Mae Owl at Home yn codi ar ei adain unwaith eto, a’r “charming and captivating tale...” yn dod yn ei ôl i ddifyrru plant drwy hyd a lled Cymru a Lloegr yn yr hydref.

Mae Theatr Iolo, y cwmni theatr blant sydd â’i gartref yng Nghaerdydd, yn barod i gyffroi cynulleidfaoedd ifainc â’i sioe wedi’i seilio ar y llyfr plant, Owl at Home gan Arnold Lobel o’r flwyddyn 1975. Stori hydrefol i blant pumlydd hyd at un mlwydd ar ddeg ydi hon, stori gwdihŵ sy’n byw ar ei ben ei hun ond sy’n cael hyd i hwyl a chyfeillgarwch yng nghanol yr unigrwydd.

Sgrifennwyd Owl at Home i’r llwyfan gan Rina Vergano, fe’i cyfarwyddwyd gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford ac mae’r actor a’r cerddor George Williams yn serennu ynddo yn rhan Owl. Crëwyd y sioe plant bach i gynulleidfaoedd Cymru gyntaf yn 2021 ac mae bellach yn hel ei phac i gychwyn ar daith eto i oedfannau drwy hyd a lled Cymru a De-orllewin Lloegr yn yr hydref.

★ ★ ★ ★

“A striking, wonderful piece of theatre for children”
Wales Theatre Review

Sioe feddylgar a digri ydi Owl at Home am gwdigŵ sy’n byw ar ei ben ei hun mewn tŷ bach clyd yn y coed. Does gan Owl neb i siarad â nhw felly mae’n canu wrtho’i hun ac yn chwilio am ffyrdd o basio’r amser. Mae’n pendroni gryn dipyn ynghylch pethau ond weithiau mae ei ddychymyg yn mynd yn rhemp a phethau cyffredin yn dechrau magu’u bywyd eu hunain! Yng nghanol y llanast, mae Owl yn cael hyd i ffrind annisgwyl sy’n fodlon ei ddilyn i ben draw’r byd... o’i fodd neu’i anfodd! Stori swynol gyda cherddoriaeth ydi Owl at Home sy’n dangos i ni fod cyfeillgarwch i’w gael yn y mannau mwyaf annhebygol.

“Diolch i chi am y sioe Mistar Owl. Roedd hi’n anhygoel!”
Gwen (aelod o’r gynulleidfa)

Bydd Owl at Home ar fynd o 30 Medi tan 4 Tachwedd 2023 yn rhoi tro am Chapter yng Nghaerdydd, Y Neuadd Les yn Ystradgynlais, The Egg (Theatre Royal) yn Bath, The Tobacco Factory ym Mryste, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Pontio ym Mangor.

Bydd gan rai perfformiadau o Owl at Home Ddisgrifiad Sain i gynulleidfaoedd ifainc sy’n ddall neu a chanddyn nhw nam ar eu golwg. Fe fydd yna gyfle hefyd i’r cynulleidfaoedd yma fynd ar Daith Gyffwrdd o gwmpas y set cyn y perfformiadau yma. At hyn, bydd Theatr Iolo hefyd yn cynnig Perfformiad Hamddenol yn Chapter yng Nghaerdydd (30 Medi, 11am) a Tobacco Factory ym Mryste (27 Hydref, 2.30pm). Mae’r rhain wedi’u llunio i gynulleidfaoedd ifainc ac arnyn nhw efallai angen amgylchfyd mwy hamddenol, megis y rheini ac arnyn nhw awtistiaeth neu ag anghenion ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i theatriolo.com

 

Chapter, Caerdydd
Sadwrn 30 Medi, 11am + 2pm
029 2031 1050
chapter.org

Y Neuadd Les, Ystradgynlais
Mercher 4 Hydref, 11am + 1.15pm (Perfformiadau ysgol)
01639 843163
thewelfare.co.uk

The Egg, Bath
Sadwrn 7 Hydref + Sul 8 Hydref, 11.30am + 3pm
Mawrth 10 Hydref  – Gwener 13  Hydref, 10am + 1pm  (Perfformiadau ysgol)
Sadwrn 14 Hydref + Sul 15 Hydref, 11.30am + 3pm
01225 823409
theatreroyal.org.uk

Tobacco Factory Theatre, Bryste
Mercher 25 – Sadwrn 28 Hydref, 10.30am + 2.30pm (Hanner tymor ym Mryste)
0117 902 0344
tobaccofactorytheatres.com

Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Iau 2 Tachwedd, 11am + 2pm (Hanner tymor yng Nghymru)
01758 704088
neuadddwyfor.cymru

Pontio, Bangor
Sadwrn 4 Tachwedd, 11.30am + 2.30pm (Hanner tymor yng Nghymru)
01248 38 28 28
pontio.co.uk