Mae'r bedwaredd sioe yn nhymor The Shape of Things to Come Volcano yn ddarn am hunaniaethau anneuaidd a’r modd y maen nhw’n mynd ar goll mewn mannau cwiar. Mae pobl anneuaidd sy’n cyflwyno fel rhywun gwrywaidd, yn aml iawn mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gameleonaidd mewn mannau cwiar. Noson ar ôl noson, byddaf yn ailddyfeisio fy hun fel rhywun gwahanol i’r hyn ydw i. A ninnau wedi’n dal yn y cylchoedd hunanddinistriol hyn, sut ydym i fod i ganfod hapusrwydd cwiar? Ydy unrhyw un yn y mannau hyn yn wirioneddol hapus? Sut allwn ni gael allan o hyn, a sut allwn ni gael bod yn hapus trwy ddim ond bod yn ni’n hunain?
Fe’ch gwahoddir i ymuno â Luke mewn clwb cwiar nodweddiadol, gyda cherddoriaeth, canu, geiriau, drag, dawnsio a mwy, wrth geisio canfod ar gyfer pwy y mae’r lle hwn, a lle ydy’r man perffaith i’r rheiny nad ydyn nhw’n perthyn. Nid oes unrhyw orfodaeth arnoch chi i ddod fel pwy ydych chi go iawn. Dydd Iau a Gwener yma am 7:30 a 9:30pm.
Gwneuthurwr Theatr Cwiar, Cymreig, wedi’i leoli yng Nghymru yw LUKE HEREFORD. Ar ôl hyfforddi i ddechrau ar gyfer perfformio ym maes theatr gerdd, mae Luke yn dweud storïau trwy lens Cwiar anymddiheurol, sydd yn aml yn defnyddio estheteg ddathliadol, fyrlymus, a arweinir gan symudiad a cherddoriaeth, ac sydd wedi’i hysbrydoli bob amser bron gan ddiwylliant Cwiar. Bu’n gweithio gyda Theatr y Sherman, Ymddiriedolaeth JMK, National Theatre Wales, Ymddiriedolaeth Carne, a’r Lincoln Center Theater. Yn 2022, roedd drama gabaret hunangofiannol Luke, sef Grandmother's Closet, wedi cwblhau cyfres ganmoladwy o berfformiadau yn Summerhall ar gyfer Gŵyl Gyrion Caeredin, a gwerthwyd pob tocyn ar gyfer cyfres o berfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Ers 2021, bu Luke yn perfformio ym mhersona drag Esther Parade.