Yn y cyfnod cyn ac yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2024, bydd Cardiff Umbrella yn cynnal cyfnod preswyl, arddangosfa gydweithredol a gofod chwarae wedi’u creu gan Rachel Kinchin, myfyrwraig MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) Prifysgol De Cymru, ac aelodau o Neurospicy Play Date.
Sesiynau lles creadigol wythnosol ar gyfer oedolion niwrowahanol yw’r Neurospicy Play Dates, a ddechreuodd yn ystod haf 2023. Daeth y sesiynau chwarae hyn i’r amlwg fel rhan o MA Rachel. I lawer o bobl niwrowahanol, mae mynd i’r afael a’u creadigrwydd a’u lles eu hunain yn dipyn o her, ac roedd Rachel eisiau creu gofod diogel i ailgysylltu â’i chreadigedd hi ei hun a galluogi eraill i wneud hynny yn ogystal, tra hefyd yn dyblu’r corff; cysyniad a all helpu i hybu cynhyrchiant ar gyfer pobl niwroamrywiol. Yn y sesiynau hyn, maen nhw’n creu, yn cysylltu ac yn sgwrsio am eu profiadau bywyd niwrowahanol, gan archwilio’r cysyniad o fasgio a thynnu’r masg a hefyd sut i ffynnu mewn byd niwronodweddiadol tra’n tynnu’r masg er mwyn bod yn fersiwn ddilys o nhw eu hunain.\
Nod The Radical Joy of Unmasking yw rhoi’r ffocws ar bobl greadigol niwrowahanol mewn arddangosfa gyhoeddus chwareus, amlddisgyblaethol sy'n ceisio taflu goleuni ar namau anweledig, cysylltu â'r gymuned ehangach a chaniatáu i bawb sy'n dod i'r gofod i fynd ati i chwarae.
Mae’r arddangosfa hon yn rhannu eu taith tuag at ailgysylltu â’u creadigrwydd unigol a chyfunol ac fe’ch gwahoddir i gamu i mewn a chwarae. Bydd yn ail-ddychmygu'r hyn y gall arddangosfa fod, nid yn unig fel lle ar gyfer edrych ond hefyd fel lle i gyfrannu.
Mae Rachel wedi ffurfio partneriaeth rhyngddi hi, Cardiff Umbrella a Benthyg Cymru. Mae Benthyg Cymru wedi prynu deunyddiau celf ar gyfer y cyfnod preswyl, yr arddangosfa a’r gofod chwarae. Bydd deunyddiau celf a brynwyd gan Benthyg Cymru ar gael i'w benthyca gan Splott Benthyg Y Sblot ar ôl yr arddangosfa. Y syniad yw gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch a chynhwysol i fwy o bobl.
Mae’r arddangosfa a’r gofod chwarae yn un sy’n pontio’r cenedlaethau – mae croeso i bawb, er efallai bod rhywfaint o iaith fras i’w gweld. Bydd oedolion niwrowahanol yn bresennol bob amser, bydd plygiau clustiau a bys-droellwyr yn y gofod i bobl eu defnyddio os oes angen. Rhowch wybod i Rachel os oes gennych unrhyw anghenion cynhwysiant penodol, neu os ydych am ymweld ar eich pen eich hun, gyda hi neu rywun arall fel cymorth mynediad.
Bydd Rachel hefyd yn mynd â Neurospicy Play Date i lansiad Caerdydd sy’n Deall Niwrowahaniaeth, lle byddant yn cynnal stondin sesiynau chwarae wib gan gyflwyno sesiynau lles creadigol. Gellir naill ai mynd â gwaith celf a grëwyd adref am gyfraniad bach, a fydd yn ei dro yn caniatáu i fwy o bobl niwrowahanol gael mynediad i’w lles creadigol, neu, gall eich gwaith ddod yn rhan o’r arddangosfa gydweithredol yn Cardiff Umbrella.
