Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2023, mae MTW wedi rhannu uchafbwyntiau’r cwmni yn 2023 – cyfnod o weithio mewn amryw o ffurfiau gwahanol, a gyda’r ystod ehangaf posibl o bobl greadigol, gan gwmpasu perfformiadau byw, gweithiau digidol, pobl ifanc greadigol a chelfyddyd stryd. Ar hyn o bryd mae gan MTW saith darn mewn comisiwn, a chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

Anrhydeddau a Gwobrau

Ym mis Tachwedd roedd MTW wrth eu bodd bod eu cyd-gomisiwn gydag Opera Philadelphia – Denis & Katya gan Philip Venables a Ted Huffman – wedi cyrraedd 10 Uchaf yr operâu cyfoes a berfformir amlaf yn fyd-eang. Estynnwn ein llongyfarchiadau diffuant i Phil a Ted, ac rydym wrth ein bodd bod y gwaith hynod wreiddiol hwn yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Llwyddodd cynhyrchiad MTW yn 2022 – sef Violet gan Tom Coult ac Alice Birch, cyd-gynhyrchiad gyda Britten Pears Arts/Gŵyl Aldeburgh a’r London Sinfonietta – i barhau i ennill clod gyda dau enwebiad pwysig pellach yn ystod 2023: Gwobrau’r South Bank Sky Arts a’r Classical IVORS (yn dilyn y Gwobrau UK Theatre a’r Gwobrau Rhyngwladol am Opera yn 2022). A phleser mawr i MTW oedd gweld Tom Coult yn derbyn Gwobr y Criticss’ Circle i Gyfansoddwyr Ifanc, gyda chyfeiriad arbennig at Violet. Mae opera Tom eisoes wedi derbyn dau gynhyrchiad newydd – un yn yr Almaen yn 2022 a’r llall yn Ffrainc yn 2023 (a gaiff ei adfywio yn ystod 2024).

Yn 2023 cafwyd cysylltiad anghyffredin gyda Jon Fosse, oedd newydd gael ei anrhydeddu fel y Nobel Laureate for Literature. Fel cyfarwyddwr y stiwdio opera gyfoes ar gyfer Norwy, roedd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Artistig MTW,  wedi cefnogi datblygiad yr unig opera oedd yn seiliedig ar un o ddramâu Jon Fosse – Someone is Going to Come – ac ef oedd cyfarwyddwr y cynhyrchiad premiere byd. Gobeithiwn y bydd yr opera, o waith y cyfansoddwr Knut Vaage, bellach yn cael mwy o sylw.

Gwaith Perfformio

Dechreuodd y flwyddyn â chyd-gynhyrchiad gyda Fio o The Jollof House Party Opera gan Tumi Williams a Sita Thomas – opera a phrofiad bwyta llawen, byr a hip-hop y buom yn ei rannu gyda chynulleidfaoedd mewn canolfannau cymunedol yn Wrecsam, Hwlffordd a Chaerdydd. Dangosodd y darn hwn y  potensial anferth sydd i ehangu sail cerddorol a diwylliannol yr hyn y gellid ei ddychmygu fel opera.

Yn ystod yr haf bu MTW yn lansio ffurf operatig newydd arall ar gyfer Cymru – OPERA CELFYDDYD STRYD – oedd yn cynnwys gweithdy rhagarweiniol yn cael ei ddilyn gan alwad agored i artistiaid Cymreig i gyflwyno cynigion am Operâu Celfyddyd Stryd ar gyfer y dyfodol. Roedd adborth y cynulleidfaoedd a dderbyniwyd gennym yn dilyn y cyflwyniadau ym Mangor, Hwlffordd a Chaerdydd yn hynod o frwdfrydig. Roedd yr ymateb i’r Alwad Agored yn arbennig, a derbyniwyd 26 o gynigion anhygoel – bron y cyfan ohonynt gan artistiaid sy’n newydd i fyd yr opera ac i MTW.

Wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn, mae MTW yn cyflwyno eu hail Opera Ddigidol yn y cynllun Future Directions – sef Perthyn (To Belong) ­– ar eu gwefan, yn dilyn perfformiad premiere mewn sinema ar gyfer y cyfan o’r tîm creadigol o bobl ifanc a’r pedwar hwylusydd creadigol (y cyfansoddwr Mari Mathias, y dramatwrg Jain Boon, y gwneuthurwr ffilmiau Gavin Porter a’r gantores opera Llio Evans). Future Directions yw rhaglen MTW ar gyfer pobl ifanc, yn cynnwys rhai a chanddynt anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, a phobl ifanc niwroamrywiol, gan weithio mewn partneriaeth gyda Hijinx. Rydym yn hynod falch o gyflwyno’r opera ddigidol ddwyieithog a grëwyd ganddynt yn ystod 2023 – sef Perthyn – fel cynhyrchiad Music Theatre Wales. 

Comisiynau

Ym mis Chwefror 2024 bydd MTW yn rhyddhau’r ddau ddarn digidol byr nesaf a gomisiynwyd gan bobl greadigol anhygoel, a’r cyfan ohonynt yn newydd i fyd opera – Francesca Amewudah-Rivers a Connor Allen, a Simmy Singh a Myah Jeffers. Fel yn achos darnau digidol cynharach, mae MTW yn fwriadol yn gofyn beth yw opera a beth y gall fod, gan roi adrodd stori trwy gerddoriaeth wrth galon y gwaith ond yn torri’r holl reolau eraill sy’n berthnasol i arddull y gerddoriaeth, y stori a adroddir, y ffurf a’r fformat, ac yn fwyaf pwysig pwy sy’n ei chreu. Maent yn fwriadol yn dewis artistiaid sydd eisoes yn amlwg yn archwilio adrodd stori trwy gerddoriaeth, ond na fyddai ganddynt fel arfer fynediad at yr hyn y byddem ni’n ei alw’n opera. Mae MTW yn credu mai dyma’r ffordd fwyaf cyffrous o symud eu hoff ffurf ar gelfyddyd yn ei blaen, a sicrhau ei bod yn ymwneud â’r hyn y maen nhw’n awr fel cwmni, ac nid â’r hyn oedden nhw yn y gorffennol.

