Rydym yn falch i weithio gyda’r Ganolfan Reoli i gynnig dau fwrsari i godwyr arian Cymru i fynychu Ysgol Codi Arian y Celfyddydau Cenedlaethol ym mis Tachwedd. Mae’r cwrs preswyl enwog hwn yn un dwys sy’n para 6 diwrnod a thrafodir yno strategaeth a thactegau i lwyddo cael arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau, busnesau ac unigolion - a llawer rhagor.

Mae cefnogi'r sector celfyddydol cynaliadwy yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Heddiw mae'r farchnad codi arian yn lle anodd. Mae llawer o fusnesau yn symud eu ffocws i agenda o gyfrifoldeb corfforaethol yn hytrach na nawdd dyngarol traddodiadol i’r celfyddydau, ac mae diffyg busnesau mawrion gennym yng Nghymru. Mae eisiau inni felly fod yn fwy entrepreneuraidd wrth frocera rhwng y ddau sector.

Yn yr un modd, mae angen agwedd fwy cynnil ar roi unigol, gan apelio i’r galon a’r meddwl yn wyneb llu o achosion da soffistigedig a niferus eraill. Ac wrth sôn am ymddiriedolaethau a sefydliadau, ni fu erioed y fath gystadleuaeth am eu harian.

Ac mae arianwyr yn mynnu cael rhagor na chais da. Rhaid i’r cais hwnnw fod yn dargedol gan gyflwyno’r gofyniad cywir i’r sefydliad cywir yn y ffordd gywir ac ar yr adeg gywir.

Wyneba codwyr arian celfyddydol her ar bob tu ac ymdrechwn ein gorau glas i'w helpu i lwyddo. Dyma pam felly yr ydym yn cynnig Bwrsari gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Ysgol Codi Arian y Celfyddydau Cenedlaethol. Darllenwch fwy am ofynion y bwrsari yma.