“Ar gyfer fy mhrosiect MA terfynol, roeddwn i eisiau creu rhywbeth sy’n dathlu gwneud celf er eich llawenydd a’ch lles chi eich hun. Mae’r cysylltiad a’r creadigrwydd yr ydym wedi’u cyflawni fel rhan o’r sesiynau chwarae hyn yn rhywbeth yr oeddwn am ei rannu ag eraill, ac mae arddangosfa mewn partneriaeth ag Umbrella a Benthyg, dau bartner gwirioneddol ystyrlon, yn ystod wythnos dathlu niwroamrywiaeth, yn teimlo fel y ffordd ddelfrydol o rannu hynny. Y syniad yw y bydd yr arddangosfa’n tyfu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, gan wneud lle i lawer o bobl niwroamrywiol ymuno â ni mewn cymryd eiliad ar gyfer lles creadigol ac yn y pen draw, dathlu gwahaniaeth. Os byddwch yn ymweld ar ddiwrnod cyntaf ac olaf yr arddangosfa, gallwch ddisgwyl trawsnewidiad! Gan ddefnyddio unrhyw beth y gallwn ni gael gafael arno, o ddoliau peg i Wasg Pooki, rydyn ni am atgoffa pobl mai artistiaid ydyn ni i gyd.” Rachel Kinchin, artist arweiniol.
“Rwyf mor falch o fod yn rhan o’r arddangosfa gydweithredol hon fel artist ac yn rhinwedd fy swydd fel Cyfarwyddwr Benthyg Cymru. Mae cyfuno fy nau frwdfrydedd mewn modd mor berffaith yn wych, sef cael y wasg argraffu ac eitemau eraill ar gael i’w benthyca er mwyn gwneud celf yn fwy hygyrch, arbed arian a lle i bobl yn eu cartrefi. Nid yw’n hawdd bod yn niwrowahanol ac mae Rachel wedi creu gofod cynnes ac ysbrydoledig i’n cefnogi ni i gyd i adrodd ein straeon trwy ein celf ac rwy’n falch o allu cefnogi fel Benthyg Cymru er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl”.
Becky Harford, Benthyg Cymru.
Manylion am yr Artistiaid
Ffeminydd croestoriadol (intersectional) yw Rachel Kinchin a gafodd ei geni a’i magu yng Nghaerdydd ac mae hi wedi gweithio yn y celfyddydau ers 20+ mlynedd. Cafodd ddiagnosis o ADHD tra'n astudio ar gyfer ei MA, yn 44 oed. Mae'n annog ei hun ac eraill i fynd i’r afael â’u hymennydd, bod yn chwareus, ac mae hi wrth ei bodd yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer lles creadigol a chysylltiad cydweithredol. Mae Rachel yn frwd dros gynhwysiant, yn enwedig i bobl sydd wedi'u hallgáu'n hanesyddol. Mae archwilio ei hymarfer creadigol ei hun ochr yn ochr â phobl eraill wedi plethu gydag ailddysgu am ei hymennydd ac ailddarganfod ei chreadigedd ei hun. Mae ei hymarfer celfyddydol amlddisgyblaethol yn archwilio ei hymennydd, y mae hi'n teimlo sydd fel golau neon pefriog nad yw’n diffodd gyda'r nos. Amherffeithrwydd perffaith, namau anweledig a chymesuredd simsan gan ddefnyddio lliw a gwead a llu o ddeunyddiau. Mae Rachel yn ymarferydd celfyddydau a lles, yn gynhyrchydd creadigol, yn ymgynghorydd cynhwysiant ac yn weithiwr cymorth mynediad. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig PWSH a bydd yn cwblhau ei gradd Meistr ym mis Ebrill 2024. Dysgwch fwy: www.rachelkinchin.co.uk www.instagram.com/rachelkinchin
Becky Cee yw Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Benthyg Cymru. Mae hi hefyd yn artist, yn ysgogydd, yn fardd ac yn ymgyrchydd. Nid trwy ddewis ond cymhelliant. Mae gan Becky PTSD ac mae ganddi ADHD a gall ei chelf fod yn anghyson ac yn anghymesur yn union fel hithau. Gan ddefnyddio pa bynnag gyfrwng sydd wrth law, gall Becky drosi syniadau aneglur yn naratif a all fod yn ddryslyd ac yn berthnasol hefyd i'r gynulleidfa. I gael rhagor o wybodaeth am Libraries of Things neu gelf Becky:
Becky@benthyg-cymru.org https://www.instagram.com/becky.cee/
Artist cyfrwng cymysg, darlunydd digidol ac artist ewinedd yw Teri Otti. Caiff ei gwaith presennol ei lywio gan ei bywyd fel rhiant cwiar i blant niwrowahanol, llywio’r broses o wahanu a'r canlyniad emosiynol o ddaeth yn sgil derbyn ei diagnosis ADHD ddwy flynedd yn ôl yn 39 oed. Mae creu’n fyrfyfyr a chwarae ar flaen ei hymarfer. www.instagram.com/teri.ottiwww.terriotti.com
Mae Heather Williams yn Fyddar ac yn defnyddio BSL, ac mae ganddi ADHD. Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad yn y trydydd sector - o reoli prosiectau, codi arian a hawliau lles, i weithio gyda phobl F/fyddar a phobl anabl. Yn ddiweddar, mae Heather wedi trosglwyddo’r sgiliau hynny i’r sector creadigol ac wedi dod yn Weithiwr Llawrydd Creadigol mewn rheoli prosiectau, Ymgynghoriaeth BSL, Tywys Teithiau BSL, Hwyluso Gweithdai a chymorth Cynorthwyydd Personol i artistiaid niwroamrywiol. Mae Heather yn frwd dros y Celfyddydau ac yn hyrwyddo digwyddiadau hygyrch.
