Bydd Gwen Yr Arth Wen yn teithio i theatrau bach, canolfannau cymunedol a llyfrgelloedd yn ystod Gwanwyn 2026. Rydym yn chwilio am Rheolwr Llwyfan llawrydd i weithio ar y sioe yn ystod ymarferion a'i mynd ar daith.
Mae Gwen Yr Arth Wen - wedi'i hysgrifennu gan Chris Harris a'i chyfarwyddo gan Elan Isaac - yn sioe i blant 6+ a'u teuluoedd y gall mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'i theulu. Ar ei thaith beryglus trwy fôr yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i'w dewrder, yn ogystal â'i ffordd adref. Perfformiad gweledol ac ysgogol i gynulleidfaoedd ifanc a'u teuluoedd ar newid hinsawdd a chartref yw hon.
Rydym yn chwilio am rywun sydd
- â phrofiad o deithio cynyrchiadau ar raddfa fach i amrywiaeth o leoliadau
- yn hyderus yn gosod offer LX a Sain syml
- yn gallu gyrru fan fach
- yn gallu gweithio mewn tîm cynhyrchu bach
- yn hyderus i ddatrys problemau a allai godi wrth deithio sioe i leoliadau o wahanol feintiau a gwahanol gyfleusterau
- gyda diddordeb mewn gwaith i blant a'u teuluoedd
- yn gallu siarad Cymraeg (nid yw hyn yn hanfodol ond mae'n ddymunol)
Dyletswyddau'r Rheolwr Llwyfan fydd:
- Mynychu a dogfennu ymarferion
- Cefnogi'r Cyfarwyddwr a'r Perfformiwr yn ystod ymarferion gan gadw amser, nodi’r blocio, golugu’r copi ‘prompt’ a dyletswyddau Rheoli Llwyfan arferol eraill.
- Cynorthwyo Dylunwyr LX a Sain gyda'r gwaith paratoi ar gyfer ymarferion technegol yn Riverfront
- Gweithredu'r sioe (sain syml a chiwiau LX)
- Mewn cydweithrediad â'r Cynhyrchydd, cysylltu â lleoliadau cyn y daith ynghylch gofynion technegol
- Gyrru'r fan ar y daith (ni fydd unrhyw leoliad yn bellach na 90 munud o Gaerdydd)
- Arwain y broses o baratoi ym mhob lleoliad (gyda cefnogaeth y perfformiwr a staff y lleoliad)
- Arwain y broses o wagu a llwytho'r fan (gyda cefnogaeth y perfformiwr a staff y lleoliad)
- Darparu adroddiadau ymarfer a sioe i'r tîm creadigol cyfan
Dyddiadau
Mae'r ymarferion yn dechrau 26ain Ionawr yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd
Dyddiadau'r daith 14eg - 22ain Chwefror a 23ain - 12fed Ebrill
Ni fydd angen aros dros nos ar y daith
Ffioedd
£650 yr wythnos
Er mwyn mynegi diddordeb yn y rôl hon, anfonwch neges fer yn amlinellu eich profiad yn ogystal â'ch CV at Glesni Price-Jones - Cynhyrchydd (glesnipj@gmail.com) erbyn 09:00 17eg Hydref 2025.