Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas, Heledd Wyn
Mae’r Glynn Vivian yn gyffrous i gyflwyno gludafael/holdfast, arddangosfa grŵp lle bydd wyth artist ar y cyd yn amlinellu gallu celf i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Glynn Vivian gyda’r Hwyr, nos Iau 23 Tachwedd 2023, 5.30pm – 8.00pm
Drwy gyfuno ymchwil a gwaith newydd gan yr artistiaid Kathryn Ashill, Angela Davies, Kirsti Davies, Dylan Huw, Durre Shahwar, Rhys Slade-Jones, Fern Thomas a Heledd Wyn, mae’r arddangosfa’n sôn am brofiadiau unigolion a chymunedau, ac anghydraddoldeb a hurtrwydd y systemau sy’n ein trefnu ni a’r byd.
Mae Kathryn Ashill yn ymateb i alwad y ‘dyn hel rhacs’, yr ydym yn ei glywed heddiw drwy uwch-seinydd yn gofyn am ‘unrhyw hen haearn’ ac a alwai yn y canol oesoedd am garpiau ac esgyrn. Mae hanes y fasnach yn rhagflaenydd i ailgylchu heddiw ac mae Kath yn ymateb i’w galwad am ein gwastraff gyda’i chwestiynau ei hun – am ddosbarth, bai a llais pwy sy’n cael ei glywed yn y corws o bobl sy’n gweithio ar gyfer cyfiawnder hinsawdd – gyda chân gwerin newydd.
Mae Angela Davies yn gwneud defnydd o gynlluniau am forlyn llanw 19 milltir yng Ngogledd Cymru yn y dyfodol i ystyried hanes pyllau lido ledled Cymru a sut, gan yr adeiladwyd llawer ohonynt gan gronfa les y glowyr, maent yn dal hanes sydd wedi’i gydblethu â chloddio a chynhyrchu ynni. Yn Aequus, mae golygfeydd o’r awyr o ddawnswyr yn perfformio mewn pwll lido gwag yng Nghraig y Don, Llandudno, yn cael eu hatseinio gan ddawnswyr yn perfformio ym Môr Iwerddon. Cynhyrchwyd y fideo o ganlyniad i awydd i archwilio’r dryswch cymhleth sy’n cydfodoli wrth i ni ddod o hyd i ffyrdd o gydamseru ein symudiadau tuag at ail-ddychmygu’r dyfodol y tu hwnt i’n gorwel ni.
Mae Kirsti Davies wedi’i hysgogi gan y cwestiwn canlynol: Sut ydyn ni’n dod o hyd i’r iaith i adennill naratif yr argyfwng hinsawdd, pan nad yw sefydliadau amgylcheddol yn gweithio? Yr edefyn gobaith y mae hi’n ei ddilyn yw gwymon. Gan ehangu ar ddeialogau cymunedol eang ym Machynlleth, lle bu’r artist Kirsti yn gweithio gyda phreswylwyr a busnesau lleol i ddefnyddio gwymon yn ddyddiol unwaith eto, mae’r arddangosfa’n cyflwyno’i hadnodd sy’n datblygu, Gwymona, gan wahodd ymwelwyr i archwilio’r posibiliadau niferus y mae gwymon yn eu cynnig i ni.
Gan ddefnyddio ymchwil tymor hir, mae Dylan Huw yn datblygu gwaith llenyddol newydd ar ffurf pâr o weithiau sain llafar, a gynhyrchwyd gyda’r artist Freya Dooley. Gan fyfyrio ynghylch ffyrdd o draethu natur llethol bywyd a gwaith mewn oes a gyflyrir gan ddymchweliad ecolegol, mae’r ddau ddarn yn cynrychioli meddwl tu blaen sy’n aflonydd, yn rhyfedd, yn rhwydweithiedig, yn flinedig, wedi’i droi drosodd a’i ailgylchredeg. Mae wedi ymddangos o freuddwydion twymyn a’r llun cynharaf sydd wedi goroesi o goelcerth (a dynnwyd ger Abertawe ym 1853), i sgrolio drwy’r ddelweddau o dân a dinistr mewn diwylliant gweledol pob dydd.
