“Hwn oedd y DPP wyneb yn wyneb cyntaf imi ei wneud ers blynyddoedd, a fy nghwrs WWTP cyntaf, roedd Tracey, Heidi a Francine, wedi creu lle anhygoel, ysbrydoledig, cynhwysol a diogel i alluogi ymarferwyr i rannu heb ofn neu farn. Pan adawais i’r diwrnod, roeddwn i’n teimlo fy mod i’n rhan o deulu dawns arbennig, gyda chysylltiadau newydd a llai o’r ynysiad y mae’n bosib teimlo wrth fyw a gweithio mewn ardal wledig. Ond hefyd cysylltiad newydd gyda fy ymarfer fy hun, gydag amcanion i anelu atyn nhw.

Y Rhaglen

Ers ei chychwyn yn 2013, mae Rhaglen Hyfforddiant Cymru Gyfan (WWTP) wedi ceisio ysbrydoli a chynnal dawns gymunedol yng Nghymru drwy ddarparu hyfforddiant mewn ffordd strategol, sy’n ymateb i anghenion y sector. Mae’n ceisio cwrdd ag anghenion cymorth a datblygiad ymarferwyr dawns gymunedol llawrydd o fewn cyd-destun ehangach tirlun dawns gymunedol Cymru.

Rheolir WWTP gan Rubicon Dance ac mae’n creu a chysylltu rhwydwaith o fwy na 25 sefydliad a 320 o unigolion gan weithio gyda’i gilydd i gefnogi datblygiad proffesiynol a hyfforddiant i’r sector dawns gymunedol ledled Cymru. Mae’r rhaglen sy’n cynnwys mwy na 17 llinyn o weithgaredd yn cael ei chefnogi drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Trwy ei gweithgareddau craidd, nod WWTP yw cyfrannu at ddatblygu’r gweithlu a gwell darpariaeth dawns gymunedol drwy gynnig cyfleoedd amrywiol, rheolaidd a pherthnasol i ymarferwyr dawns ar bob cam o’u taith gyrfa. Mae’n anelu at wneud hyn drwy -

  • Datblygu ac uwchsgilio’r gweithlu dawns yng Nghymru er mwyn sicrhau gwella parhaol mewn ansawdd a datblygu meysydd ymarfer newydd a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion blaenoriaethau strategol;
  • Gwella cyfleoedd gwaith a chwrdd â’r gofyn am ymarferwyr dawns medrus i ddod â dawns gymunedol i gynulleidfa ehangach;
  • Meithrin a rhannu arfer artistig gorau ac ysbrydoli menter;
  • Lleihau ynysiad proffesiynol;
  • Cefnogi ymarfer arbenigol yn y meysydd hynny y nodwyd eu bod yn flaenoriaethau strategol gan y sector megis Dawns ac Iechyd;
  • Cefnogi cynaliadwyedd y sector drwy sicrhau bod y gweithlu yn addas i’w ddiben yn ogystal â chael ei gefnogi yn gymdeithasol, economaidd ac emosiynol.

Felly, mae gwaith WWTP yr un mor berthnasol i ymarferwyr unigol yn ogystal â’r sefydliadau dawns, sefydliadau celfyddydau eraill, lleoliadau a chyflogwyr traws-sector sy’n eu cyflogi i gefnogi eu rhaglenni.

“Fel grŵp cyfunol, mae gan sefydliadau dawns a gweithwyr llawrydd fforwm i drafod anghenion hyfforddiant, rhannu syniadau ac, yn fwy pwysig, gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y sector dawns gymunedol yn parhau i greu rhwydwaith dawns gymunedol uchelgeisiol a gweithredol ledled Cymru.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae’r Astudiaeth Achos hon yn ceisio cyd-fynd â dwy Astudiaeth Achos arall gyda chyfle i edrych yn fanwl ar sut mae’r rhaglen wedi cael effaith ar y gweithlu dawns gymunedol llawrydd ledled Cymru.  

