Bydd Iphigenia yn Sblot, addasiad newydd Cymraeg Branwen Cennard o Iphigenia in Splott gan Gary Owen, yn teithio i 11 o leoliadau ledled Cymru ym mis Awst a mis Medi eleni, ac am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, cyn cyfres o berfformiadau yn Theatr y Sherman.

Seren Hamilton fydd yn cymryd y brif ran; ei pherfformiad mawr cyntaf wrth iddi orffen ei blwyddyn olaf yn astudio Actio yng Ngholeg Celfyddydau Perfformio Rose Bruford. Alice Eklund fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad newydd hwn, bron i ddegawd ar ôl iddo ddod yn llwyddiant ysgubol am y tro cyntaf.

Mae’r Iphigenia in Splott gwreiddiol yn sioe un-ddynes, yn ddadansoddiad ffyrnig o’n cymdeithas ac o’r bywydau caled sy’n dod ohoni. Ers ei dangosiad cyntaf yn Theatr y Sherman yn 2015, mae wedi ennill Gwobr James Tait Black am Ddrama 2016 a’r Wobr Drama Newydd Orau yng Ngwobrau Theatr y DU 2015. Teithiodd y cynhyrchiad gwreiddiol i Ŵyl Ymylol Caeredin, ledled Cymru a’r DU a chyn belled ag Efrog Newydd a Berlin. Ail-lwyfannodd Lyric Hammersmith ef yn 2022, er clod mawr. Mae Iphigenia in Splott wedi'i chyfieithu a'i pherfformio mewn sawl iaith ledled y byd.

Bydd capsiynau Saesneg i’r cynhyrchiad Cymraeg hwn, felly mi fydd yn addas ar gyfer y di-Gymraeg, dysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl fel ei gilydd.

Meddai Gary Owen: “Yn y naw mlynedd diwethaf mae Iphigenia in Splott wedi cael ei gweld ledled y byd. Dwi mor ddiolchgar i’r Sherman am ddod a’r sioe adre i Gymru. Ac fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, mae’n anrhydedd i fod yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol.  Dwi methu aros i weld sut fydd Alice a Seren yn creu Effie hollol newydd o addasiad Branwen.

Meddai Alice Eklund: “Chwaraeodd Iphigenia yn Sblot ran enfawr yn fy nghyflwyniad i ysgrifennu newydd ac allai ddim aros i weld stori Effie yn dod yn fyw yn y Gymraeg. Mae gwneud y ddrama hon fel hyn yn teimlo mor amserol, mor berthnasol ac mor angenrheidiol ar hyn o bryd. Mae ysgrifennu Gary a chyfieithiad Branwen yn cyfateb yn berffaith, ac roedd ei glywed ar lafar yn rhoi’r un teimlad egniol, tanllyd i mi ac a ges i yr holl flynyddoedd yn ôl. Mae’r ddrama hon ar flaen y gad ym myd ysgrifennu newydd yng Nghymru, yn adeiladu byd newydd o gwmpas Effie, yn mynd â ni ar y daith gyda hi, yma ac yn awr.”

Cefnogir Iphigenia yn Sblot gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Manylion y daith:

 

5-9 Awst 2024

Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd

 

29 Awst - 7 Medi 2024

Theatr y Sherman, Caerdydd

 

10-11 Medi 2024

Theatr y Grand Abertawe

 

12 Medi 2024

Theatr y Met, Abertyleri

 

13 Medi 2024

Ffwrnes, Llanelli

 

14 Medi 2024

Awel-y-Môr, Porthcawl

 

17 Medi 2024

Theatr Mwldan, Aberteifi     

 

18 Medi 2024

Theatr y Torch, Aberdaugleddau

 

19-20 Medi 2024

Theatr Soar, Merthyr Tudful

 

24 Medi 2024

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu

 

25 Medi 2024

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

 

26 Medi 2024

Neuadd Dwyfor, Pwllheli

 

28 Medi 2024

Galeri Caernarfon