Mae’r lein-yp llawn wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Gŵyl Ymylol Abertawe 2023. Mae’r ŵyl wedi bod yn rhedeg yn ei ffurf bresennol ers 2017, gan drefnu gwledd o gerddoriaeth, comedi, barddoniaeth, a pherfformiadau theatr ar draws penwythnos y Fringe bob blwyddyn.

Wedi ei drefnu gan y Swansea Music Hub, mae’r ŵyl eleni wedi ei gefnogi gan 4TheRegion, Coastal Housing Group, PRS for Music, a Swansea Arena Creative Learning. Bydd prosiect newydd gan Menter Iaith Abertawe wedi ei ariannu gan Tŷ Cerdd hefyd yn gweld artistiaid newydd sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu gwaith yn perfformio ar draws y penwythnos, gan gynnwys setiau gan sêr newydd megis Francis Rees, Tesni Hughes, a Dafydd Hedd.

Mae’r ŵyl yn 2023 yn dechrau ar nos Iau’r 5ed o Hydref gyda noson lansio sy’n cynnwys Angharad ac Edie Bens wedi i’r ddwy perfformio yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, yn ogystal â setiau gan Mali Hâf, Achlysurol, a Charlie J.

Bydd rhywbeth at ddant pawb ar nos Wener y 6ed, gyda 7 llwyfan o gerddoriaeth fyw a chomedi mewn lleoliadau ar draws canol y ddinas. Bydd ffefrynnau BBC Radio 6, The Bug Club, yn chwarae’r Bunkhouse yn dilyn cyfres o wyliau yn yr haf a chyn cychwyn ar daith ar draws Ewrop, America, a Canada. Bydd noson o roc caled a metel yn Hangar 18, yn cynnwys Lurcher a’r arwyr lleol, Vails. Bydd noson enfawr ar y Stryd Fawr hefyd, gyda cherddoriaeth fyw yn theatr y Volcano, Hippos, a’r Elysium. Bydd arlwy’r Elysium yn cynnwys setiau gan Monet a Slate cyn iddyn nhw chwarae yng ngŵyl Sŵn Caerdydd eleni, ac mae’r Volcano yn gweld llwyfan dwyieithog ar y cyd rhwng Menter Iaith Abertawe a’r Fringe yn cynnwys SYBS, Aisha Kigs, Part Time Signals, ac Elli Glyn. Bydd Urban HQ ar Stryd Orchard yn gartref i noson gomedi'r ŵyl, yn cynnwys Josh Elton, Gilly Webb, a Welsh Jesus ymysg nifer o enwau eraill.

Ar nos Sadwrn y 7fed bydd llwyfan gwerin boblogaidd yr ŵyl yn dychwelyd i’r Elysium, gyda lein-yp anhygoel sy’n cynnwys Rona Mac, Old Moll, ac Orange Circus. Mae lein-yp Tŷ Tawe yn cynnwys Band Pres Llareggub - band pres o ogledd Cymru wedi eu hysbrydoli gan hip-hop y Bronx a cherddoriaeth New Orleans - yn ogystal â Mr Phormula, sydd wedi cyd-weithio gyda sêr y byd hip-hop megis The Pharcyde, Jungle Brothers, a KRS-One. Mae yna mwy o hip-hop ar gael yn Hippos diolch i lwyfan gan Winger Records, tra bydd Hangar 18 a Crowleys yn gartref i lwyfannau pync ac indie yn cynnwys Kneeon, Shlug, Swan Hill, a Two Til Twelve ymysg nifer o enwau eraill. Mae llwyfan roc ac electronica arbrofol y Bunkhouse yn gweld talentau lleol megis Grey FLX a Kikker ochr yn ochr gydag artistiaid sydd eisoes yn derbyn clod ar draws y byd megis Gallops a Brecon.

Roedd bron 200 o artistiaid ar draws Cymru wedi ymgeisio i fod yn rhan o’r ŵyl eleni”, dywedodd cyd-drefnwr Josh David-Read. “Roedd safon ac amrywiaeth y ceisiadau yn uchel dros ben, sy’n dangos bod yr ŵyl wedi sefydlu enw da am drefnu penwythnos anhygoel o gelfyddydau a diwylliant. Rydym yn falch iawn o’r lein-yp eleni, a fydd yn gweld artistiaid byd enwog megis The Bug Club, Edie Bens, Gallops, a Brecon yn chwarae ochr yn ochr gydag artistiaid sydd wedi bod trwy’r broses ymgeisio i fod yn rhan o’r ŵyl. Mae rhai o’r artistiaid yma yn teithio ar draws y byd, ond mae ganddyn nhw i gyd cysylltiadau cryf â Chymru sy’n bwysig iawn i ni fel trefnwyr.”

Gallwch weld y lein-yp llawn isod. Mae tocynnau penwythnos a diwrnod ar gael nawr trwy www.ticket247.co.uk