Y Cyflwr Llawrydd

Roedd 211,600 o bobl hunangyflogedig yng Nghymru, megis 8.3% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn, o’i gymharu â 9.7% yn Lloegr. O gyfanswm y bobl hunangyflogedig yng Nghymru, roedd 38,000 (1.5% o’r holl breswylwyr arferol 16 oed a hŷn) yn cyflogi pobl eraill a 173,600 (6.8%) yn hunangyflogedig heb weithwyr.

Mae dawnswyr yn bennaf yn weithwyr portffolio hunangyflogedig – a elwir yn aml gweithwyr llawrydd – ac maen nhw’n ffurfio microfusnesau sy’n darparu gwasanaethau i sefydliadau, comisiynwyr ac asiantaethau cyhoeddus.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y dawnswyr hyn yn gweithio mewn tri maes rhyng-gysylltiedig: eu hymarfer greadigol craidd eu hunain yn bennaf wedi’i lleoli yn eu ffurf gelf eu hunain fel perfformwyr neu goreograffwyr, gwaith sy’n gysylltiedig â chelfyddydau arall a all gynnwys dysgu yn y ffurf gelf, gweinyddu’r celfyddydau, datblygu celfyddydau cymunedol neu ysgrifennu am y celfyddydau a gwaith y tu allan i’r celfyddydau gan gynnwys gwaith cyflogedig nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw faes artistig a gwaith di-dâl megis gwirfoddoli neu astudio y tu allan i’r celfyddydau.

Mae amrywiaeth o fanteision o weithio yn y modd hwn gan gynnwys:

  • Rhyddid a hyblygrwydd – gwaith portffolio;
  • Amrywiaeth o waith a phrofiadau – mae pob dydd yn wahanol;
  • Ymreolaeth a rheolaeth;
  • Creu rheolau eich hunan;
  • Gwneud yr hyn rydych chi’n caru ei wneud;
  • Chi sy’n fos ar eich hun – mae ‘cyfarfodydd staff’ gyda chi eich hun;
  • Gweithio i’ch gwerthoedd chi;
  • Dysgu parhaus;
  • Rhyddid o ran lleoliad – nomadiad digidol

Ond, mae llawer o anfanteision hefyd gan fod y gweithlu hwn yn gyffredinol heb gefnogaeth ac yn hunangynhaliol:

  • Ansicrwydd, risg ac ansefydlogrwydd;
  • Prinder sefydlogrwydd economaidd a chymdeithasol;
  • Heb wyliau â thâl neu dâl salwch;
  • Gweithio ar ben eich hun – ynysiad ac unigrwydd;
  • Afreoleidd-dra ac anawsterau wrth gynllunio – brigau a phantiau;
  • Llawer o deithio a diffyg sefydlogrwydd a bywyd cartref sy’n gysylltiedig â hyn;
  • Gweithio ar draws prosiectau a rolau amryfal;
  • Gweithio oriau hir;
  • Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith – “ … mae’n anodd peidio â meddwl am waith yn gyfan gwbl gan fod ein cartref yn aml yn ein gweithle hefyd ac mae gwahaniaethu rhwng ein bywyd proffesiynol a phreifat yn aml yn anodd”;
  • Teimlo eich bod chi ond ‘cystal â’ch swydd ddiwethaf’ ac felly mewn perygl o gytuno i wneud gormod o waith rhag ofn ichi gael eich gadael ar ôl;
  • Gwerthu eich gwaith a dweud ‘na’;
  • Yn aml nid yw ymddeol yn opsiwn oherwydd diffyg sicrwydd ariannol a theimlo hyd yn oed mwy o bwysau i barhau i ‘berfformio’.  
  • Hunanofal ac nid gofal ar y cyd – bod y tu allan i strwythurau cefnogaeth sefydliadol.

Yn y cyd-destun hwn mae WWTP yn ceisio creu, cefnogi a datblygu cymuned dysgu a all gefnogi’r gweithlu y mae cymaint o sefydliadau yn dibynnu arnynt i ddarparu rhaglenni o weithgaredd dawns.

