Mae’n bleser gan brosiect arloesol Beacons Cymru, Resonant, gyhoeddi’r bartneriaeth barhaus rhyngddynt hwy a’r lleoliad cerddoriaeth eiconig Gymreig, Clwb Ifor Bach ac un o ŵyliau cerddoriaeth newydd blaenllaw’r DU, Sŵn.

 

Mae Resonant yn darparu cyfleoedd cyffrous i fenywod ifanc, dynion traws, unigolion anneuaidd ac unigolion sydd ddim yng nghydymffurfio â rhywedd, sydd am ddilyn gyrfaoedd mewn rolau tu ôl i'r sîn yn y diwydiant cerddoriaeth yn hytrach nag artistiaid yn unig. Mae Resonant yn cynnal eu digwyddiadau mewn mannau dysgu diogel, gan gyflwyno pecynnau hyfforddi pwrpasol a chefnogaeth gyfannol i fynychwyr. Nod pob digwyddiad yw cryfhau'r gymuned, cwrdd â modelau rôl a chymheiriaid lleol a chael cipolwg gwerthfawr ar ystod o rolau tu ôl i'r llenni yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae digwyddiadau arwyddocaol yn amrywio o Queermas yn The Globe yng Nghaerdydd, gan arddangos talent leol cwîar Telgate, Banshi a Kitty. Mae eu sgyrsiau panel a’u gweithdai wedi cynnwys pynciau fel Bywyd Nos, Cerddoriaeth byw gan gynnwys Alexandra Jones (Porter’s), Kristen Kiis (The Globe) ac Ivy Kelly (Lone Worlds), Cynhyrchu Cerddoriaeth gyda’r dalentog Millie Blooms, Technoleg Sain gyda Bashema Hall, Goleuo a Dylunio â Cara Hood a'u llwyddiant diweddaraf ar DIY yn y Busnes Cerddoriaeth gyda Luna Priestley.

Mae gwreiddiau'r prosiect yn deillio o’r Swyddog Prosiect presennol, Yasmine Davies, a nododd ddiffyg cefnogaeth a chyfleoedd yng Nghymru ar gyfer rhywiau ymylol. Bellach yn ei ail flwyddyn, mae’r prosiect yn parhau i wella ei enw da ac eisoes wedi gweld cyfranogwyr blaenorol yn ennill eu plwyf yn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Dywed Yasmine “Mae’r bartneriaeth gyda Chlwb Ifor Bach nid yn unig yn bwysig i’n nodau, ond hefyd i ddilyniant gyrfa’r unigolion sydd wedi’u hymyleiddio ar ein prosiect. Mae gallu cynnal ein sesiynau cysgodi mewn lleoliad cerddoriaeth uchel ei barch, gyda rheolwyr a thechnegwyr yr ydym yn ymddiried ynddynt ac yn deall ethos y prosiect, yn gyfraniad amhrisiadwy i ansawdd profiad gwaith y rhai ar ein prosiect.

Mae Clwb wedi bod yn allweddol wrth i ni adeiladu amgylchedd diogel i’w ein cyfranogwyr dysgu a datblygu eu sgiliau eleni.  Mae’r cydweithied hefyd wedi arwain ni tuag at fwy o gyfleoedd gyffroes nag yn ein blwyddyn gyntaf o weithgaredd. Rydym yn blesed i ddweud bod y 10 cyfranogwr ar Resonant i gyd wedi cael cynnig gwaith cyflogedig yng Ngŵyl Sŵn fis Hydref eleni.

Mae’r ychwanegiad hwn i’n prosiect yn ddiolch i Glwb Ifor Bach i gyd.”

Mae Clwb Ifor Bach yn lleoliad cerddoriaeth annibynnol sy’n hyrwyddo cerddoriaeth ar lawr gwreiddiau ledled Cymru ers 40 mlynedd, wedi’i leoli yng nghanol Stryd Womanby, Caerdydd. Mae’n cynnal cannoedd o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw bob blwyddyn, mae’n lleoliad hanfodol ar gylchdaith deithiol y DU gyda phobl fel Biffy Clyro, The Killers, Coldplay, Super Furry Animals, Foals a mwy wedi chwarae yn y lleoliad yn eu blynyddoedd cynnar. Yn 2018, derbynodd Clwb allweddi gŵyl fawreddog Sŵn, sydd wedi rhoi slotiau cynnar yr ŵyl i Catfish and the Bottlemen, The Vaccines, Easy Life, Self Esteem, Sam Fender a mwy. Mae'r ŵyl eleni yn edrych i fod yn flwyddyn ragorol arall gyda Chroma, Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs Pigs, Sage Todz, Pip Blom, Los Blancos a llawer mwy eisoes wedi’u cyhoeddi!

“Mae cydweithio gyda Resonant wedi bod yn daith ryfeddol,” meddai Joe Marvelly, Rheolwr Technegol Clwb Ifor Bach. "Rydym yn wirioneddol falch o alinio ein hunain gyda chenhadaeth Resonant o rymuso hunaniaethau rhyw ymylol. Rydym yn gweld hwn yn gyfle gwych i uno ein hymdrechion, yn enwedig yng nghyd-destun Gŵyl Sŵn."

Bydd y bartneriaeth rhwng Resonant a Chlwb Ifor Bach yn annog ac yn gwella'n fawr y cyfleoedd a gyflwynir i bobl o'r rhywiau ymylol.

Mae Resonant yn rhan o bortffolio Beacons Cymru, sy’n sefydliad cerdd Cymru gyfan, ar gyfer pobl ifanc, gan bobl ifanc, sy’n ceisio darparu cyngor, cyfleoedd, rhwydweithio a chymorth i’r rhai sydd ei angen wrth ddilyn gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.

I ddysgu mwy am Resonant ewch i: https://www.beacons.cymru/resonant

I ddysgu mwy am Glwb Ifor Bach ewch i: https://clwb.net/ ac edrychwch ar Linell Sŵn 2023 yma: https://swnfest.com/

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Beacons Cymru yn www.beacons.cymru a chael y diweddariadau diweddaraf yn syth i'ch mewnflwch.