Mae partneriaeth newydd wedi cael ei chyhoeddi rhwng Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBC NOW) a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (NYAW), i ddarparu cyfleoedd cerddorfaol a chorawl a llwybrau gyrfa proffesiynol i bobl ifanc ledled Cymru.

Cyhoeddwyd y fenter yn ystod cyngerdd “ochr yn ôl” ar y cyd gan y ddwy gerddorfa yn Neuadd Hoddinott y BBC ddiwedd mis Tachwedd. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi ymrwymo i rymuso darpar gerddorion proffesiynol ledled Cymru drwy gefnogi sgiliau perfformio a meithrin eu twf proffesiynol drwy gyfleoedd perfformio cerddorfaol. Byddant hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, gan gefnogi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.

Bydd cerddorion ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd yn elwa o gyfuniad cyfoethog o gyfleoedd datblygu, gan gynnwys cyngherddau ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol y BBC, perfformiadau canu corawl, sesiynau mentora a gweithdai, comisiynu cerddoriaeth newydd, a phrosiectau gyda cherddorion a chyfansoddwyr sy’n gweithio y tu allan i’r sector cerddoriaeth glasurol draddodiadol.

Mae BBC NOW ac NYAW wedi cydweithio’n llwyddiannus ers 2001, gan redeg cyngherddau ochr yn ochr ar gyfer cerddorion ifanc, sy’n cael gwybodaeth a phrofiad drwy berfformio gyda chwaraewyr proffesiynol. Mae’r cyngherddau hyn wedi rhoi’r hyder i genedlaethau o gerddorion ifanc ddilyn gyrfaoedd proffesiynol, ac mae’r ymrwymiad newydd hwn yn ceisio creu llwyfan deinamig i bobl ifanc drwy gynnig cyfle unigryw iddynt fireinio eu crefft ac arddangos eu doniau ar lwyfan ehangach.

Sefydlwyd NYAW yn 2017 ac mae’n ceisio datblygu llwybrau creadigol ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru. Mae’n uno ac yn arwain y gwaith o ddatblygu pum ensemble ieuenctid cenedlaethol arobryn a sefydledig Cymru, sy’n cynnwys Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Sefydlwyd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ym 1945, a hi oedd y gerddorfa ieuenctid gyntaf erioed yn y byd, ac mae wedi bod yn perfformio’n rheolaidd ers hynny.

Dywedodd Evan Dawson, Prif Weithredwr NYAW:

“Bydd y bartneriaeth hon gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o fudd enfawr i gerddorion ifanc Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Yn ogystal â pherfformio cerddoriaeth wych o’r safon uchaf, byddant yn cael gweithio’n ddwys i amserlen broffesiynol ac yn dysgu’n uniongyrchol gan gerddorion y BBC maent wedi’u lleoli gyda nhw. Bydd yn rhoi cipolwg iddyn nhw ar fyd cerddorfaol lle gallen nhw weld eu dyfodol eu hunain, gan feithrin ein cenhedlaeth nesaf o gerddorion o Gymru. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm gwych yn BBC NOW dros y blynyddoedd nesaf i ddatblygu cyfleoedd creadigol i bobl ifanc ledled Cymru.”

Dywedodd Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC:

“Yn BBC NOW, rydyn ni’n credu bod cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth yn rhywbeth i bawb, felly rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn yn gadarnhaol i gydweithio â NYAW yn agosach byth i helpu i ysbrydoli cerddorion, cantorion a chyfansoddwyr ifanc ledled Cymru. Mae pawb yn BBC NOW yn edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi’i wneud gyda NYAW dros y blynyddoedd, a gyda’n gilydd ein nod yw datblygu hyd yn oed mwy o gynlluniau creadigol, hwyliog a chynhwysol a fydd o fudd i gerddorion ifanc ym mhob man.”

Dywedodd Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru:

“Mae gweithio mewn partneriaeth wrth galon y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol wrth i ni ymdrechu gyda’n gilydd i ddatblygu cymaint o gyfleoedd â phosibl i blant a phobl ifanc ddatblygu eu sgiliau chwarae a chael mynediad at lwybrau gyrfa. Rydyn ni’n falch iawn o weld y cydweithio newydd a chyffrous hwn.”