“Ni fyddwn i’n gallu byw ar fy ngwaith llawrydd yn unig. Rydw i’n dibynnu ar ddau ddiwrnod o waith cyflogedig i dalu fy miliau ac mae hyn yn fy ngalluogi i i wneud y gwaith arall” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae bod yn rhan o WWTP wedi fy ngalluogi i i ddeall anghenion yr ymarferwyr llawrydd rydw i’n gweithio gyda nhw a sut gallaf i eu cefnogi nhw. Mae’r fforwm yn ein galluogi ni i ddatblygu ein dealltwriaeth a ffyrdd o weithio er lles yr ecoleg gyfan.” (Partner)

Ffactorau Llwyddiant Allweddol

  • Fforddiadwyedd a Hygyrchedd

Efallai y byddai’n swnio braidd yn rhyddeithiol ond mae’n mor bwysig eu bod nhw’n fforddiadwy a hygyrch yn nhermau teithio. Pan oeddwn i’n gweithio’n llawrydd, yn aml roeddwn i’n edrych ar gyrsiau a dyddiau hyfforddi (mewn mannau eraill) a cheisio penderfynu a oedd unrhyw fodd imi gyfiawnhau’r gost. Gan fod dyddiau’r WWTP yn fforddiadwy a hygyrch, mae’n golygu fy mod i wedi gallu ehangu fy nysgu. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bawn i’n teimlo fy mod i dim ond yn gallu mynychu hyfforddiant a fyddai o ddefnydd yn fy ngyrfa yn syth.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Fel gweithiwr llawrydd yn ne Cymru yn aml yn gweithio ar ben fy hun, gall fod yn anodd rhannu syniadau yn greadigol. Mae cael dyddiau hyfforddi yng Nghymru am bris fforddiadwy yn galluogi ymarferwyr i ddod ynghyd i wneud hynny’n union, gyda mewnbwn gan arbenigwyr mewn meysydd penodol.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Des i ar draws WWTP ar Facebook ychydig ar ôl imi symud i Gymru. Roeddwn i’n derbyn Credyd Cynhwysol felly ces i le am ddim ar gwpl o gyrsiau a datblygodd hyn fy hyder a ches i groeso cynnes gan gymuned o bobl rydw i’n gallu ymgysylltu â nhw.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae yna rwystrau i fynediad sydd yn ddaearyddol ac ariannol. I fynd i’r afael â hyn mae’r rhaglen digwyddiadau yn cael ei chynnal ledled Cymru mewn gwahanol leoliadau gan weithio gyda gwahanol bartneriaid ac mae llawer o’r digwyddiadau a’r cymorth yn cael eu cynnig ar-lein er mwyn lleihau’r rhwystrau o ran costau teithio, llety ac amser.

Cydnabyddir bod cost yn faich arbennig i ymarferwyr dawns llawrydd – mae’n rhaid iddynt dalu am fynychu’r hyfforddiant yn ogystal â cholli incwm. Felly, ni fydd unrhyw un yn colli’r cyfle i gymryd rhan mewn unrhyw rai o wahanol linynnau WWTP oherwydd ei sefyllfa ariannol bresennol. Ar gyfer digwyddiadau DPP, cedwir tri lle di-dâl ar gyfer gweithwyr llawrydd sy’n golygu bod y ffi am fynychu yn cael ei diddymu yn gyfan gwbl. Diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae nifer o ddigwyddiadau WWTP yn ddi-dâl i’w mynychu gyda chyfres o chwe sesiwn hyfforddi yn costio £50.00. Gall pobl ddewis a mynychu digwyddiadau unigol am £10.00.

  • Asiantaeth

“Mae’r rhaglen y dechrau gyda fformat y cynllunio lle mae cynrychiolwyr o’r sector o bob rhan o Gymru, gweithwyr llawrydd a sefydliadau yn cwrdd, a gwneud penderfyniadau ar y rhaglen hyfforddi, ac mae hyn yn allweddol i lwyddiant y rhaglen.”  (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Er bod Rubicon Dance yn arwain a rheoli WWTP ac yn trefnu digwyddiadau bob blwyddyn mae’r rhaglen yn cael ei strwythuro i sicrhau bod gweithwyr llawrydd wrth ganol y broses o wneud y penderfyniadau am ba hyfforddiant sydd ei angen a sut i’w drefnu. Mae sefydliadau partner ac unigolion – y mae llawer ohonyn nhw yn gweithio’n llawrydd – yn rhannu penderfyniadau am y rhaglen hyfforddi ac yn cyd-weithio ar ei darparu ac yn rhannu adborth a syniadau sy’n llywio’r rhaglennu.

