...i wneud cais am un o gomisiynau perfformiad unigol Volcano yn The Shape of Things to Come 2025.
Dyma bedwaredd flwyddyn y gyfres gomisiwn llawrydd hon, a ddechreuodd yn 2022 fel Solo Duets for the Future.
Rydym yn chwilio am bum syniad sy’n defnyddio’r set (ystafell syml 4 x 4m ar y llwyfan a gynlluniwyd gan Bourdon Brindille) mewn ffyrdd gwahanol gan ddefnyddio eich dychymyg. Rydyn ni eisiau gwaith sy’n cyfathrebu â chynulleidfaoedd, ac sy’n edrych tuag at y dyfodol yn hytrach na datglymu’r gorffennol.
Cyflwynwch syniad cyn gynted â phosibl, neu erbyn 8 Mawrth.
Bydd comisiynau yn digwydd yn ystod Ebrill a Mai. Bydd pob comisiwn yn para pythefnos. Ffi artist £1500 + treuliau.
Llun: Eric Ngalle Charles, Rituals of the Molikilikili, 2024