Yn 2022, ariannodd Lŵp/S4C Gronfa Fideos PYST x Lŵp – cronfa a gomisiynodd ddeg fideo annibynnol newydd Cymraeg gan artistiaid a/neu gyfarwyddwyr newydd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y rownd gyntaf, penderfynwyd ehangu ar y nifer o fideos i’w comisiynu eleni, gan gefnogi ugain fideo annibynnol newydd sbon. Mae modd gwylio holl fideos a gomisiynwyd hyd yma, gan gynnwys fideo gynta’r ail rownd gan Francis Rees, yma ar AM. 

Fel rhan o’r rownd newydd, mae PYST yn gyffrous i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Chanolfan Gelfyddydau Chapter a fydd yn gweld holl fideos y gronfa newydd eleni yn cael eu dangos am y tro cyntaf ar y sgrin fawr yn Chapter. Bydd hyn nid yn unig yn cyflwyno’r fideos i gynulleidfaoedd newydd ond hefyd yn cynnig elfen ychwanegol, gyffrous i artistiaid/cyfarwyddwyr, sef gweld eu fideos ar y sgrin fawr am y tro cyntaf. Bydd y fideo nesaf yn cael ei ddangos yn Chapter yn ystod wythnos olaf fis Chwefror - mwy o fanylion i ddilyn.

Yn lansio’r bartneriaeth gyffrous hwn, bydd PYST x Lŵp a Chapter yn cynnal digwyddiad ar y cyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar Ddydd Miwsig Cymru, Chwefror 9fed 2024 am 17:00. Bydd y digwyddiad yn gweld bob fideo o rownd gyntaf y gronfa y llynedd yn cael eu dangos ar sgrin fawr am y tro cyntaf. Mae tocynnau am ddim a gellir eu harchebu o wefan Chapter yma

Dywedodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: “Mae’r gronfa PYST x Lŵp wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran gweld fideos newydd gwych a hefyd agor cyfleoedd i greu drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch i Chapter, gallwn nawr ddathlu fideos newydd y deuddeg mis nesaf drwy eu gwylio ar y sgrin fawr.”

Ychwanegodd Elen Rhys o S4C: “Mae hyn yn gyfle gwych i arddangos y talent sy’n bodoli o fewn y sin gerddoriaeth yng Nghymru. Mae S4C yn parhau i gefnogi a gweithio gyda’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru trwy ein strand Lŵp. Rydym yn falch o weld Cronfa Lŵp yn datblygu a chreu cyfleoedd i gerddorion a phobl greadigol eraill. Mae’n wych i gael ymestyn ein partneriaeth gyda PYST i’r digwyddiad yma i gefnogi Dydd Miwsig Cymru eleni.”

Ychwanegodd Claire Vaughan o Chapter: "Rydym yn falch iawn o allu rhoi cyfle i artistiaid Cymraeg ddisgleirio gyda chymorth S4C a PYST. Mae'r prosiect gwych hwn yn paru rhai o'n hartistiaid Gymraeg newydd gyda rhai o’n gwneuthurwyr ffilm fwyaf cyffrous, felly mae'n teimlo'n briodol eu bod yn cael eu gweld ar y sgrin fawr yn Chapter. Trwy’r bartneriaeth newydd yma, bydd cynulleidfaoedd newydd yn gallu mwynhau arlwy gweledol ein hartistiaid newydd o Gymru. Mae darganfod llwybrau creadigol newydd wrth wraidd ein gwaith ni yma’n Chapter ac mae dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn ogystal â chyfarwyddwyr newydd yn bwysig iawn i ni, yn enwedig mewn blwyddyn lle mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Bontypridd.”