Yn aml caiff Cyfarfodydd Rhwydwaith eu rhaglennu i gyd-ddigwydd â digwyddiadau DPP ac estynnir gwahoddiadau i’r rheini sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn. Mae hyn yn cyflwyno’r cyfle i gymryd rhan yn y cyfarfodydd hyn, gan eu gwneud nhw’n hygyrch i unrhyw ymarferydd a allai fod wedi mynychu’r DPP ar y diwrnod hwnnw, ac yn dod â safbwynt ychwanegol buddiolwyr y rhaglen i flaengynllunio’r rhaglen. Mae hyn yn creu cyfle uniongyrchol i’r gweithlu llawrydd gael mewnbwn yn y broses o wneud penderfyniadau.

  • Cadarnhad

“Mae’n beth rhyfedd a gwerthfawr i deimlo eich bod chi’n cael eich cadarnhau a’ch dilysu yn eich ymarfer eich hunan. Mae WWTP yn darparu platfform hyfryd, anffurfiol i gydweithwyr i rannu gwybodaeth, sgiliau, ymchwil, syniadau ac ymarfer ac mae hefyd yn rhoi’r cyfle i ymchwilio ac ymestyn eich dealltwriaeth am eich ymarfer eich hun a theithio drwy fyfyrio gydag eraill.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae’n anodd fel gweithiwr llawrydd oherwydd mae’n gallu bod yn eithaf unig a gallwch chi fod ar eich ymyl. Mae Tracey yn dal lle mor dda. Mae hi’n chwilfrydig ac â diddordeb gwirioneddol mewn pob unigolyn felly rydych chi’n teimlo fel eich bod chi’n cael eich dilysu ac yn cael platfform. Pan ofynnodd hi imi roi sgwrs, roedd yn teimlo fel braint.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Fel cymuned ddysgu, mae WWTP yn denu lot o arbenigedd o’r tu mewn felly gall ymarferydd llawrydd fynychu digwyddiad DPP un mis, ac arwain DPP y mis nesaf. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd am waith ond hefyd yn cadarnhau ymarfer yr ymarferydd.

“Rydw i wedi cymryd rhan mewn sawl ffordd, mynychu sesiynau, arwain hyfforddiant ac fel aelod o sefydliad partner. Maen nhw gyd yn ffyrdd defnyddiol i gymryd rhan. Dysgais gymaint o’r sesiynau gwerthuso ac roedden ni’n gallu sicrhau rhagor o gyllid a datblygu mwy o waith ar sail y dystiolaeth a gasglwyd. Mae arwain sesiynau yn rhoi ichi’r cyfle i fyfyrio ar eich gwaith a’ch ymarfer a mynegi hyn i eraill a chreodd fwy o waith imi.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

  • Organig

“Mae’r cyfleoedd wedi cael eu hadeiladu’n raddol – mae wedi tyfu mewn ffordd organig gyda haenau newydd yn cael eu hychwanegu wrth i angen gael ei nodi. Mae cyfleoedd wedi datblygu yn debyg i ddatganiad byrfyfyr mewn darn o ddawns. Dydy hi ddim wedi teimlo’n lletchwith ond wedi tyfu a datblygu yn naturiol.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae WWTP yn ymatebol i angen ac mae’n debyg ei bod yn datblygu ei rhaglen mewn ffordd organig.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae’r gofod yn cael ei ddal mewn ffordd hyfryd. Mae Tracey wedi bod ‘ni’, mae hi’n deall yr angen ac yn canolbwyntio gymaint ar yr artist. Mae hi’n addasu a newid rhaglenni sy’n cwrdd â’r anghenion wrth iddyn nhw newid. Pan mae sefydliadau yn trefnu hyfforddiant, yn aml mae wedi’i drefnu i gwrdd â’u hanghenion nhw – yr hyn maen nhw am i chi ei wneud neu wybod – nid anghenion yr ymarferwyr. Mae WWTP yn cael ei harwain gan ein hanghenion ni.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae’n eglur gan daith WWTP bod canolbwynt ar dwf organig sy’n ymatebol i angen wedi bod yn rhan hanfodol o’i llwyddiant. Mae rhai rhaglenni wedi cael eu ‘sgaffaldio’ i ddarparu cyfleoedd dilyniant a phwyntiau mynediad gwahanol yn ôl angen fel y gwaith cymorth Gwerthuso sydd wedi cynnwys hyfforddiant a datblygiad sgiliau, cefnogaeth un i un, rhannu arfer gorau a chymorth cymar i gymar.

