Er yr holl heriau sydd wedi wynebu’r sector celfyddydau dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r flwyddyn hon wedi bod yn orlawn o ddigwyddiadau celfyddydol gwych.

O’n neuaddau cymunedol i’n prif wyliau, mae’r celfyddydau wedi dod â hwyl a gobaith i gynulleidfaoedd o bob cefndir.

Mae’r Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch iawn i gefnogi cannoedd o sefydliadau ac unigolion creadigol ar draws Cymru.

Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall llawn ysbrydoliaeth yn 2024. Yn y cyfamser, dyma flas o’r digwyddiadau celfyddydol a gefnogwyd gennym dros yr haf i ddod a bach o wres i gynhesu’r gaeaf.

(Cerddoriaeth gan Adwaith)