Mae cynllun 'Noson Allan' Cyngor Celfyddydau Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol mewn cymunedau led-led Cymru ers llwyfannu’r perfformiad cyntaf ym 1980. Mae’r cynllun yn rhoi gwarant yn erbyn colled i hyrwyddwyr, hyd yn oed os nad yw arian y tocynnau’n talu am gynnal y digwyddiad.

Heddiw dywedodd Peter Gregory, Pennaeth Noson Allan:

"Ers 40 mlynedd mae'r cynllun yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cefnogi bywyd diwylliannol cymunedau gwledig a difreintiedig Cymru. Ein digwyddiad cyntaf erioed oedd yn Neuadd Dinasyddion Hŷn Nant-y-bwch yn Nhredegar ar 13 Hydref 1980. “Small Change Theatre” oedd yn gyfrifol am ein taith gyntaf pan berfformiwyd "Hope Street" ynghylch trychineb Glofa Gresffordd.

"Ers 1980 mae'r cynllun yn mynd o nerth i nerth. Yn y blynyddoedd diweddar mae wedi cefnogi dros 500 perfformiad bob blwyddyn. Mae’r gallu i gynnal adloniant am gost resymol yn cyfrannu'n aruthrol at allu pentrefi i ymgynnal ac yn cyfrannu at gryfhau ymdeimlad cymunedol.

"Er bod cyfyngiadau’r coronafeirws wedi atal sioeau am y tro, edrychwn ymlaen at roi’r cynllun ar waith eto cyn gynted â phosibl er mwyn cefnogi perfformiadau proffesiynol o safon mewn neuaddau pentref ledled Cymru."

Diwedd                                        13 Hydref 2020