Mae Rhwydwaith Ein Llais, mewn partneriaeth gyda Theatr y Sherman, yn lansio Bwrsari Ein Llais 2024 a fydd yn cefnogi 2 artist o’r Mwyafrif Byd-eang i ddatblygu fel storïwyr ac i feithrin cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru.

 

Mae Bwrsarïau Ein Llais 2024 wedi eu hanelu at rai nad oes ganddynt unrhyw brofiad ffurfiol na phroffesiynol o ysgrifennu, ond sy’n teimlo’n angerddol am adrodd straeon, ac felly bydd y 2 ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu dewis drwy broses agored.

 

Bydd y 2 yn cael cymorth am un flwyddyn (Medi 2024 – Awst 2025) ac yn derbyn y canlynol:

  • sesiynau mentora misol gyda staff Theatr y Sherman i gefnogi eu datblygiad fel storïwyr;

 

  • cefnogaeth gan Krystal S. Lowe, yr artist a sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais, yn cynnwys cymorth gyda llunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, a meithrin cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad eu gyrfa;

 

  • arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith-ar-waith yn y digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025 a gynhelir yn Theatr y Sherman a’i gynhyrchu gan Krystal S. Lowe; ynghyd â

 

  • bwrsari o £500 i helpu gyda chostau ac amser i ddatblygu eu ffurf ar gelf.

 

Bydd Theatr y Sherman yn cefnogi derbynwyr y bwrsari i gymryd rhan mewn gwaith â thâl drwy gydol y flwyddyn, naill ai yn Theatr y Sherman neu yn rhywle arall.

Bydd ceisiadau ar gyfer Bwrsari Ein Llais 2024 yn agor ddydd Llun 1 Ebrill 2024 ac yn cau ddydd Sul 30 Mehefin 2024.

Wrth lansio Bwrsarïau Ein Llais 2024, dywedodd Krystal S. Lowe: “Gyda Rhwydwaith Ein Llais yn camu i mewn i drydedd flwyddyn y bwrsari, pleser o’r mwyaf i mi yw partneru gyda Theatr y Sherman i gynnig cyfle anhygoel i artistiaid y Mwyafrif Byd-eang i’w datblygu fel storïwyr. Yn aml, mae diffiniadau o’r ffurfiau celf mor gul fel ein bod yn mygu arloesedd. Drwy gyfrwng y bwrsari eleni, rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch grymuso a chefnogi datblygiad cenhedlaeth newydd o storïwyr arloesol i rannu eu straeon gyda ni oll.”
 

Dywedodd Joe Murphy, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Sherman: “Mae’n anrhydedd i ni gael cefnogi Bwrsari Ein Llais 2024, sy’n atseinio gweledigaeth Theatr y Sherman o fyd a wneir yn decach drwy gyfrwng y theatr. Mae’r cyfle i gael budd o arbenigedd a phrofiad Krystal yn y maes yn rhywbeth na ellir ei golli, ac mae’r posibilrwydd o ddarganfod a datblygu talent newydd yn deimlad hynod o gyffrous.”