Yr wythnos nesaf yw wythnos olaf The Shape of Things to Come, sef tymor Volcano o berfformiadau byr newydd wedi’u creu gan artistiaid annibynnol o Gymru a thu hwnt.

Gorffennwn ar raglen ddwbl o weithiau gwhanol, pob un yn cael ei berfformio bedair gwaith o ddydd Iau 13 – dydd Sadwrn 15 Mehefin. Yn SANC, mae Akeim Toussaint Buck, ynghyd â’r artist gwadd Yamina Lyara, yn creu darn am noddfa, sancteiddrwydd ac adnewyddiad – deialog ymatebol sy’n cyfuno dawns, llais, testun a cherddoriaeth. Yn y cyfamser, yn NYTHU, mae Elin Phillips yn mynd â ni ar daith wyllt ac abswrd i fyd dryslyd bod yn fam newydd – gyda sudocrem, dawnsio disgo a chyngor dieisiau.

Perfformiad dydd Sadwrn o Nythu yw perfformiad hamddenol - yn berffaith ar gyfer rhieni â phlant ifanc, neu unrhyw un sy'n well ganddynt brofiad theatr mwy hamddenol.

Mae Akeim yn berfformiwr a gwneuthurwr rhyngddisgyblaethol a anwyd yn Jamaica ac a fagwyd yn Lloegr. Ar ôl graddio o The Northern School of Contemporary Dance yn 2014, dechreuodd Akeim greu ei waith ei hun yn 2015. Ei fwriad yw creu prosiectau gwefreiddiol, sy’n procio’r meddwl, yn hygyrch ac yn anghonfensiynol. Archwilir amrywiaeth o themâu i herio, goleuo a diddanu cynulleidfaoedd ag angerdd, o’r galon, gan wau amryfal ffurfiau ar gelfyddyd i greu sioe yng ngwir ystyr y gair. Gwahoddir cynulleidfaoedd nid yn unig i wylio, ond i fod yn rhan annatod o’r profiad. Nod y gwaith yw myfyrio ynghylch realiti, gan ystyried materion gwleidyddol-gymdeithasol cyfredol o safbwynt bwriadau dyngarol.

Mae Elin yn actor sydd yn ddiweddar wedi dechrau ysgrifennu a chynhyrchu ei gwaith ei hun. Mae’n aelod sefydlol o gwmni theatr Criw Brwd.

Bu’n gweithio’n ddiweddar gyda Riverfront yng Nghasnewydd, Theatr y Sherman, Theatr Genedlaethol Cymru, The Other Room a’r Raucous Theatre Company. Ymhlith yr holl waith arall y cafodd ei chydnabod amdano y mae hynny gyda’r West Yorkshire Playhouse, Theatr Clwyd, National Theatre Wales, Dirty Protest a Volcano.

Ar y sgrîn, bu Elin yn chwarae rôl y prif gymeriad, Rhian, mewn dwy gyfres o ddrama Tony Jordan, sef Crash. Mae’r rolau teledu eraill y cafodd gydnabyddiaeth amdanyn nhw’n cynnwys Will, Doctors, dramâu S4C, sef Zanzibar, Gwaith/Cartref, Y Syrcas, ynghyd â’r ddrama gomedi sefyllfa, Îha Sheelagh. Yn ogystal â hynny, mae Elin yn chwarae rhan Debra yn y ffilm gomedi Love Type D.