Mae Bywydau Creadigol yn chwilio am Brif Weithredwr newydd
Yn Bywydau Creadigol rydym yn hyrwyddo creadigrwydd bob dydd ledled y DU ac Iwerddon, gan sicrhau bod grwpiau gwirfoddol yn ffynnu ac yn cael eu cydnabod fel rhai hanfodol i lesiant cymunedol.
Bydd ein Prif Weithredwr newydd yn gynullydd, cydweithredwr a strategydd medrus a diplomyddol, yn arweinydd sefydliadol enghreifftiol, ac yn eiriolwr pwerus dros greadigrwydd fel gyrrwr cysylltiad cymdeithasol a chydlyniant.
- £64,752 y flwyddyn + buddion
- Gweithio o bell o unrhyw le yn y DU
Dyddiad cau: 24/11/2025