Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru yn cyhoeddi lansiad archif hanesyddol bwysig ar ddatblygiad perfformiadau dawns gyfoes yng Nghymru - o gychwyn y ffurf ar gelfyddyd yn y 1970au hyd at enedigaeth Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Mae’r dyddiad lansio, sef 04 Tachwedd 2023, yn dathlu eiliad hollbwysig yn natblygiad dawns gyfoes yng Nghymru wrth iddo gyd-fynd â 40 mlynedd ers perfformiad cyntaf Cwmni Dawns Diversions (a elwid yn Theatr Dawns Jumpers i ddechrau), yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Wedi’i churadu gan Karen Pimbley, mae’r archif yn cynrychioli cyfnod dylanwadol yn natblygiad Cymru fel canolbwynt o berthnasedd diwylliannol cyfoes. Adroddir straeon o safbwynt y bobl a greodd yr hanes hwnnw - y dawnswyr, coreograffwyr, artistiaid, dylunwyr, cyfansoddwyr a llawer o artistiaid creadigol eraill. Dyma eu stori am daith fawr, sydd bellach yn cael ei chofnodi ar gyfer y dyfodol gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar-lein.

Mae nifer o gasgliadau wedi'u curadu wedi'u cynnwys yn y lansiad cychwynnol; mae eraill wrthi'n cael eu datblygu a byddant yn cael eu hychwanegu wrth i'r adnodd dyfu.

Cedwir y casgliadau ar-lein gyda Chasgliad y Werin Cymru ac mae dogfennau gwreiddiol ac archif ffotograffau wedi’u rhoi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd yr adnodd ar-lein o ddiddordeb i unrhyw un sy’n gweithio ym myd dawns gyfoes ond mae hefyd yn gyrchfan gwych i fyfyrwyr dawns sydd â diddordeb yn natblygiad y ffurf gelfyddydol yng Nghymru.

Os hoffai unrhyw artistiaid neu gwmnïau dawns siarad am eu gwaith neu gyfrannu at unrhyw un o’r casgliadau cysylltwch â karen.pimbley@rwcmd.ac.uk