Mae Cerddoriaeth a Ffilm Gymunedol TAPE yn lansio prosiect sinema newydd i gymunedau ar draws Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth gan Ganolfan Ffilm Cymru.

Mae TAPE, sy’n arbenigo mewn cynhwysiant creadigol, wedi creu prosiect ar y cyd â’u Clwb Cyfryngau – lle diogel a chefnogol sy’n cynnig profiadau ymarferol i garfan o bobl o’r gymuned leol.

Bydd ‘Neighbourhood Watch’, a enwyd gan Josh, un o aelodau’r Clwb Cyfryngau, yn lansio gyda dangosiad o’r ffilm gomedi Brian and Charles – a ffilmiwyd yn lleol ac a enwebwyd am wobr BAFTA – yng Nghanolfan Deulu Llanrwst ddydd Gwener 22 Medi. Gyda gwesteion arbennig ac ambell i syrpreis i’r gynulleidfa!

Mae Josh yn edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad cyntaf:

“Dw i’n hoffi’r syniad o ddod â’r gymuned ynghyd drwy ffilm. Dw i’n falch o fod yn rhan o hyn.”

Esbonia Steve Swindon, Cyfarwyddwr Creadigol TAPE sut mae’r Clwb Cyfryngau yn gweithio a pham fod angen y prosiect hwn:

“Gallwn ddod â phobl ynghyd drwy Glwb Cyfryngau a gweithio fel tîm i ddatblygu prosiectau hynod gyffrous a fydd yn gyswllt i nifer o gyfleoedd creadigol. Mae Neighbourhood Watch yn brosiect hynod gyffrous am sawl rheswm. Mae’n adeiladu ar waith y grŵp o raglennu ffilmiau a’r ystod eang o ddangosiadau a digwyddiadau a gynhaliwyd ganddynt. Mae e hefyd yn symud y gwaith i gymunedau ar draws Gogledd Cymru ac yn cysylltu pobl mewn ffyrdd newydd drwy’r gweithdai sy’n rhedeg ochr yn ochr. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn arni.”

Bydd Neighbourhood Watch yn dod â dangosiadau misol o ffilmiau annibynnol y DU a ffilmiau rhyngwladol i hyd at bum cymuned rhwng 2023-26, gyda’r potensial i ehangu i ardaloedd eraill gan gynnwys Ynys Môn a Llanfairfechan. Bydd cyfle i’r cymunedau sy’n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau megis archebu ffilmiau a marchnata digwyddiadau, gan wneud ffrindiau a thyfu eu rhwydweithiau proffesiynol. Bydd gan bob dangosiad weithdy, westai neu ddosbarth meistr, yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan yn natblygiad prosiect ffilm hir nesaf TAPE, sef Below the Waves, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Ychwanegodd Hana Lewis, Rheolwr Strategol Canolfan Ffilm Cymru:  

Mae gymaint o arloesi yn digwydd ar draws Gogledd Cymru, ond fe wyddom nad yw’n bosib i gymunedau fynychu digwyddiadau bob tro, pa un ai a ydi hynny o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, cysylltiadau trafnidiaeth gwael neu ddiffyg gwasanaethau lleol. Y gymuned fydd yn arwain Neighbourhood Watch, gan greu awch am ffilmiau ar eu stepen drws. Mae Clwb Cyfryngau TAPE yn byrlymu â syniadau creadigol ynglŷn â sut i arwain y prosiect yn eu hardal nhw mewn ffordd gynhwysol – ac mae hyn mor bwysig i ni. Ein gobaith yw y bydd eu gwaith yn annog rhagor o bobl i fynd i’w sinema, gan gefnogi sinemâu a gwyliau lleol yn y tymor hir.”

Mae BFI FAN yn rhaglen genedlaethol sydd yn bodoli diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol sy’n ceisio sicrhau’r dewis gorau posib o sinema i bawb ledled y DU. Yng Nghymru gweinyddir y cyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru, drwy Chapter. Cynlluniwyd prosiect Neighbourhood Watch i ateb amcanion Diwylliant Sgrin 2033 sef strategaeth 10 mlynedd y BFI a lansiwyd yn ddiweddar.

Bob wythnos mae’r Loteri Genedlaethol yn codi dros £30M ar gyfer achosion da ledled y DU.