Ym mis Rhagfyr 2024, bydd Matthew William Robinson, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn gadael y Cwmni i arwain ZfinMalta, sef cwmni dawns cenedlaethol Malta, o fis Ionawr 2025.

Ers ymuno â’r cwmni yn 2021, mae Matthew wedi arwain y rhaglen artistig gyda phroffesiynoldeb, sensitifrwydd mawr a gweledigaeth artistig unigryw. Bydd ZfinMalta yn ennill Cyfarwyddwr Artistig gwych a bydd siwrnai broffesiynol ac artistig Matthew yn parhau i ffynnu. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn eithriadol o ddiolchgar i Matthew am ei ymrwymiad a dymunwn y gorau iddo yn y dyfodol.

“Mae gweithio gyda chriw mor wych o bobl yn CDCCymru wedi bod yn fraint enfawr imi. Rydw i’n eithriadol o falch o’r syniadau y llwyddon ni i ddod â nhw’n fyw ar gyfer ein cynulleidfaoedd, y cysylltiadau y llwyddon ni i’w creu a’r uchelgais artistig y gwnaethon ni ei meithrin ynon ni ein hunain ac mewn pobl eraill. Edrychaf ymlaen yn llawn cyffro at weddill y flwyddyn hon a thu hwnt gydag optimistiaeth ar gyfer y cwmni ac ar gyfer dawns yng Nghymru. Diolch i bawb sydd wedi cyfoethogi fy mywyd yma. Mae Cymru yn lle arbennig iawn imi, a bydd yn parhau i fod yn lle arbennig imi am byth.”

Matthew William Robinson, Cyfarwyddwr Artistig

“Hoffwn ddiolch i Matthew am ei ysbrydoliaeth a’i ymrwymiad parhaus. Byddwn yn fythol ddiolchgar am ei arweiniad artistig a’i waddol o weithiau uchelgeisiol a gomisiynwyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ers 2021. Mae Matthew wedi creu corff anhygoel o weithiau, yn ogystal â sicrhau bod gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. Ers iddo ymuno â CDCCymru, mae wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, yn ogystal ag ymrwymo i ddatblygu’r grefft a thalentau’r dyfodol. Bydd yn rhan o deulu CDCCymru am byth.”

Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bydd Matthew yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd 2024, gan weithio ar raglen gyffrous a gaiff ei datblygu yn ystod y gwanwyn/haf, a hefyd ar deithiau’r Cwmni yn yr hydref. Bydd y daith yn cynnwys gwaith diweddaraf Matthew, sef ‘AUGUST’, a gaiff ei berfformio am y tro cyntaf ochr yn ochr â ‘Skinners’ gan Melanie Lane, y coreograffydd Awstralaidd/Jafanaidd. Y gaeaf hwn, bydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad cydweithredol newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru, sef Dawns y Ceirw, ar y cyd â Steffan Donnelly.

Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn gwneud yn fawr o’r cyfle hwn i adolygu’r strwythur arwain gweithredol a bydd yn rhoi’r broses recriwtio ar waith o fis Mai ymlaen, gan gyhoeddi penodiad parhaol yn ystod Hydref 2024.

 

https://ndcwales.co.uk/matthew-william-robinson-lead-zfinmalta-january-2025