Cerddorfa Gymreig ddynamig a chyfoes yw Sinfonia Cymru, ac mae ei haelodau – y cyfan ohonynt dan 30 oed – ymhlith y cerddorion proffesiynol gorau o Gymru a’r byd. Gan ymhyfrydu mewn rhoi cefnogaeth ddiwyro i gerddorion ifanc, a chyfleoedd iddynt dyfu, mae Sinfonia Cymru yn creu profiadau cerddorol sy’n torri tir newydd mewn amgylcheddau newydd, i sicrhau bod cerddoriaeth o safon yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae derbyn gwahoddiad i fod yn un o dair cerddorfa flaenllaw fydd yn ymddangos ar gyfres newydd sbon Sky Arts, sef Musical Masterpieces, wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae’r cerddorion yn edrych ymlaen yn eiddgar i arddangos eu perfformiad i gynulleidfa fyd-eang pan fydd y gyfres yn cychwyn yn hwyrach yn y mis hwn:

“Roedd cael ein dewis i fod yn rhan o’r gyfres newydd ar Sky Arts yn brofiad gwefreiddiol i ni fel cerddorion. Mae gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o gerddorion yn golygu mai Sinfonia Cymru yw’r cyfle perffaith i ystyried sut y gallai byd cerddoriaeth glasurol edrych i gerddorion a chynulleidfaoedd wrth symud ymlaen. Mae Sinfonia Cymru yn unigryw, ac yn hynod gefnogol i mi. Maent wedi rhoi nifer o gyfleoedd gwerth chweil i mi raglennu cyngherddau o gwmpas themâu rhyfeddol, boed hynny’n effaith algorithmau ar ein preifatrwydd a’n hunaniaeth, neu roi llwyfan i  fater brys yr argyfwng hinsawdd drwy gyfrwng cerddoriaeth a pherfformio. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at berfformio i gynulleidfaoedd pell ac agos fel rhan o’r gyfres newydd, gyffrous hon.” – Delia Stevens, offerynnau taro.

Yn cael ei hyrwyddo gan y cerddor a’r cyflwynydd Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE, cyfansoddwr Prydeinig blaenllaw, mae Musical Masterpieces yn gyfres mewn tair rhan sy’n dangos sut mae tri o’n hoff ddarnau o gerddoriaeth glasurol yn creu eu hud a lledrith eu hunain. Bydd y ddwy hefyd yn datgelu cyfrinachau a thechnegau’r cyfansoddwyr eiconig, a’r straeon y tu ôl i’r gerddoriaeth sy’n ffefrynnau gan bawb. Bydd wynebau cyfarwydd yn cynnwys Alan Titchmarsh, Simon Callow a Nicky Spence hefyd yn cymryd rhan, gan rannu eu hangerdd eu hunain a’u dealltwriaeth o’r campweithiau hyn.  

Bydd Sinfonia Cymru yn serennu yn y rhifyn cyntaf a ddarlledir ddydd Llun 25 Medi, gan gyflwyno perfformiad newydd sbon o’r drwgenwog Four Seasons gan Vivaldi. Wedi ei ffilmio yn Neuadd Goffa Pontyberem, lleoliad gwledig sy’n dipyn o ffefryn gan Sinfonia Cymru ar gyfer eu perfformiadau, roedd yn gyfle gwych i Simmy Singh – y feiolinydd creadigol a’r ymgyrchydd cerddorol – archwilio’r Four Seasons fel ag y maent heddiw, ac i sianelu ei gofid am yr hinsawdd, ei gobaith a’i dychymyg ochr yn ochr â Delia Stevens, y chwaraewr offerynnau taro ysgogol. Bydd gwylwyr yn cael profiad anhygoel:

“Mae’r ailddychmygiad hwn o’r Four Seasons yn archwilio’r byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, a’r gwahaniaeth rhyngddo a byd Vivaldi ei hun. Credaf mai hwn oedd y darn delfrydol i fwrw iddo gyda Sinfonia Cymru oherwydd ei natur agored a’r egni trydanol mae’r cerddorion ifanc hyn yn ddod i bob ymarfer a pherfformiad. Roedden nhw’n gadael i mi deimlo’n ddiogel wrth archwilio’r darn clasurol hwn o gerddoriaeth sy’n ei fenthyg ei hun i nifer o ddehongliadau gwahanol.” – Simmy Singh, Ffidil

Bydd y gyfres yn parhau gyda Carmen gan Bizet yn cael ei pherfformio gan Opera North, a’r Hebrides Overture gan Mendelssohn yn cael ei pherfformio gan y Philharmonia Orchestra.