  • “Agored, Diogel a Thrafodol”

“Rydw i’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau rydyn ni’n eu cael ynghylch Celfyddydau ac Iechyd. Does dim agenda rydyn ni dim ond yn siarad a rhannu profiadau, digwyddiadau, heriau a chyd-destun ac mae hyn yn bwysig oherwydd rydyn ni ar adeg mewn amser gyda’r gwaith hwn ac mae’n rhaid inni weithio allan beth sy’n bwysig, pa sgiliau sydd angen arnon ni yn y gweithlu a sut i gefnogi’r gweithlu yn well.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae’r trefniant yn anhygoel – fel arweinydd neu rywun sy’n mynychu cyfarfod neu sesiwn rydw i’n gwybod bydd popeth wedi’i drefnu ac yn ei le. Rydw i’n ymddiried ynddi yn llwyr. Mae’r cyfathrebu yn wych a bob amser chymerir amser i siarad â phobl, i adeiladu perthnasau ac i dalu sylw ac i wrando. Mae yna ddiwylliant o fewn WWTP sydd yn agored, diogel a thrafodol. Rydw i’n teimlo fy mod i’n cael fy adnabod a gwerthfawrogi hyd yn oed cyn imi fynd i mewn i’r gofod.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae’n ofod anfarnol sy’n cael ei ddal yn dda ac yn ddiogel.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae’n ddiddorol i nodi er bod sawl ymarferydd wedi sôn bod hyn yn ymwneud â rheolaeth y rhaglen, roedd hefyd awgrym bod rhan o hyn yn ymwneud â’r ffaith bod yr ymarferwyr hynny a oedd yn mynychu ar gyfnodau mor wahanol o’u teithiau gyrfa. Roedd ymarferwyr mwy aeddfed ddim yn unig yn arwain sesiynau, ond hefyd yn eu mynychu, roedd ymarferwyr iau newydd ddim yn mynychu digwyddiadau arbennig wedi’u hanelu atyn nhw ond roedd pawb yn ‘cymysgu’ a dysgu oddi wrth ei gilydd.

“Pan ydych chi’n ‘hŷn’, mae’n gallu teimlo fel nad oes unrhyw le i fynd gan fod hyfforddiant yn tueddu i gael ei anelu at ymarferwyr newydd. Dydy WWTP ddim yn gwneud hyn ond yn adlewyrchu pob llais a phrofiad a hyd yn oed pan ydw i’n arwain sesiynau, dydw i ddim yn teimlo fel hyfforddwr ond rhywun sy’n rhannu ymarfer ar delerau hafal.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Yr Effaith

  • Cefnogi Ynysiad drwy Rwydweithio a Chysylltiad

“Mae’r digwyddiadau hyfforddi i gyd wedi ehangu fy mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel a lleihau ynysiad proffesiynol – heb ddigwyddiadau WWTP dw i’n credu byddaf i braidd yn gallu mynychu un digwyddiad DPP y flwyddyn a ni fyddai modd imi gwrdd, a chysylltu ag arweinwyr dawns gymunedol eraill yng Nghymru.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae WWTP wedi bod yn rhaff achub fel ymarferydd dawns llawrydd, yn enwedig yn byw yng Nghymru wledig lle nid yw bob amser yn hawdd cael mynediad at gyfleoedd DPP o ansawdd uchel rheolaidd. Wrth ymuno â sgyrsiau WWTP rhagorol, rydw i wedi cael y pleser o gyfarfod â, a dysgu oddi wrth ystod eang o bobl eithriadol o dalentog ac i roi ar waith yr hyn rydw i wedi’i ddysgu yn fy ymarfer fy hun.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae’n ymddangos bod digwyddiadau WWTP yn cynrychioli pwynt pwysig o gysylltiad, rhannu, bondio ac undeb gyda’u cymheiriaid, amser o ansawdd ar gyfer rhannu dysgu, myfyrio, dawnsio a sgwrs. Mae hyn yn cael effaith cymdeithasol a seicolegol. Mae’n ymddangos bod digwyddiadau DPP yn arbennig yn lliniaru teimladau o ynysiad proffesiynol, gan alluogi ymarferwyr i deimlo bod ganddyn nhw gysylltiad a chymorth. Y tu hwnt i’w gwerth fel cyfleoedd i ddysgu, mae aelodau’r rhwydwaith yn gwerthfawrogi’r cyfeillgarwch, undeb a chymuned sy’n cael eu cynnig gan gyfarfod yn rheolaidd.

