Archif Ddarlledu Cymru'n Cyflwyno... John Ogwen & Maureen Rhys

BBC Radio Cymru’n recordio pennod Nadolig arbennig o Sioe Gelfyddydau Ffion Dafis

Mae Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cyhoeddi manylion digwyddiad cyffrous diweddaraf y gyfres, “Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno…”. Mae’r gyfres yn dathlu etifeddiaeth gyfoethog darlledu Cymreig a’i sêr, gan arddangos eu cyfraniadau i Gymru a’r treftadaeth sgrin. Mae’n bartneriaeth rhwng y Llyfrgell a’r darlledwyr BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C. Wedi’i hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol,  cenhadaeth a phwrpas Archif Darlledu Cymru yw i rannu a gwarchod treftadaeth ddarlledu Cymru gyda’r cyhoedd.

Nos Iau 26 Medi bydd cyflwynydd sioe gelfyddydol BBC Radio Cymru, Ffion Dafis yn cynnal “Archif Ddarlledu Cymru’n Cyflwyno... John Ogwen a Maureen Rhys”. Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn dathlu’r actorion, y ddeuawd gŵr a gwraig o Gymru, sydd ill dau yn dathlu eu penblwyddi yn 80 oed eleni, ac sydd wedi bod ar ein sgriniau teledu ers canol y 60au.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei recordio ar gyfer pennod Nadolig arbennig o sioe gelfyddydol Radio Cymru. Yn ogystal â chael clywed sgwrs John a Maureen gyda Ffion Dafis o’r noson, bydd y rhaglen hefyd yn cynnig cipolwg tu ôl i’r llenni ar y Llyfrgell Genedlaethol wrth i Dr Maredudd ap Huw, Curadur Llawysgrifau, arddangos eitemau o’r casgliadau sydd o bwys i John a Maureen.

Bydd y cwpl eiconig a gyfarfu ym Mhrifysgol Bangor ac a briododd yn 1966, ac sydd wedi serennu mewn nifer o ddramâu a ffilmiau teledu Cymraeg, yn rhoi cipolwg unigryw tu ôl i’r llenni i’r gynulleidfa ar rai o ddramâu mwyaf arwyddocaol Cymru, fel Lleifior ac Y Tŵr. Yn ogystal, fel atgof o’r hen arfer Hollywood, byddan nhw’n siarad am sut y cafodd y ddau eu cytundeb i serennu mewn pedair drama deledu yn union wrth i S4C ddechrau. Derbyniodd John Ogwen y wobr BAFTA Cymru arbennig am Gyfraniad Eithriadol yn 2004.

Dywedodd John Ogwen a Maureen Rhys: "Mae'n anrhydedd i ni gael gwahoddiad fel gwesteion arbennig yn Archif Ddarlledu Cymru. Mae hel atgofion am ein gwaith cynnar wedi bod yn bleserus iawn, allwn ni ddim aros i rannu ein straeon!  Rydym wedi cael gwybod bod yna bethau annisgwyl i ni yng nghasgliad y Llyfrgell hefyd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld pobl hyfryd Aberystwyth ym mis Medi."

Mae digwyddiadau blaenorol yn y gyfres yn cynnwys nosweithiau yng nghwmni’r actor a seren Y Gwyll/Hinterland, Richard Harrington, yn ogystal â’r gantores, y gyfansoddwraig a’r gyflwynwraig Caryl Parry Jones. Mae Canolfan yr Archif hefyd yn cynnal Gweithdai Darlledu rheolaidd i gyflwyno hanes darlledu a gyrfaoedd posibl ym myd darlledu i blant ysgol gynradd.

Dywedodd Dr Dafydd Tudur, Cyfarwyddwr Archif Ddarlledu Cymru: "Mae talentau eithriadol John Ogwen a Maureen Rhys yn adnabyddus i genedlaethau o wylwyr a gwrandawyr yng Nghymru. Edrychwn ymlaen yn eiddgar at eu croesawu i’r Llyfrgell Genedlaethol, i edrych yn ôl ar eu gyrfaoedd disglair a chlywed eu hanesion, ac at rannu ambell drysor o’r Archif Ddarlledu a chasgliadau eraill hefyd!

Mae Archif Ddarlledu Cymru wedi mynd o nerth i nerth ers ei lansio ym mis Mawrth y llynedd. Mae miloedd wedi ymweld â’r Ganolfan Archif Darlledu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac rydym wedi agor Corneli Clipiau ledled Cymru er mwyn i’r cyhoedd allu cael mynediad at fwy na 250,000 o raglenni teledu a radio yn y lleoliadau hynny hefyd. Bydd mwy o Gorneli Clip yn agor yn fuan, a bydd miloedd yn rhagor o raglenni ar gael. Yn ogystal, rydym yn cynnal gweithdai i ysgolion, gweithgareddau cymunedol, a rhaglen o ddigwyddiadau fel hyn i ddathlu ein treftadaeth ddarlledu.”

Mae tocynnau am ddim ac ar gael ar https://digwyddiadau.llyfrgell.cymru a chroesewir unrhyw roddion ariannol i’r Llyfrgell Genedlaethol.