Pleser yw cyhoeddi ein bod yn lansio côr Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru!

Yn adeiladu ar lwyddiant ein côr Only Girls Aloud yn ne Cymru, bydd pobl ifanc ym 
mlwyddyn 7 hyd at flwyddyn 13 yn cael cyfle i wneud ffrindiau, datblygu eu sgiliau canu, a chymryd rhan mewn cyfleoedd perfformio unigryw!

“Rydyn ni mor gyffrous i lansio Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru a rhoi cyfle i fwy o bobl ifanc gysylltu ag ymgysylltu ag eraill wrth ddatblygu eu sgiliau canu a’u hyder. Bydd Only Girls Aloud yng Ngorllewin Cymru yn darparu lle diogel a chyfeillgar i ferched ifanc fynegi eu hunain yn rhydd â chael cyfleoedd perfformio unigryw na fyddent fel arall yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt. Y rhan fwyaf cyffrous yw, fel prosiect newydd, bod aelodau sefydlu Gorllewin OGA yn cael y cyfle i lunio dyfodol y côr.”

Beth Jenkins, Rheolwr Prosiect: Gorllewin Cymru

Bydd ymarferion yn cael eu cynnal unwaith y mis yn ystod y tymor, a bwriedir cynnal ein sesiwn ymarfer gyntaf ddechrau mis Hydref yn Llangrannog. Bydd ein lleoliad cwrdd yn amrywio o fis i fis, er mwyn bodloni anghenion aelodau sy’n teithio o bob cwr o orllewin Cymru – byddwn yn cysylltu â chi mewn da bryd bob tro!

Bydd aelodau Only Girls Aloud gorllewin Cymru’n cael ystod o gyfleoedd i berfformio, gan gynnwys mewn cyngherddau Aloud a gwyliau a digwyddiadau allanol. Er mwyn rhoi blas i chi o’r hyn sydd ar y gweill, yn ystod eu blwyddyn gyntaf, cyflawnodd  aelodau côr Only Girls Aloud de Cymru y canlynol:

  • Recordio traciau ar gyfer yr albwm Aloud, Gen Z (2022)
  • Bod yn rhan o’r rhaglen ddogfen Aloud Dathlu 10 ar S4C
  • Perfformio yn y Cyngerdd Pen-blwydd Caerdydd
  • Perfformio yn y Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar gyfer ein darllediad Nadolig.
  • Perfformio ar gyfer gwesteion yn y Cinio Codi Arian chwe-misol yn CBCDC.
  • Perfformio yng Ngŵyl Gerdd Dinas Powys
  • Perfformio yng Ngŵyl Everywoman – ewch i’n tudalen Instagram i’w gweld wrthi.

“Rydym yn hynod falch i allu dod â'n côr Only Girls Aloud i Orllewin Cymru. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yng Nghaerdydd, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ehangu ein gwaith gyda merched yn eu harddegau, a chyda chymaint o ddiddordeb gan bobl ifanc yng Ngorllewin Cymru, roedd hwn yn teimlo fel y cam naturiol nesaf i ni. Rwy'n edrych ymlaen at gael gweld sut mae hyn yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, yn enwedig sut y gallwn gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc trwy ganu torfol yn y Gorllewin.”

Carys Wynne-Morgan, Prif Weithredwr

Os hoffech chi ymuno ag Only Girls Aloud yng ngorllewin Cymru, neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoff o ymuno, cysylltwch â ni drwy ogagorllewin@thealoudcharity.com i gofrestru eich diddordeb! Os ydych chi’n frwd dros y gwaith rydym yn ei wneud gyda merched ifanc yng Nghymru, ac os hoffech chi gymryd rhan, rydym bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu ein corau! I wirfoddoli gyda’n côr Only Girls Aloud newydd yng ngorllewin Cymru, anfonwch e-bost at: ogagorllewin@thealoudcharity.com