Beth yw barn go iawn cynulleidfaoedd y celfyddydau gweledol? Beth yw’r ffordd orau o gael gwybod?

I drin a thrafod y cwestiynau hyn byddwn yn cyflwyno rhywfaint o'r gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda phartneriaethau prifysgol, gan gynnwys rhaglen hyfforddiant doethurol Dadansoddeg Data a Chymdeithas Prifysgol Sheffield.

Yn benodol, byddwn yn tynnu sylw at ymchwil i gynulleidfaoedd y celfyddydau gweledol, a gynhaliwyd gan yr ymgeisydd Ph.D. Ray Morrison. Defnyddiodd Ray arolygon Audience Finder i ddadansoddi lefelau bodlonrwydd a sut mae methodoleg yr arolwg yn effeithio ar yr ymatebion i’r arolygon.

Dyddiad: Dydd Mercher 13 Medi 2:15 PM - 3:00 PM

Cadwch eich llehttps://www.tickettailor.com/events/theaudienceagency/972829

Gwybodaeth am Sesiynau TEA:

Mae’r Sesiynau TEA (Trafod Tystiolaeth a Chynulleidfaoedd) yn rhoi cyflwyniad rheolaidd i’r ymchwil, prosiectau a gwybodaeth diweddaraf am y sector gan The Audience Agency - dewch i fwynhau paned a sgwrs. Drwy’r sesiynau briffio misol byr hyn, mae ein tîm yn rhannu gwybodaeth gyfredol am y sector diwylliannol.

Bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar bwnc allweddol, wedi’i bennu gan y dadansoddiad diddorol a’r ymchwil sy’n digwydd ar y pryd o bob rhan o’n tîm. Mae hon yn ffordd hawdd o gadw llygad ar ganfyddiadau data diweddaraf y gynulleidfa a thrafod eich syniadau gyda phobl o’r un anian o bob rhan o’r sector.

Pwy:

Mae'r sesiwn hon ar agor i bawb.

Gall fod o ddiddordeb arbennig i uwch arweinwyr a’r rheini sydd angen trosolwg o dueddiadau’r sector – gan gynnwys uwch farchnadwyr, rhaglenwyr, pobl sy’n codi arian – ynghyd ag unrhyw un sydd â diddordeb mewn data cynulleidfa cyfredol.

Hwyluswyr:

- Oliver Mantell, Cyfarwyddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth
- Ella Brown, Ymchwilydd Tystiolaeth

Fformat:

Sesiynau briffio 45 munud ar-lein yw Sesiynau TEA.

Mae’r 30 munud cyntaf ym mhob sesiwn yn cynnwys sawl crynodeb byr o’r canfyddiadau, y prosiectau a’r dystiolaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ddata y mae The Audience Agency wedi bod yn gweithio arnynt. Byddwn wedyn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a thrafod gyda phobl eraill, yn ogystal â’n tîm ni.

Cost: Am ddim