Rydym yn chwilio am sawl ymddiriedolwr anweithredol annibynnol, sydd ag angerdd neu ddiddordeb yn y celfyddydau ond nad ydynt o reidrwydd yn gweithio yn y theatr, a all ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion strategol. Mae arnom angen pobl sydd ag arbenigedd, egni ac uchelgais, sy'n barod i roi o'u hamser a'u profiad sy'n rhannu ein hangerdd, gweledigaeth a gwerthoedd. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn clywed gan unigolion sydd â’r arbenigedd canlynol:

  • Pobl a Diwylliant / Adnoddau Dynol
  • Cyllid
  • Busnes 
  • Addysg

Fel un o gwmnïau theatr plant uchaf ei barch y DU, mae Theatr Iolo wedi bod yn gwneud theatr wreiddiol ers dros dri deg saith mlynedd. Rydym wedi perfformio mewn ysgolion, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, theatrau, coedwigoedd, strydoedd a meysydd chwarae ledled y DU a thu hwnt yn Ewrop, Awstralia, India a Tsieina. 

Byddai ein tîm bach ac ymroddedig yn croesawu eich cyngor a’ch cefnogaeth yn eu datblygiad personol i wella'r sefydliad yn ei gyfanrwydd. Yn gyfnewid am eich cyfraniad, rydym yn addo y byddwch yn mwynhau bod yn rhan o sefydliad sy’n ymdrechu i fod y cwmni theatr plant mwyaf blaenllaw yng Nghymru ac yn rhoi’r cyfle i chi ehangu eich gorwelion a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Fel sefydliad, mae Theatr Iolo yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau bod ei phroffil staffio yn adlewyrchu’r boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu. I gynorthwyo gyda'r ymdrechion hyn, byddem yn croesawu ceisiadau waeth beth fo oedran, rhywedd, cefndir ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred ac anabledd. Bwriad y wybodaeth isod yw rhoi rhagor o wybodaeth i chi a byddem wrth ein boddau petaech yn gallu llenwi’r ffurflen mynegi diddordeb fer er mwyn i ni allu dysgu ychydig mwy amdanoch chi fel person, a’r cyfraniad y gallech ei wneud i’r sefydliad.

Dyddiad cau ar gyfer mynegi diddordeb: 16 Chwefror 2025