“Mae’n cynnig teimlad o gydlyniad; yn ein cadw ni gyd i drafod y gwaith rydyn ni’n ei wneud.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Anogaeth, brwdfrydedd, rhannu gwaith a syniadau...gwneud cysylltiadau gydag arweinwyr dawns eraill fel fi fy hun.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Cysylltu ag ymarferwyr eraill sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Rydw i’n teimlo’n rhan o gymuned yma yng Nghymru ac yn hynny, rydw i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghefnogi a fy ngwerthfawrogi.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Dyddiadau i edrych ymlaen atyn nhw, i wybod byddaf i’n cael fy mwydo fel dysgwr yn hytrach na bwydo pobl eraill fel arweinydd.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

  • Datblygu Sgiliau

“Mae’n cynnig pwynt cyswllt – gallwch chi gymryd rhannau sydd o ddefnydd i chi i mewn i’ch ymarfer eich hun. Dydy hi ddim yn gyfarwyddol.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Rydw i wedi dysgu gymaint drwy fynychu’r sesiynau gan ymarferwyr mwy profiadol yn ogystal â fy nghymheiriaid.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Dydy WWTP ddim yn cynnig modelau i’w dilyn ond yn ennyn meddwl am ymarfer drwy rannu dysgu sydd yn eich grymuso a dilysu.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae’r agwedd hon tuag at ddatblygu sgiliau yn allweddol i lwyddiant y rhaglen. Nid yw’r hyfforddiant yn cael ei arwain gan angen sefydliadol ond gan angen y sector. Mae’n ailadroddol ac wedi’i arwain gan ymarferwyr.

  • Lles

“Mae haen o les o dan y rhaglen ac yn y bôn mae’n ymwneud â chymuned. Fel gweithiwr llawrydd rydych chi’n jyglo cymaint o hetiau gwahanol ac felly mae lles yn allweddol ac mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar gysylltiadau gydag eraill.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Daeth digwyddiad hyfforddi WWTP diweddar yng Nghaerdydd â grŵp o ymarferwyr ynghyd i edrych ar Ddawns ac Iechyd ac roedd rhan o’r sesiwn yn ymchwilio eu sicrwydd ac ansicrwydd wrth weithio yn y sector iechyd. Roedd yr hyn a ddaeth i’r amlwg yn ehangach ac yn amlygu anghenion y gweithlu llawrydd gyda’u hiechyd a lles eu hunain. Rhai enghreifftiau:

    • Hyder neu les meddwl/corfforol cyffredinol
    • Teimlo’n ddigon da
    • Ai hwn yw’r llwybr cywir?
    • Poeni am, neu’n teimlo o dan bwysau i wneud argraff barhaol/gyntaf dda mewn amgylcheddau newydd
    • Colli cysylltiad
    • Ddim yn cael digon o £££ allaf i gynnal fy nheulu?
    • O ble mae’r gwaith nesaf yn dod?
    • Yr anhysbys
    • Ydw i’n gwybod digon – ydw i’n ddiogel yn fy ymarfer?
    • Iechyd personol
    • Hunan-amheuaeth/pryder/bod yn rhy lym ar fy hun/monologau mewnol
    • Lot i ddal – unigolion yn dod â phethau eu hun i mewn i’r gofod
    • Cadw pobl yn ddiogel, yn enwedig ar eu taith i ac o sesiynau
    •  
  • Datblygu’r Sector, Adeiladu Capasiti a Chryfhau’r Ecoleg

