• YSGRIFENWYD GAN BEDWAR AWDUR IFANC SY’N YSGRIFENNU I’R THEATR AM Y TRO CYNTAF – CYNNYRCH RHAGLEN DATBLYGU ARTISTIAID FRÂN WEN
     
  • MI FYDD Y GYNULLEIDFA YN CAMU MEWN I BARTI OLAF Y BYD YN Y DYFODOL AGOS, BLE MAE TRYCHINEB CATASTROFFIG WEDI BODDI CYMUNEDAU
     
  • HON FYDD Y DDRAMA GYNTAF I’W PHERFFORMIO AR FAES B YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL, A HYNNY AM UN NOSON YN UNIG
     
  • GALWAD I WEITHREDU FYDD HWN – GAN BOBL IFANC I BOBL IFANC
     
  • PERFFORMIR Y DDRAMA AR HYD A LLED MAES B; PROFIAD TORFOL AC YMDROCHOL I’R GYNULLEIDFA YN CYFUNO GAIR AR LAFAR, CERDDORIAETH FYW A THEATR

Caiff Maes B – ardal breswyl ymwelwyr ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol – ei drawsnewid eleni pan fydd cwmni theatr Frân Wen a’r Eisteddfod yn llwyfannu sioe ymdrochol newydd sbon, am un noson yn unig.

Popeth ar y Ddaear yw comisiwn cyntaf pedwar dramodydd ifanc – Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connelly – i ysgrifennu sioe lwyfan. Maent yn addo sioe bryfoclyd ac ysgytwol fydd yn codi cwestiynau mawr am ein dyfodol.

Bydd y cynhyrchiad, sy’n ffrwyth pedair mlynedd o waith datblygu, yn gwahodd cynulleidfa i gamu mewn i fyd yn y dyfodol agos, ble mae trychineb catastroffig wedi boddi cymunedau.

Fe ddown ar draws Tom, sy'n aros i glywed a fydd yn derbyn lloches, ac Undeg, sydd angen gwneud penderfyniad dros ei hun a’r babi yn ei bol. Byddwn hefyd yn cyfarfod Malltwen ar ei noson olaf ar y ddaear - ac mae hi’n benderfynol o adael y byd mewn gwell stad.

Caiff y gynulleidfa eu tywys ar hyd a lled Maes B trwy gydol y ddrama, a berfformir ar nos Wener 11 Awst, yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023. Mi fydd saith artist cyswllt ifanc yn cysgodi’r tîm artistig craidd, yngyd ag ensemble o dros 100 o bobl ifanc ac artistiaid proffesiynol, ac mi fydd cerddoriaeth fyw, gwreiddiol gan HMS Morris.

Y diwrnod canlynol, cynhelir sesiwn drafod dan arweiniad Frân Wen gyda thîm creadigol y cynhyrchiad ym Maes B, yn ymdrin â rôl allweddol y celfyddydau i hyrwyddo newid cymdeithasol a chysylltu pobl â’r argyfwng hinsawdd,

Meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen; “Mi fydd hwn yn berfformiad ar raddfa fawe sy'n dod â chriw o pobl ifanc hynod ddawnus a thîm proffesiynol at ei gilydd i greu argraff fawr ay y dorf ym Maes B fel na welwyd o’r blaen. Fel Nia Morais, awdur Imrie, mae’r pedwar yn rhan o genhedlaeth newydd o ddramodwyr ifanc yng Nghymru sy’n creu gwaith gwefreiddiol a gonest – ac sydd â digon i’w ddweud am y byd o’u perspectif nhw.”

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol; “Dyma’r cam nesaf yn y berthynas bwysig rhwng yr Eisteddfod a Frân Wen, ac mae o’n gam hynod o gyffrous. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at gynnig profiad theatrig arbennig iawn ym Maes B eleni. Rydyn ni’n credu’n gryf bod angen i ni fynd â’n hiaith, ein diwylliant a’r celfyddydau at bobl o bob oed, ac mae’r cyfle i wneud hyn gyda Popeth ar y Ddaear yn gwbl wefreiddiol ac yn siwr o ddenu cynulleidfa newydd i gymryd diddordeb ym myd y theatr yng Nghymru.”

Mae Popeth ar y Ddaear yn gyd-gynhyrchiad gan Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Phrifysgol De Cymru. Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri Genedlaethol