Mae Ballet Cymru wrth ei fodd i rannu'r newyddion anhygoel ein bod ni wedi derbyn cyllid o Gyngor Celfyddydau Cymru, Y Linbury Trust a'r Postcode Community Trust, i barhau ein rhaglen hyfforddiant dawns genedlaethol Duets, i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Dechreuodd Duets yn 2012 ac mae'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda 5 sefydliadau dawns genedlaethol, 7 ysgol gynradd a 6 theatr ac yn cynnwys dros 200 o blant yn wythnosol. Mae'r cyllid yma yn galluogi Ballet Cymru i barhau gyda'r rhaglen sefydledig, arwain preswyliadau yn ysgolion newydd, hyfforddi ymarferwyr dawns ychwanegol a chynnig hyfforddiant mwy pwrpasol i'r Llysgenhadon Duets arbennig!

Diolch i'r holl arianwyr am alluogi hyn i ddigwydd:

Cyngor Celfyddydau Cymru/Llywodraeth Cymru

Ymddiriedolaeth Linbury

Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post

Partneriaid Duets:

Eleni

Dawns i Bawb

Impelo

Arts Care Gofal Celf

Jukebox Collective

Partneriaid Lleoliad:

Torch, Aberdaugleddau

Ffrwnes, Llanelli

Pontio, Bangor

Theatr Glan yr Afon, Casnewydd

Theatr Clwyd, Mold

Theatr Brycheiniog, Brycheiniog

Am fwy o fanylion am y Rhaglen Duets, ewch i www.duetsdancewales.com  neu cysylltwch â Louise Prosser, Rheolwr Prosiect DUETS louiseprosser@welshballet.co.uk