.

Cost: Am ddim