Mae Sinfonia Cymru’n cael ei hadnabod fel y gerddorfa fwyaf dynamig a chyffrous yng Nghymru, bob amser yn torri cwys newydd, gan fynd â chynulleidfaoedd i lefydd newydd, ac arddangos doniau rhai o’r cerddorion gorau dan 30 oed yn y DU. Ym mis Mehefin a Gorffennaf eleni, bydd y gerddorfa’n cydweithio gyda’r cerddorion dawnus a’r ymgyrchwyr hinsawdd Simmy Singh (ffidil), Will Pound (harmonica) a Delia Stevens (offerynnau taro) ar daith newydd o’r enw Regenerate: Seasons for Change – prosiect arloesol sy’n defnyddio cerddoriaeth fel catalydd i drafod dyfodol ein planed.

 

“Ry’n ni’n angerddol dros gefnogi cerddorion ifanc ym mhob ffordd bosibl. Gyda’r prosiect hwn, rydyn ni’n falch o roi llwyfan i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion a’i galluogi i archwilio’r argyfwng hinsawdd a dyfodol y blaned trwy gerddoriaeth. Ry’n ni’n hynod ddiolchgar i Neuadd Gregynog am eu cefnogaeth ac ry’n ni’n edrych ymlaen i ymarfer yn eu mannau gwyrdd bendigedig ar y safle. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda Simmy, Delia a Will hefyd, ac at rannu ein cerddoriaeth a hybu sgyrsiau pwysig gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru.” Caroline Tress, Prif Weithredwr.

 

Fel pob un o gyngherddau Sinfonia Cymru, gall y gynulleidfa ddisgwyl yr annisgwyl! Bydd y cyngherddau hyn yn cynnwys rhywbeth i bawb, gydag ailddychmygiad o The Lark Ascending gan Vaughan Williams ochr yn ochr â cherddoriaeth werin draddodiadol gyda Will Pound – a enwebwyd dair gwaith am y wobr BBC Folk Musician of the Year – ar yr harmonica. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys y perfformiad cyhoeddus cyntaf o ailddychmygiad o The Four Seasons gan Vivaldi, a gomisiynwyd yn wreiddiol gan y gyfres Sky Arts, ‘Musical Masterpieces’, yn cael ei gyflwyno gan Myleene Klass ac Errollyn Wallen CBE.

 

“Roedd gwylio’r perfformiad hwn gan Sinfonia Cymru o The Four Seasons gan Vivaldi yn ystod y sesiwn ffilmio yn Neuadd Goffa Pontyberem yn wirioneddol ysbrydoledig ac yn brofiad emosiynol iawn." Errollyn Wallen CBE.

 

Mae Delia Stevens, yr offerynnwr taro heb ei ail ac yn ymgyrchydd hinsawdd, yn gyn-aelod o Sinfonia Cymru ac mae hi wrth ei bodd yn gweithio gyda’r gerddorfa ar y prosiect unigryw hwn:

 

"Mae Sinfonia Cymru yn gasgliad o gerddorion ifanc blaengar sy’n trawsnewid siâp y sîn cerddoriaeth glasurol. Mae Cymru’n dod yn ganolfan bwysig o ran meddwl yn ddwfn a chynnig hyfforddiant o amgylch yr argyfwng hinsawdd, felly gallai ddim meddwl am ffordd well o archwilio pwnc mor bwysig â hwn na gyda cherddorfa’r genhedlaeth nesaf."

 

Bydd Simmy Singh, y fiolinydd o Gymru a Chysylltai gyda Sinfonia Cymru, yn cynnal Sesiynau Cysylltu â Natur ym mhob cymuned cyn y daith, gan gydweithio gyda grwpiau amgylcheddol lleol i archwilio natur a llesiant drwy gyfrwng cerddoriaeth, a chreu cynnwys a fydd yn rhan o’r daith ei hun.

 

“Mae Regenerate yn brosiect sy’n agos iawn at fy nghalon, ac mae’n gymaint mwy na dim ond cyngerdd.  Mewn ymateb i’r argyfwng ecolegol ac ysbrydol ry’n ni ynddo ar hyn o bryd, nod y prosiect hwn yn harneisio hud a phŵer cerddoriaeth i’n cysylltu ni â doethineb y byd naturiol, a chynnau fflamau chwilfrydedd o’n mewn ni i gyd. Mae’n alwad i weithredu, ac yn gri o’r galon i fentro dychmygu beth allai ddigwydd os llwyddwn i’w gael yn iawn, a chofio mai ni YW natur.”

 

Perfformir Regenerate: Seasons for Change yn y lleoliadau canlynol:

 

Neuadd Goffa Cricieth ddydd Gwener 14 Mehefin am 19:30.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, ddydd Sadwrn 15 Mehefin am 19:30. Neuadd Goffa Pontyberem ddydd Sul 16 Mehefin am 16:00.

Fel rhan o MusicFest yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf am 20:00.

 

Yn ogystal, cynhelir ymarfer agored yn Neuadd Gregynog ddydd Iau 13 Mehefin am 18:00 – 19:30 – bydd y digwyddiad hwn am ddim, ond rhaid cael tocyn am ddim i gael mynediad.

 

Mae tocynnau’r cynngherddau a’r ymarfer agored ar gael ar wefan Sinfonia Cymru;

https://sinfonia.cymru/programme/regenerate-seasons-for-change/

 

Mae’r sesiynau Cysylltu â Natur yn addas ar gyfer pob oedran, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth o flaen llaw am gerddoriaeth na chyfiawnder hinsawdd. Mae’r llefydd yn rhad ac am ddim, ond yn gyfyngedig, felly os hoffech chi fynychu sesiwn neu gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi ebostio becky@sinfonia.cymru.

 

 

-DIWEDD-

 

Am wybodaeth bellach neu i drefnu cyfweliadau cysylltwch â Heulwen Davies ar 07817591930/ heulwen@llaiscymru.wales