Mae’n bleser gan MADE gyflwyno casgliad newydd o waith gan Kaylee Francis, Ffion Denman, Tracy Harris a Jack Moyse, fel rhan o’n rhaglen New Voices Creative sydd wedi ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Drwy brosesau ymarferol a’r defnydd o naratif, mae’r arddangosfa’n trafod y personol a’r gwleidyddol, gyda phrofiadau anesmwyth ymhleth â’r hudolus.
Sut mae eraill yn ein gweld ni, sut rydym ni’n gweld eraill, a’r defnydd o brofiad ac empathi fel elfennau pwysig ar y cyd ag aestheteg. Daw pob artist â chymlethdodau unigryw i’r gwaith, a chyd-destun emosiynol sydd yn eu galluogi i graffu ar systemau cymdeithasol a chroestoriadau diwyllianol yn gyfochr â’r byd dychmygol.