Ym mis Awst 2024 bydd MTW yn gweithio mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan Gerdd Aberystwyth a Sinfonia Cymru ar greu digwyddiad theatr gerddoriaeth arloesol arall: perfformiad yn yr iaith Gymraeg yn cynnwys monodrama operatig sydd newydd ei chyfansoddi ar gyfer llais tenor a phump o offerynwyr, gan y cyfansoddwr Conor Mitchell a’r cyfarwyddwr/ dramatwrg Jac Ifan Moore. Perfformir y gwaith hwn ochr yn ochr â darn sydd newydd ei greu gan Eddie Ladd, yn cyflwyno ei dehongliad hi o’r gerdd wreiddiol Atgof gan Prosser Rhys. Mae’r rhaglen hon wedi ei seilio ar ganmlwyddiant yr achlysur pan enillodd y gerdd Atgof y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924, a’r effaith a gafodd yr ymateb i’r gerdd ar Prosser Rhys. Bydd y cynhyrchiad yn teithio yng Nghymru yn yr hydref 2024.

Hefyd yn 2024 bydd MTW yn cyflwyno’r Operâu Celfyddyd Stryd sydd newydd gael eu comisiynu, a hynny ar adeg ac mewn lleoliad sydd eto i’w cadarnhau. Bydd y creadigaethau hyn yn dod yn fyw ar furiau yng Nghymru – yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg, fel celfyddyd stryd, fel operâu, fel animeiddiadau, fel adrodd straeon mewn cerddoriaeth, ac ar ffurf opera fel ymgyrchu.

Datblygiad y Cwmni

Pleser i MTW oedd cael eu cynnwys yn y portffolio newydd o gwmnïau a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn eu Hadolygiad Buddsoddi, a derbyn cyllid segur. Er eu bod yn cydnabod bod eu penderfyniad yn ddilysiad pwerus o weledigaeth a chenhadaeth newydd MTW, a’r cyfnod anodd rydym i gyd yn byw ynddo, mae MTW am ei gwneud yn glir y byddwn – erbyn i ni gyrraedd diwedd y cyfnod ariannu hwn – wedi derbyn cyllid segur am 10 mlynedd.

Daeth MTW yn aelod o Black Lives in Music, ac maent yn parhau i chwilio am gyngor a chymorth i’w helpu i ddatblygu eu gwaith i gyflenwi gwell cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r bartneriaeth hon yn eu helpu i wirio eu ffordd o feddwl, a rhannu syniadau gyda phartner a ddaw â llu o fewnwelediadau a phrofiadau a roddwyd ar waith gan sesiwn ysbrydoledig a gyflwynwyd gan eu Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Roger Wilson. Byddant yn cydweithio dros y blynyddoedd sydd i ddod i fynd i’r afael â rhai o’r heriau strwythurol sy’n wynebu artistiaid a gweithwyr Du ym maes opera a’r diwydiannau cerddoriaeth. 

Mae MTW yn parhau i weithio gyda’r Cysylltai Artistig Elayce Ismail – mae ei harbenigedd, ei gwybodaeth a’i mewnwelediad yn cyfrannu cymaint i’r cwmni. Mae ei phartneriaeth greadigol gyda’r cyfansoddwr Alex Ho (MTW oedd wedi cyflwyno Elayce ac Alex i’w gilydd, a’u gwahodd i gydweithredu ar y darn digidol cyntaf ar gyfer New Directions, sef AMAZON, yn 2020) yn parhau eleni gyda chylch caneuon newydd ar gyfer yr Oxford Song Festival, sy’n cyflwyno hanes gafaelgar yn adlewyrchu ar y niwed rydym yn ei wneud i’n planed, a’r modd cwbl anhygoel y gallai eto lwyddo i oroesi trychineb.

Ymunodd Kathryn Joyce â ni fel Rheolwr Cyffredinol yn ystod 2023 – mewn da bryd i’n helpu i gyflwyno ein cais llwyddiannus i Adolygiad Buddsoddi CCC 2023 – ac yn ddiweddarach daeth Catrin Slater atom fel swyddog codi arian. Bydd Rachel Kinchin, ein Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata, yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn wrth iddi fwrw ’mlaen gyda’i phrosiectau ei hun ym meysydd celfyddyd, llesiant a chynhwysiant.

Ym mis Rhagfyr 2023 mae Cadeirydd MTW, Christine Bradwell, yn trosglwyddo’r awenau i’r Darpar Gadeirydd, Kerry Skidmore. Hoffai Music Theatre Wales ddiolch yn ddiffuant i Christine am helpu i arwain y cwmni drwy ddyfroedd pur dymhestlog, yn cynnwys Covid 19 ac adolygiad, ac ail-luniad radical o’r cwmni a’i waith dros y 6 blynedd ddiwethaf. Mae Kerry’n ymuno â’r bwrdd gyda chyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn Peckham a gyda Multistory.