Dywedodd Myleene Klass: “Rydw i wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres hon gydag Errollyn. Rwy’n sicr y bydd hyd yn oed y rhai sy’n gyfarwydd â’r darnau hyn yn dod o hyd i rywbeth newydd. Caiff y rhai sy’n dod at gerddoriaeth glasurol am y tro cyntaf eu cyfareddu gan y straeon ac, mewn rhai achosion, yr wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw.”  

Dywedodd Errollyn Wallen: “Roedd creu’r gyfres hon yn bleser pur o’r dechrau i’r diwedd. Mwynhaodd Myleene a minnau y daith i ailddarganfod y gweithiau pwysig hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at rannu ein darganfyddiadau gyda’r gwylwyr.” 

Dywedodd Phil Edgar-Jones, Cyfarwyddwr Sky Arts: “Mae Musical Masterpieces yn sioe berffaith gan Sky Arts ar gyfer rhai profiadol a dibrofiad fel ei gilydd – os ydych yn hoff o’r darnau mae Myleene ac Errollyn yn edrych arnynt, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth newydd a diddorol; os nad ydych yn gyfarwydd â’r gerddoriaeth hyfryd hon, dyma’r cyfle perffaith i chi ddarganfod bydoedd gwirioneddol hudolus.” 

Bydd ‘Musical Masterpieces – The Four Seasons with Sinfonia Cymru’ yn cael ei ddarlledu nos Lun 25 Medi am 8yh ar Sky Arts. You can watch Sky Arts for free on Freeview channel 11 and Freesat channel 147. If you've got Sky or a Now TV entertainment pass, you can also watch over 2,000 hours of shows on demand.

Nodiadau i Olygyddion

I drefnu cyfweliadau, neu i gael delweddau ychwanegol a gwybodaeth, cysylltwch â Heulwen Davies, Ymgynghorydd Marchata Sinfonia Cymru, yn Llais Cymru: heulwen@llaisycmru.wales / 07817 591930.

Y Cynhyrchiad:

Comisiynir Musical Masterpieces gan Phil Edgar-Jones, Cyfarwyddwr Sky Arts, ar gyfer Zai Bennett, MD Cynnwys UK&I. Y Golygydd Comisiynu ar gyfer Sky yw Barbara Lee. Cyd-gynhyrchir Musical Masterpieces gan Full Fat TV a The Space.

Anserlen TX:  

Mae pob dyddiad TX a grybwyllir yn amodol ar newid.  

TX 1: The Four Seasons, 25 Medi, 8yh  

Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar The Four Seasons, consiertos enwog Antonio Vivaldi ar gyfer y ffidil. Yn cyflwyno perfformiad arbennig gan Sinfonia Cymru, cerddorfa o Gymru. 

TX 2: Carmen, 2 Hydref, 8yh 

Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar Carmen, yr opera boblogaidd ond dadleuol gan Georges Bizet. Yn cyflwyno perfformiadau arbennig gan Opera North, y cwmni opera Prydeinig blaenllaw.

TX 3: The Hebrides Overture, 9 Hydref, 8yh 

Mae Myleene ac Errollyn yn edrych ar yr Hebrides Overture gan Felix Mendelssohn, a adwaenir hefyd fel Fingal’s Cave. Yn cyflwyno perfformiad arbennig gan y gerddorfa Brydeinig flaenllaw, y Philharmonia Orchestra.

 

Photographer: Matt Frost

Image copyright: © Sky UK Ltd

Facebook

Instagram

Twitter