Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y Society for Arts & Technology ym Montreal (Canada) yn cyflwyno perfformiad trochol byw o Arka Kinari: Artivism at Sea a grewyd ar y cyd gan stiwdio aml-gyfrwng 4Pi Productions a'r artistiaid ac ymgyrchwyr hinsawdd, Filastine & Nova.
Cafodd y prosiect ei ddatblygu a'i gyflwyno am y tro cyntaf yn Labordy CULTVR yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth y British Council. Mae'r cynhyrchiad hynod yma'n cyfuno fideo 360º, cerddoriaeth a stori i rannu mordaith yr Arka Kinari gan ddefnyddio cerddoriaeth i seinio larwm am y newid yn yr hinsawdd, ac elfennau gweledol sinematig i ddychmygu bywyd y tu hwnt i'r economi garbon.
‘Heriol, trochol ac yn rhannol o dan y dŵr’, mae’r Arka Kinari yn llong hwylio 70 tunnell sy’n cael ei phweru gan yr haul. Mae ganddi baneli solar a system ddihalwyno dŵr môr ac mae’n gartref i garfan gydweithredol o ymgyrchwyr, gwneuthurwyr ac artistiaid sy’n rhannu un neges a phwrpas - i seinio’r larwm ecolegol am y newid yn yr hinsawdd.
Sinema cryndo amgylchynol (fulldome) yw un o'r ychydig gyfryngau creadigol sy'n gallu cyfleu holl swmp a maint y llong ac ehangder y môr. Wedi profi'r perfformiad, dw i'n gobeithio y bydd pobl yn meddwl am yr hyn y gallan nhw ei wneud, sut y gallant ddefnyddio eu gwybodaeth, sgiliau a chysylltiadau unigryw i newid cyfeiriad y dyfodol'. - Grey Filastine.
Ymunodd aelodau o stiwdio gelfyddydau trochol 4Pi Productions o Gymru â Filastine & Nova ar fwrdd yr Arka Kinari ar ei thaith o Bali i Jarkarta. Y nod oedd dogfennu'r siwrnai a chreu cynnwys trochol ar gyfer y perfformiad trochol penodol yma ac ar gyfer ffilm ddogfen sinema gryndo amgylchynol. Mae'r cyflwyniad Realiti Ymestynnol (XR) hynod yma wedi cael ei ddangos yng Nghaerdydd a Plymouth yn barod, a derbyniodd glod yng ngwobrau Best of Earth Awards 2023.
Rydyn ni'n defnyddio cyfryngau trochol i greu gwaith sy'n ysbrydoli newid cadarnhaol. Gyda'r perfformiad byw yma byddwn yn gallu cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a'u cario drwy'r stori gyda ni a meithrin cadernid ecosystemau drwy fynegiant artistig'. - Matt Wright, Cyfarwyddwr 4Pi Productions.
Mae 'Arka Kinari: Artivism at Sea' yn gyd-gynhyrchiad gan Labordy CULTVR a grewyd gyda chefnogaeth y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae'r cyflwyniad yma'n lansio rhaglen gydweithredu newydd rhwng SAT Montreal a Labordy CULTVR sy'n archwilio celfyddydau trochol a chynaladwyedd fel rhan o fenter prosiectau Cymru- Québec sy'n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Québec.
Arka Kinari: Artivism at Sea
Society for Arts & Technology, Montreal, Canada
30 Ebrill - 04 Mai 2024
8.30pm
Cyfarwyddwyd gan: Janire Najera a Matt Wright
Storïwyr a Cherddorion: Filastine & Nova
Cynhyrchu ac Elfennau Gweledol gan: 4Pi Productions
Addas i gynulleidfaoedd o bob oed
Perfformiad Trochol Byw: 60 munud