Artist gweledol amharod yw Jane Oriel sydd wedi gwadu ei chreadigrwydd ar hyd ei hoes fel oedolyn. Teimlai'n fwy diogel yn cefnogi ymdrechion pobl eraill fel curadur arddangosfeydd (Casnewydd ac Efrog Newydd), model byw a newyddiadurwr/rheolwr/hyrwyddwr cerddoriaeth. Tra ei bod yn aros am ei diagnosis ADHD, mae hi'n archwilio ei hun, ei phrofiad bywyd a'i hymarfer celfyddydol blodeuol hefyd.
Manylion am y Partneriaid
Cardiff Umbrella
Cydweithfa gelf yw Umbrella a arweinir gan artistiaid, sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn cael ei gyrru gan gymdeithas. Cafodd ei sefydlu gan dîm bach o dri artist gweithredol o Gymru - ein hethos yw ‘celf i bawb’. Eu nod yw dod yn ofod gweithio a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i'n cymuned.
Benthyg Cymru
Yn ôl yn 2017, fe sefydlodd Becky, Jane ac Ella Library of Things (LoTs) cyntaf Cymru, lle gellir benthyg pethau defnyddiol a hwylus efallai na fyddech chi’n gallu eu fforddio neu nad oes gennych le amdanyn nhw. Mae Benthyg Cymru eisiau gwneud benthyca mor hawdd â mynd allan am dorth o fara drwy gefnogi cymunedau i ddatblygu eu Llyfrgelloedd eu hunain. Maen nhw eisiau rhwydwaith Cymreig o Lyfrgelloedd fel y gallwch chi fenthyg beth bynnag sydd ei angen arnoch ble bynnag yr ydych. Ar hyn o bryd, mae 22 o Lyfrgelloedd yn y rhwydwaith. Dysgwch fwy am LoTs a gwaith Benthyg Cymru yma:
MA Ymarfer Celf (Y Celfyddydau, Iechyd a Lles) ym Mhrifysgol De Cymru
Mae'r cwrs wedi'i leoli ym myd ymarferol y Celfyddydau ac Iechyd, lle mae ymarferwyr celfyddydau yn gweithio ar wella amgylcheddau iechyd trwy ymyriadau celfyddydol, neu wrth godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd trwy gyflwyno gweithiau celf a digwyddiadau, neu trwy gynnig profiadau ymarferol i unigolion a grwpiau/prosiectau/gweithdai sy'n anelu at wella lles.
Amserlen
Cyfnod Preswyl: Dydd Mercher 6 Mawrth – Dydd Iau 14 Mawrth
Noson Agoriadol / Golygfa Gyhoeddus: Dydd Gwener 15 Mawrth, 5pm-8pm
Arddangosfa a Gofod Chwarae Cydweithredol: Dydd Sadwrn 16 Mawrth – Dydd Sadwrn 23 Mawrth. Bydd Rachel yn cynnal sesiynau galw heibio drwy gydol y cyfnod hwn.
Sesiynau Chwarae Agored:
Dydd Iau 7 Mawrth, 1-3pm - Gwehyddu Gwŷdd gyda Heather Williams (BSL)
Dydd Gwener 8 Mawrth, 5-7pm - Gwneud Masgiau gyda Ren Wolfe
Dydd Iau 14 Mawrth, 3-5pm – Creu collage gyda Teri Otti
Dydd Sadwrn 16 Mawrth, 1-3pm – Printio Leino, Gwasg Pooki gyda Becky Cee
Oriau Agor:
Dydd Llun, Dydd Mercher, Dydd Gwener a Dydd Sadwrn - 11.00-18.00
Dydd Mawrth a Dydd Iau - 11.00-17.00
Dydd Sul - Ar gau