Mae Music. Theatre. Wales. yn teimlo’n gyffrous wrth gyflwyno Perthyn – ail Opera Ddigidol  Future Directions a grëwyd yn ystod 2023, mewn partneriaeth gyda Hijinx.   

Rhaglen ar gyfer pobl ifanc yw FUTURE DIRECTIONS – mae hi’n archwilio sut y gall opera ddod yn ffurf fynegiannol-bwerus ar gyfer pobl o bob cefndir a hunaniaeth. Mewn cydweithrediad gydag artistiaid proffesiynol, mae’r grŵp o bobl ifanc niwroamrywiol yn dyfeisio a chreu opera newydd, gan archwilio eu syniadau, dysgu gan ei gilydd, ac ysbrydoli ei gilydd a’r artistiaid cefnogol. Cyflwynir y gwaith fel cynhyrchiad Music Theatre Wales, gan ymestyn ystod ein gwaith, datblygu dulliau newydd o weithio i’r cwmni, a chysylltu gyda chynulleidfaoedd na fyddent, mae’n debyg, erioed wedi ystyried opera fel rhywbeth a allai fod yn berthnasol i’w bywydau. 

Ar gyfer y prosiect hwn, mae Music Theatre Wales wedi tynnu at ei gilydd y Gwneuthurwr Theatr a’r Dramatwrg Jain Boon, y Gwneuthurwr Cerddoriaeth Mari Mathias, y Gantores Llio Evans a’r Gwneuthurwr Ffilmiau Gavin Porter, i weithio ar y cyd gyda’r cyfranogwyr ifanc i greu gwaith newydd, gwreiddiol mewn tri symudiad. Mae’r darn gorffenedig, Perthyn, yn opera mewn cerddoriaeth, testun, symudiadau a ffilm wedi ei hadeiladu’n gyfan gwbl ar syniadau a chreadigrwydd y cyfranogwyr, ac mae’n cario neges gref oddi wrth y bobl ifanc i bawb ohonom feddwl amdani.

Mae Future Directions yn brosiect blynyddol sydd wrth wraidd prif weithgaredd y Cwmni. Cyflenwir y prosiect mewn partneriaeth gyda Theatr Hijinx.

“Roedd yn rhyfeddol gweld y stori, y gerddoriaeth, yr actio, y ffilm a’r animeiddio i gyd yn digwydd gyda’i gilydd” 

“Ro’n i wrth fy modd gyda’r canu, y llais a’r symud” 

Adborth gan gyfranogwyr 

Yn dilyn sesiynau blasu a gynhaliwyd mewn ysgolion a gyda grwpiau o bobl ifanc, ynghyd â grwpiau theatr ieuenctid Hijinx North a Hijinx Telemachus, daeth y cyfranogwyr ifanc at ei gilydd i dreulio dau gyfnod preswyl o 3 diwrnod yr un – ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill ac yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, Caerdydd ym mis Awst. Rhwng y cyfnodau preswyl, daeth y grŵp at ei gilydd ar-lein i barhau i ddatblygu syniadau a llunio strwythur ar gyfer y darn. Mae’r bobl ifanc wedi creu eu stori eu hunain: dyfeisio ei chynrychioliad dramatig, creu’r iaith weledol, creu, ysbrydoli a pherfformio yn y gerddoriaeth, a chyd-greu’r ffilmio i rannu stori roeddynt i gyd yn awyddus i’w hadrodd. Mae MTW wedi gwneud addewid: eu bod yn cael eu hysbrydoli a’u dylanwadu gan eu gwaith, a chanddynt hwy fel unigolion creadigol. Dyma yw sail Future Directions.  

“Hyderus. Bod yn fi fy hun. Creadigol.” 

“Dwi’n hoffi chwarae gyda goleuadau. Ro’n i’n hoffi’r gêmau. Dysgais wahanol sgiliau gyda’r camera.” 

Adborth gan gyfranogwyr 

A hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n cyllidwyr a’n partneriaid, yr hen a’r newydd:  

  • Prifysgol Aberystwyth   
  • Anthem. Cronfa Gerddoriaeth Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Atrium – Prifysgol De Cymru 
  • Events Onstage 
  • Theatr Hijinx   
  • Tŷ Cerdd  
  • Unite: Llety i Fyfyrwyr

Ariannwyd gan Anthem: Cronfa Gerddoriaeth Cymru, drwy eu Cronfa Atsain. Cefnogir hyn gan fuddsoddiad o gyllid Cerddoriaeth Ieuenctid, a chymorth gan noddwyr sefydlu Anthem a Llywodraeth Cymru.