“Gall rhwydweithio gydag arweinwyr dawns eraill dim ond cryfhau’r sector dawns gymunedol yng Nghymru.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Mae cyfranogwyr, cyfranwyr a sefydliadau sy’n lletya yn amlygu’r buddion strategol a phroffesiynol y mae holl ddigwyddiadau WWTP yn creu i rwydweithio, cael y diweddar am ddatblygiadau yn y sector, a chynnal ac adeiladu perthnasau proffesiynol. Mae hyn yn pwyntio at effaith y rhaglen ar yr ecoleg gyfan. Nid yw WWTP yn unig yn rhaglen hyfforddi i ymarferwyr, mae’n cysylltu gyda’r sefydliadau sy’n ymgysylltu â nhw ac yn eu cryfhau nhw ar yr un pryd. 

“Rydw i wedi cwrdd â lot o gysylltiadau newydd ac wedi gwneud cysylltiadau gyda sefydliadau dawns eraill a fydd yn fy helpu i drwy fy ngyrfa yn y dyfodol.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Mae hyn yn gyfle gwerthfawr i ymarferwyr a chomisiynwyr i fyfyrio gyda’i gilydd ac i uwchsgilio. Mae’n bwysig i mi fel ymarferydd llawrydd i gael hyn fel cyfle i hyfforddi a phwynt cysylltiad rheolaidd.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Pandemig Covid-19

“Rydw i wir yn credu byddwn i wedi symud i ffwrdd o ddawns yn ystod Covid heb WWTP. Roedd rhaid imi wneud gwaith arall, fel cymaint o bobl eraill. Roedd rhaid imi ofyn ‘ydw i’n mynd i ddilyn yr hyn dwi am ei ddilyn neu symud i mewn i fusnes y teulu?’ Roedd cymorth Tracey a Cai yn rhaff achub.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

“Roedd cael rhywun yn gofyn “Wyt ti’n iawn?” oedd y cwestiwn mwyaf pwysig gall unrhyw un wedi gofyn imi bryd hynny. Roedd yn golygu cymaint.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Pan ddaeth y pandemig ym Mawrth 2020, addaswyd pob llinyn o’r WWTP. Mae rhan fawr o’r hyn a ddysgwyd o addasu’r rhaglen wedi parhau i lywio’r cynllunio a datblygiad. Roedd symud ar-lein yn ehangu’r hygyrchedd gan ei fod yn golygu bod costau yn is, a chostau teithio a llety yn cael eu dileu yn gyfan gwbl.

Daeth cymorth, ymarferol a bugeiliol, i weithwyr llawrydd, yn arbennig o bwysig gan eu bod nhw’n teimlo’r effaith hyd yn oed yn drymach na’r rheini a oedd yn cael cymorth emosiynol ac ariannol gan sefydliad. Yn arbennig, roedd gweithwyr llawrydd yn gwerthfawrogi’r cynhesrwydd, caredigrwydd, gofal a dynoliaeth yr oedd y ddarpariaeth hon yn eu cynnig iddyn nhw.

“Mae Tracey wedi bod yn gymorth anhygoel i gymaint o bobl drwy’r pandemig. Mae hi fel cofleidiad mawr ei angen! Mae ei hagwedd yn gynnes, sicr, diogel a chreadigol iawn.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

Crëwyd Sesiynau Cymorth Ymarfer Creadigol wedi’u hwyluso gan Cai Tomos, gan WWTP fel ffordd i ddarparu mwy o gymorth i ymarferwyr. Mae’r sesiynau hyn wedi parhau i fod yn nodwedd bwysig o raglen y WWTP ac yn cael eu gwerthfawrogi gan ymarferwyr llawrydd.

