Cyhoeddodd theatr tafarndai o Gaerdydd The Other Room mai eu sioe nesaf fydd drama gyntaf gan awdur o Bort Talbot a’r cynhyrchiad cyntaf i’w berfformio yn lleoliad newydd Port Talbot, The New Plaza. Bydd Dumpy Biscuit gan Holly Carpenter yn cael ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cymunedol The Other Room, Samantha Jones, ac mae’n cynnwys cast o Bort Talbot a bydd yn rhedeg yn y New Plaza rhwng 11 a 29 Mehefin.
“I fod yn deg, rwy’n teimlo, yn y bôn roeddwn yn gwybod bod yn well gen i stêc na chyw iâr ond pwy sy’n archebu stêc neu iau yn Port Talbot?”
My Skylar yn ôl yn eu tref enedigol, Port Talbot, ar ôl cyfnod yn Llundain. Maen nhw’n dechrau derbyn eu hunaniaeth cwiar newydd ac mae eu barn am y byd wedi newid, ond ni all yr un peth gael ei ddweud am bawb. Mae gan Megan, Jess a Courtney i gyd eu trafferthion eu hunain ac mae brwdfrydedd y grŵp bod Skylar yn dod yn ôl yn pylu’n fuan pan ddaw hen arferion i’r amlwg. Gyda chariad Jess yn codi ei aeliau, cwynion am sŵn o fflat Megan ac ymddygiad Courtney y cyflymu calon Skylar, fydd y pedwar grymus o Bort Talbot yn dod o hyd i ffordd i gadw gyda’i gilydd? Neu a fydd sgwrs am beis Ron Evans yn ddigon i’w taflu dros y dibyn...
Dumpy Biscuit yw drama gyntaf ddoniol a ffyrnig o ddilys Holly Carpenter,
sy’n dilyn pedwar ffrind wrth iddynt drafod eu cyfeillgarwch a’u rhywioldeb yn y dre
ddur enwog honno, Port Talbot.
Cyflwynodd yr awdur a’r actor Holly Carpenter Dumpy Biscuit yn wreiddiol fel rhan o raglen Profi Eich Celfyddyd TOR yn 2022. Fe werthodd ar gyfradd 90% ac yna comisiynodd The Other Room Holly i ddatblygu’r darn yn ddrama lawn. Bydd cast gwreiddiol y perfformiad Profi Eich Celfyddyd - Holly ei hun, Jalisa Phoenix-Roberts, Anna-Sophia Tutton a Georgia Warlow - yn awr yn serennu yn y cynhyrchiad newydd ac mae’r cyfan naill ai yn byw ym Mhort Talbot neu wedi eu magu yno. Sylwodd Holly,
“Roeddwn wastad yn gwybod y byddwn yn cyflwyno rhyw ffurf ar waith gyda fy nhref enedigol, Port Talbot, yn ganolog iddo, ond nid oedd gennyf syniad cymaint o gefnogaeth y byddwn yn ei gael i wneud hynny. Mae The Other Room wedi bod yn gefn bob cam o’r ffordd o’r Profi Eich Celfyddyd, i fy helpu i strwythuro’r ddrama, i ymweld â Phort Talbot er mwyn deall fy nghyfeiriadaeth trwyddi. Deilliodd Dumpy Buiscuit o fod eisiau chwarae o gwmpas mewn ystafell ymarfer gyda rhai o’m ffrindiau gorau felly mae ei weld yn tyfu fel hyn yn anhygoel o gyffrous. Allai ddim aros am gael cyflwyno’r ddrama yr ydyn ni i gyd yn gweithio mor angerddol arni, ac i’r perfformiad cyntaf fod yn ein tref enedigol yn y New Plaza hefyd - a’r teimlad gorau yw gwybod mai dim ond y dechrau yw hyn.“
Meddai Cyfarwyddwr Artistig The Other Room, Dan Jones,
“Yn y bôn, mae Dumpy Biscuit, yn ymwneud â chartref. Yr hyn y mae’n ei olygu pan na fyddwch bellach yn perthyn i dref yr oeddech yn arfer ei galw yn gartref, a beth fyddwn ni’n ei wneud pan fydd cyfleoedd (neu ddiffyg cyfleoedd) yn ein gorfodi i adael?
Mae hyn yn teimlo’n addas iawn o ystyried sefyllfa bresennol The Other Room. Mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn beth sy’n digwydd nawr, nawr ein bod wedi cyhoeddi na fyddwn yn symud gyda’n ffrindiau yn Porter’s. Y gwir yw, rydym yn dal i weithio ar hynny, ond nid ydym yn brin o syniadau a chyfleoedd, gallwn ddweud cymaint â hynny.
Rydym yn bodoli i wasanaethu cynulleidfaoedd Caerdydd - a gwyliwch am gyhoeddiadau am brosiectau sydd ar y gweill ym mhrifddinas Cymru yn fuan. Yn y cyfamser rydym ar y ffordd - ac yn yr un modd â ‘Baba Joon’ rydym yn parhau i gynhyrchu gwaith yn yr ardal wnaeth ysbrydoli’r stori - efallai na fydd yn gartref i TOR am byth, ond yn sicr dyma gartref Dumpy Biscuit. Diolch i’r New Plaza a Phort Talbot am ein croesawu. Diolch i chi, ein cynulleidfa am eich amynedd a’ch cefnogaeth.”
Bydd Dumpy Biscuit yn cael ei chyfarwyddo gan Samantha Alice Jones, sydd yn Gyfarwyddwr Cymunedol ar The Other Room ac a hyfforddodd fel cyfarwyddwr trwy Raglen Llwybrau Proffesiynol TOR yn 2017. Meddai Sam,
“Ni fu amser mor gyffrous erioed ar gyfer The Other Room. Rydym yn cael y pleser pur o roi llwyfan i Dumpy Biscuit, drama sy’n siarad â threfi diwydiannol bach, yn siarad â phobl mewn ffordd nad wyf erioed wedi ei chlywed o’r blaen yn y theatr yng Nghymru. Mae curiad calon ffordd o siarad Port Talbot yn rhedeg trwy’r sgript, gan gyflwyno acen nad yw’n cael ei chynrychioli ddigon a grŵp o bobl mewn tref fechan nad ydyn nhw’n cael eu clywed go iawn ond yn anaml. Mae’r stori yn siarad â phobl Cymru a thu hwnt: gadael cartref a symud yn ôl, hunaniaeth, pwy ydym ni, perthyn, methu cyfathrebu. Themâu sy’n berthnasol i’r mwyafrif, ac i gynulleidfa yr ydym ni am ei chyrraedd. Mae Holly wedi cyfleu bodolaeth fydd yn berthnasol i lawer o bobl ar gymaint o lefelau.
Rwyf y tu hwnt o falch o fod yn cyfarwyddo Dumpy Biscuit gan Holly Carpenter, mae dilysrwydd a phwysigrwydd y stori hon o Bort Talbot yn hanfodol, nawr.”
Mae tocynnau ar gyfer Dumpy Biscuit ar gael yn awr o www.ticketsource.co.uk/otherroomtheatre