Mae Durre Shahwar yn defnyddio gwrthrych teuluol sef pot dŵr i ystyried profiad dadleoledig yr argyfwng hinsawdd i gymunedau ym Mhacistan. Mae’r llestr clai hwn wedi cael ei ddefnyddio ar hyd y cenedlaethau, fel y mae heddiw, gan fenywod sy’n cerdded drwy lifogydd a achoswyd gan ddaeargrynfeydd i gario dŵr ffres sy’n cynnal bywyd. Mae Durre yn ehangu ar aflonyddwch y dŵr hwn drwy ofyn i ni feddwl am y rhythmau newidiol hyn a’r hyn rydyn ni’n ei gasglu wrth i’r byd newid.
Caiff Neuadd Henoed Treherbert ei dwyn i’r oriel ar ffurf fechan gan Rhys Slade-Jones, wedi’i phwytho ynghyd o lenni melfed llwyfan y neuadd. Ar gyfer graddfa tebyg i babell, mae Rhys yn gwneud defnydd o ddimensiynau sy’n perthyn i’w mam ac iddyn nhw eu hunain, gan godi cwestiynau am yr hyn rydym yn ei etifeddu a’r hyn rydym yn ei adael ar ôl, ar raddfa blanedol amlgenhedlaeth. Wrth greu’r model hwn o le cymunedol sy’n unigryw o arbennig, mae’r artist yn gofyn pa adeileddau y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a pha fath o henaint yr hoffem ei gael pan gyrhaeddwn yno.
Gan weithio gyda delwedd Y Dyfrwr fel arwydd cytser ac astrolegol, mae Fern Thomas yn ystyried yr angen am ddelweddau arweiniol newydd wrth i ni dystiolaethu i gwymp yr hinsawdd. Yn llawn mythau am lifogydd mawr, ond hefyd yn symbol o ddechreuadau newydd, cymuned a gweithredoedd llawr gwlad, mae Fern yn cynnig y cytser hynafol hwn fel offeryn er mwyn ail-greu’r amserau mytholegol hyn. Fel y mae’r athro Swffi, Emmanuel Vaughan Lee, yn ei awgrymu, ‘mae’r newidiadau sy’n dod i’r amlwg mor anferthol – maen nhw’n fythaidd […] Ni allwn eu deall oni bai ein bod yn defnyddio iaith fythau.”
Mae gosodiad Heledd Wyn yn deillio o’i hymchwil i hanes cynhyrchu cywarch yng Nghymru a’r ffyrdd y mae cywarch, fel cnwd amlbwrpas a ddefnyddir i wneud bioddeunyddiau a all fod yn fioddiraddadwy ac y gellir eu compostio yn eu tro, yn rhan o system gylchol pridd i bridd. Mae’r gosodiad yn cynnwys planed, a elwir yn NON, ac mae Heledd yn dweud taw’r un peth y gall pob un ohonom ei wneud, ymysg yr holl bryder a gofid am yr argyfwng hinsawdd, yw arafu, prynu llai a gwneud llai. Sut y mae pŵer mewn peidio â gweithredu er mwyn dod o hyd i gydbwysedd.
Mae’r arddangosfa hon wedi’i chomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda chefnogaeth y Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru, a’i datblygu gyda’r curadur Louise Hobson. Daethpwyd â’r artistiaid yn gludafael / holdfast ynghyd am y tro cyntaf drwy Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2022.
Bydd cyfres o raglenni cyhoeddus a arweinir gan yr artistiaid ochr yn ochr â’r arddangosfa, gan gynnwys sgyrsiau, digwyddiadau, perfformiad a gweithdai, a gynhelir o fis Ionawr i fis Mawrth 2024. Ewch i www.glynnvivian.co.uk am ragor o wybodaeth am y rhaglen.