Bydd yn gyfrifol am ffitio a gosod yr holl offer fideo a chapsiynu a logir ac yn y lleoliad. Bydd y cynlluniau fideo’n cael eu cynhyrchu gan y Cynllunwyr Fideo a bydd y Peiriannydd Fideo yn llunio'r gwaith papur ar gyfer y daith.

Pan fydd y sioe ar daith, bydd y Peiriannydd Fideo yn gosod yr holl offer fideo yn ei le ac yn sicrhau bod cynnwys y fideo yn cael ei atgynhyrchu yn unol â chynllun gwreiddiol y darn. Mae'r Peiriannydd Fideo hefyd yn gyfrifol am gomisiynu'r gosodiad Capsiynau Creadigol a'i drosglwyddo i'r Gweithredydd Capsiynau ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.

Mae Under Milk Wood yn defnyddio Goleuo, Fideo a Chapsiynu Creadigol ac felly bydd angen i'r Peiriannydd Fideo weithio ar y cyd â'r Ailoleuydd i sicrhau bod estheteg yr holl gynlluniau’n gytbwys ac yn briodol.

Bydd y Peiriannydd Fideo’n trosglwyddo'r awenau i'r Rheolwr Technegol Teithiol ar gyfer y rhediad ym mhob lleoliad.

Bydd y Peiriannydd Fideo yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).

Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, anfonwch eich CV ar e-bost a nodi pa swyddi yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer at Jenny Pearce, Cynhyrchydd ar jenny.pearce@theatrclwyd.com, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu rhannu hefyd.

Y dyddiad cau i anfon eich CV yw dydd Iau 16eg Hydref am 5pm, a chewch wybod os hoffem gyfarfod â chi i drafod y swyddi erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 20fed Hydref.

Bydd y cyfarfodydd ar-lein gyda'r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Sommerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu, Hannah Lobb, naill ai ar ddydd Mercher 22ain neu ddydd Iau 23ain Hydref.

Os oes arnoch chi angen y wybodaeth yma mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at jenny.pearce@theatrclwyd.com

 

Dyddiad cau: 16/10/2025