“Rodd y sesiynau yn rhaff achub amhrisiadwy i mi yn ystod tymor yr hydref. Roedd gwaith yn brin ac roeddwn i’n colli ffydd yn fy nghreadigrwydd, sgiliau a gwybodaeth. Roddwn i’n edrych ar newid gyrfa i ffwrdd o’r celfyddydau gan fy mod i ddim yn gallu gweld dyfodol hyfyw i fy hun. Roedd y sesiynau dawnsio a siarad mor werthfawr i fy atgoffa i pam rydw i’n dawnsio, pam mae dawns yn bwysig (a hanfodol) a bod ffordd i wneud iddi weithio bob amser. Roedd y sesiynau yn cael eu harwain yn fedrus ac roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi fy nghefnogi ac mewn dwylo diogel drwy’r amser.” (Ymarferydd Dawns Llawrydd)

I’r Dyfodol

Wrth i WWTP symud i’r dyfodol ac yn parhau i ddatblygu mewn ffordd organig, mae’n bwysig pwysleisio’r gwerth y mae’n dod i’r sector dawns yn ogystal ag i’r gymdeithas ehangach. Mae hwn yn sector tameidiog ond eto rhyngddibynnol yn darparu gwasanaethau gwerthfawr i sawl sefydliad traws-sector gan gynnwys y sector iechyd. Mae’r gweithlu wedi’i wasgaru’n ddaearyddol ledled Cymru ac mae’r sector yn fregus, ansefydlog ac yn aml wedi’i ynysu. Mae WWTP wedi ymateb i’r anghenion am gyswllt a chyfleoedd hygyrch i rwydweithio a datblygu sgiliau.

Wrth i’r rhaglen symud ymlaen mae sawl cyfle i dyfu’r rhaglen er mwyn parhau i gefnogi’r ecoleg:

  • Mae cyfle i fwydo dysgu i mewn i’r adolygiad o ddawns sydd i ddod a fydd yn cael ei wneud gan Gyngor Celfyddydau Cymru;
  • Mae angen cynyddol am ymarferwyr dawns i weithio yn y sector iechyd gyda thwf Presgripsiynu Cymdeithasol ac, ar gyfer hyn, mae angen gweithlu sy’n addas i’w ddiben ac sy’n gallu ymateb i angen;
  • Mae’n rhaid bod y gweithlu yn cael ei feithrin fel bod lles ac iechyd yr ymarferwyr yn cael eu gweld i fod yr un mor bwysig â lles ac iechyd y cyfranogwyr;
  • Ers y pandemig, mae angen gwneud mwy o waith rhagweithiol ar dâl ac amodau ac arferion cyflogaeth. Mae rhai ‘codau’ ymarfer a maniffestos newydd sy’n datblygu y gellid eu haddasu a’u newid i weithio yng Nghymru ac mae WWTP yn mewn sefyllfa dda i arwain ar hyn.

Llywiwyd yr adroddiad hwn gan ddata a gasglwyd gan Tracey Brown, Arweinydd Datblygiad, Hyfforddiant a Mentora, Rubicon Dance ac adroddiad byr wedi’i ysgrifennu gan Esther KilBride, Ymarferydd Dawns Gymunedol, Rubicon Dance. Tynnodd Dr Susanne Burns y deunydd at ei gilydd ar ôl gwneud sawl cyfweliad gydag ymarferwyr dawns llawrydd.

Diolch yn fawr i bob un o’r ymarferwyr dawns llawrydd o bob rhan o Gymru sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad hwn.

Mae astudiaeth achos gan Dr Susanne Burns ar gael sy’n canolbwyntio ar y Sesiynau Cymorth Ymarfer Creadigol wedi’u hanelu at ymarferwyr llawrydd ac wedi’u hwyluso gan Cai Tomos drwy’r Gymraeg, Saesneg neu’n Ddwyieithog. https://www.rubicondance.co.uk/cai-tomos-case-study

Mae hefyd astudiaeth achos gan Dr Susanne Burns ar Raglen Hyfforddiant Cymru Gyfan ar gael yma: https://www.rubicondance.co.uk/wales-wide-training-programme-short-review-2013-2022

Mae’r ddolen isod yn ffilm a oedd yn canolbwyntio ar sut oedd WWTP yn cefnogi ymarferwyr llawrydd drwy gydol y pandemig.

https://youtu.be/U0SF28NQNvU

Ffynhonnell: Y Farchnad Lafur yng Nghymru, Cyfrifiad 2021

https://www.llyw.cymru/y-farchnad-lafur-theithio-ir-gwaith-yng-nghymru-…