Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19 ar gyfer eu rhaglen arloesol Dysgu creadigol drwy’r celfyddydau. Mae’r adroddiad yn amlinellu ystadegau allweddol y rhaglen yn ogystal â rhoi llais i ddisgyblion, athrawon ac artistiaid o bob cwr o Gymru, ac yn trafod y gwahaniaeth y mae’r rhaglen hon yn parhau i’w chael ar draws meysydd addysg a chelfyddydol Cymru.

 Rhai o ffigurau allweddol blwyddyn yr adroddiad:

  • Dros 4,000 o gyfleoedd i athrawon ymgysylltu â dysgu proffesiynol
  • 319 o grantiau Ewch i Weld
  • Dros 119,000 o gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan yn y Cynllun
  • 1,188 o ysgolion  wedi cymryd rhan (79% o ysgolion yng Nghymru)
     

Wrth ddisgrifio effaith y cynllun, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams:

“Mae wedi bod o fudd aruthrol bod Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau wedi rhedeg ochr yn ochr ag agenda diwygio addysg Llywodraeth Cymru, ac ni allaf bwysleisio'n ddigon uchel y cyfraniad hanfodol a wneir gan y ddarpariaeth hon, ac yn fwy cyffredinol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i lywio datblygiad ein cwricwlwm newydd.”

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae penaethiaid ysgolion yn dweud wrthym fod y Cynllun yn eu helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, ac mae’n nhw nawr yn defnyddio arferion Newydd i gynllun ysgolion a dylunio'r cwricwlwm. Maent yn rhannu eu harferion creadigol ar draws yr ysgol gyfan er mwyn hoi creadigrwydd wrth galon dysgu.”

Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys mapiau sy’n dangos gweithgarwch y rhaglen ym mhob rhan o Gymru. Mae astudiaethau achos y cynnwys dyfyniadau uniongyrchol gan athrawon fu’n cymryd rhan. Pan ofynnwyd i un athro am eu barn nhw am ddysgu creadigol dywedodd un athro o Ysgol Arweiniol Greadigol:

“Nid wyf yn credu y byddwn wedi teimlo mor angerddol yn ei gylch pe na baem wedi cymryd rhan yn y broses Ysgolion Creadigol Arweiniol. Mae wedi bod yn brofiad hyfryd i’n hysgol ac i mi yn bersonol.”

Cyhoeddwyd ym mis Ebrill y bydd y rhaglen Dysgu creadigol yn cael ei hymestyn tan Mawrth 2022.