Caëwch y drysau yn y cefn a phob chwara teg! Mae Sioe Glwb ddiweddaraf Bara Caws ar fin cychwyn… 

Mae gan Bara Caws draddodiad hir o gyflwyno sioeau doniol, deifiol sy’n denu ac yn apelio at groestoriad eang o gynulleidfaoedd. Cafodd y sioe glwb gyntaf, Zwmba, ei chyflwyno nôl ym 1986 a honno wedi deillio o sioeau rifiw oedd y Cwmni’n eu cynnal mewn tafarndai, gyda Croeso i’r Roial,sioe gyntaf un y cwmni’n cael ei pherfformio yn Eisteddfod Geneadlaethol Wrecsam ym 1977.

Os gofiwch chi, a ninnau ynghanol y pandemig, roedd rhaid meddwl ‘tu allan i’r bocs’ a dyma benderfynu dangos Dawel Nos gan Cwmni 303 yn rhithiol, ac yn sgil galw mawr bu i ni lwyddo i gyflwyno 8 perfformiad byw rai misoedd yn ddiweddarach - a diolch i chi gynulleidfaoedd dewr am fentro allan i’n cefnogi ar gyfnod mor ddyrys!

Felly, eleni ‘rydym yn falch iawn o ddweud bod Iwan Charles a Llyr Evans wedi bod wrthi’n ddiwyd unwaith eto yn ‘sgwennu sioe newydd i ni, a dyma ni Mwrdwr ar y Maes

Ar yr wyneb mae Eisteddfod Aberbronfraith wedi bod yn led lwyddiannus, a lot o focsus wedi eu ticio. Y Goron, y Fedal Ryddiaith a Gwobr Daniel Owen wedi’u hennill, a’r gobaith rwan ydi y bydd Bardd Traws, naci dim Hedd Wyn, yn ennill y Gadair. Tic, tic, tic. A thic enfawr i’r Eisteddfod am fod mor gynhwysfawr, arwydd clir eu bônt yn symud gyda’r oes.

Nid Eisteddfod i’r dosbarth canol fydd hi mwyach, ond ‘steddfod i bawb, y di-gartref, y di-waith a’r di-dalent… Ond bu mwrdwr, ac os bu mwrdwr, ma ‘rhaid bod mwrdwrwrwrwr…ar y maes, ond pwy?

Felly, dewch yn llu (os meiddiwch chi!) i helpu Hank a Shandy - o Rhyl - a nifer o gymeriadau lliwgar eraill i ddatrys y dirgelwch. Mae’n addo bod yn noson werth chweil, felly mynnwch eich tocynnau a dewch â’ch ffrindiau hefo chi!

Manylion y daith a sut i archebu tocynnau i’w cael ar wefan Bara Caws:-

https://www.theatrbaracaws.co.uk/cy/sioeau/mwrdwr-ar-y-maes-2024-04-24

Cast: Iwan Charles, Anni Dafydd, Siôn Emyr, Llyr Evans a Leah Gaffey

Cerddorion: Osian Gwynedd, Carwyn Williams

Coreograffi: Elan Elidir

18+

This is a Welsh language production, English precis will be available.

Os am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Stephen Owen Williams

Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid Theatr Bara Caws

steve@theatrbaracaws.co.uk / 01286 676 335