Rhagolwg Cyhoeddus: Nos Sadwrn 9 Mawrth, 6-8pm, croeso i bawb
Mae dros 3000 o recordiadau llais o gredoau pobl, o Gaerdydd i Melbourne, yn ffurfio gosodwaith sain trochol o’r enw Belief System, a gyflwynir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter gan Theatr Ranters.
Mae Belief System yn cynnwys cyfraniadau gan drigolion Caerdydd, gan gynnwys ceiswyr lloches, disgyblion ysgol, ffermwyr, artistiaid, myfyrwyr, gweithwyr swyddfa a llawer mwy.
Mae’r gosodwaith yn cynnwys 92 côn seinydd cerfluniol sy’n hongian fyny fry fel trwmpedau tu chwith, gan wahodd y gwrandäwr i glustfeinio. Mae’r credoau a recordiwyd wedi’u curadu’n grwpiau thematig (heidiau) ac wedi’u rhaglennu i sibrwd o’r seinyddion ac i lifo uwchben ac o gwmpas y gwrandäwr, gan adeiladu rhythmau a phatrymau wrth fynd. Caiff symudiad y credoau ei reoli gan ddata tywydd byw o orsaf dywydd ar do’r adeilad.
I gyd-fynd â’r gofod clywedol a gweledol trochol yma mae llyfr, sy’n cynnwys yr heidiau o gredoau wedi’u trawsgrifio i ffurf ysgrifenedig. Eiliad dawel sy’n caniatáu i’r ymwelydd wrando mewn ffordd wahanol. Wedi’i greu ar adeg o argyfyngau byd-eang sylweddol, mae Belief System yn gweithredu fel cynhwysydd i ddal y straeon rydyn ni’n eu hadrodd wrth ein hunain i helpu i ddiffinio ein realiti unigol a chyfunol.
Ochr yn ochr â’r gosodwaith bydd gweithdy ar gyfer y gymuned ehangach o’r enw Performing the Self. Dan arweiniad Cyfarwyddwr Artistig Theatr Ranters, Adriano Cortese, bydd y gweithdy’n canolbwyntio ar ddefnyddio’r hunan fel y deunydd crai yn y broses greadigol, gan annog y cyfranogwyr i wneud gweithredoedd perfformiadol gan ddefnyddio testunau, gwrthrychau, synau, delweddau a’r corff. Wedi’i ddylunio ar gyfer pobl 13+ oed, ac yn agored i bawb.
Crëwyd gan Anna Tregloan ac Adriano Cortese gyda gwaith cyfansoddi gan Bob Jarvis.
Cynorthwyir Theatr Ranters gan Lywodraeth Awstralia drwy Awstralia Greadigol, ei phrif gorff cynghori a buddsoddi yn y celfyddydau.