Gwahoddir busnesau ac unigolion sydd wedi’u lleoli yn y Diwydiannau Creadigol ledled Pen-y-bont ar Ogwr neu'n gweithio ynddynt i ymuno ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ar gyfer ein hail ddigwyddiad Rhwydwaith Diwydiannau Creadigol AM DDIM, gan archwilio pwysigrwydd, heriau a rôl cyfiawnder hinsawdd i'r sector diwylliannol.

Bydd cyfle i archwilio beth mae cyfiawnder hinsawdd yn ei olygu, pam ei fod yn faes pwysig i'r diwydiannau creadigol, pa gamau ystyrlon y gall busnesau ac unigolion eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater a pham mae mor bwysig i gyllidwyr a llywodraeth leol.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys Richard Bellinger, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Cymunedol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Ella Williams o Cymru Gynaliadwy, a fydd yn rhannu eu ffilm fer ddiweddar ‘Cysgu trwy Newid Hinsawdd?', a Julie's Bicycle – elusen nid-er-elw arloesol, sy'n ysgogi'r celfyddydau a diwylliant i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, natur a chyfiawnder.

Bydd dewis o ddiodydd poeth a chacennau hefyd ar gael.

Dydd Iau 21 Mawrth 2024

2-4pm

Tŷ Bryngarw, Parc Gwledig Bryngarw, Brynmenyn, Pen-y-bont, CF32 8UU

Rhannwch y gwahoddiad hwn gydag unrhyw bartïon eraill sydd â diddordeb. I archebu eich lle AM DDIM, e-bostiwch claire.cressey@awen-wales.com a nodwch unrhyw ofynion mynediad neu ddeietegol.

Mae'r prosiect hwn wedi ei ariannu gan lywodraeth y DG drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DG, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.