Mae Elusen Aloud yn falch o gyhoeddi y gall plant ym mlynyddoedd 5 a 6 gael y cyfle unwaith eto i ymgeisio ar gyfer bod yn aelod o’r côr cenedlaethol plant Only Kids Aloud! 

Bydd rhaglen 2024 yn cynnwys llu o gyfleoedd: 

  • Ymarferion rhanbarthol misol 
  • Rhaglen o ddigwyddiadau a pherfformiadau 
  • Cyrsiau preswyl 

Mae plant sydd ar hyn o bryd ym mlynyddoedd 5 a 6 yn yr ysgol yn gymwys i gymryd rhan yn y côr. 

Mae’n costio £450 i ymaelodi a bydd hyn yn cyfrannu at bob ymarfer a pherfformiad, costau’r cyrsiau preswyl (llety, bwyd a bysiau), gweithgareddau yn ystod y cyrsiau preswyl, ffioedd hebryngwyr trwyddedig, ac ychydig o nwyddau OKA! 

Mae cymorth ariannol (yn cynnwys cymorth bwrsariaeth lawn) ar gael er mwyn sicrhau bod unrhyw berson ifanc sy’n awyddus i ymuno â Chorws Only Kids Aloud yn gallu gwneud hynny. Cysylltwch â ni am wybodaeth ynglŷn â chymorth ariannol: oka@thealoudcharity.com

Y Broses Ymgeisio 

  1. Ffurflen gais ar-lein 

Llenwch y ffurflen gais ar-lein erbyn 7 Ionawr 2024 

  1. Ymunwch â ni ar gyfer clyweliad a gweithdy byw 

Dyddiadau isod:  

Ionawr 11: Caerfyrddin 

Ionawr 12: Aberystwyth 

Ionawr 13: Llandudno 

Ionawr 14: Caerdydd  

Bydd ffi o £25 i fynychu’r clyweliad unigol ac i gymryd rhan mewn gweithdy grŵp lleisiol fydd yn rhoi blas o sut beth fydd ymarferion OKA. Cysylltwch â ni os nad oes modd i chi dalu’r ffi hwn: oka@thealoudcharity.com 

Caiff aelodaeth Corws Only Kids Aloud 2024 ei chadarnhau ddiwedd mis Ionawr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r rhaglen cysylltwch â ni drwy e-bost: oka@thealoudcharity.com 

Mae ein aelodau OKA wedi cael cyfloedd arbennig tu hwnt i berfformio mewn digwyddiadau dros y blynyddoedd dwaethaf, a rydyn ni’n edrych mlaen yn arw at groesawu aelodaeth newydd sbon o bob cwr o Gymru. 

Gallwch ddarllen am brofiad cyn-aelod OKA, Greta, yn ein blog diweddaraf. Ewch i ymweld â’n tudalen Instagram er mwyn cael blas o rai o berfformiadau OKA! 

Hoffem ddweud diolch o galon i'r Mosawi Foundation a’r Newby Foundation am eu cyfraniad hael tu hwnt tuag at brosiect Only Kids Aloud 2024.