Braint yw cyflwyno'r enw a'r wefan newydd ar gyfer ein cynllun hygyrchedd ledled y DU sy'n ceisio gwella profiad pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol sy'n mynd i ddigwyddiadau creadigol a diwylliannol.

Croeso i All In - partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon, yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Lloegr.

Daw'r cyhoeddiad am enw'r brand newydd ar yr un diwrnod y mae gwefan All In yn mynd yn fyw. Gall sefydliadau creadigol a diwylliannol sy'n ymweld â'r safle fynegi eu diddordeb fel y gellir eu hysbysu am ddatblygiadau cyffrous a gynllunnir ar gyfer 2024 ar gyfer aelodau anabl o'r gynulleidfa.

Mae'r wefan yn cynnwys cyfeiriadur cymorth i sefydliadau allu dod o hyd i ymgynghorwyr hygyrchedd, gweithwyr llawrydd a sefydliadau o bob cwr o'r DU. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru'n rheolaidd i helpu'r sector i wella ei hygyrchedd i bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol.

Mae datblygiad All In gan dîm dan arweiniad pobl anabl yn adeiladu ar waith a llwyddiant Hynt – cynllun hygyrchedd Cymru ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydol.

Mae'r cynllun ledled y DU am gael gwared ar hyd yn oed ragor o rwystrau i bobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch creadigol a phrofiadau diwylliannol. Bydd yn ceisio ei gwneud yn haws archebu tocynnau drwy wella'r ffordd y rhennir y gofynion hygyrchedd, darparu hyfforddiant a chymorth dysgu i helpu lleoliadau i fodloni safonau hygyrchedd a gefnogir gan y sector a denu cynulleidfaoedd newydd i ddigwyddiadau creadigol a diwylliannol y DU.

Mae'r cyhoeddiad heddiw am All In yn dilyn adroddiad gwych am Hynt. Mae'r adroddiad, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ac a gyhoeddwyd ddoe, yn dangos degawd o hygyrchedd cynyddol ar gyfer digwyddiadau diwylliannol yng Nghymru ac mae'n cyflwyno achos cryf dros ddatblygu’r cynllun ledled y DU.

 Nodwyd:

 

  • bod rhagor na thri chwarter o ddeiliaid cardiau (76%) yn teimlo bod eu haelodaeth o Hynt wedi gwella eu hygyrchedd at ddiwylliant

 

  • bod rhagor na dwy ran o dair o ddeiliaid cardiau Hynt (68%) yn teimlo ei bod wedi gwella eu hygyrchedd corfforol i ddigwyddiadau

 

  • bod bron i dri chwarter (72%) am ddefnyddio eu cerdyn Hynt y tu allan i Gymru

 

  • drwy gynyddu hygyrchedd at y cyfoeth o greadigrwydd ledled y DU, bydd All In yn cymryd y cam hanfodol nesaf tuag at sicrhau rhagor o degwch ar draws y sector creadigol a diwylliannol

 

Ewch i All In i fynegi eich diddordeb os ydych yn sefydliad a hoffai gymryd rhan yn y cynllun.

 

Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru; Roisín McDonough, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon; Iain Munro, Prif Weithredwr yr Alban Greadigol a Darren Henley, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Lloegr: "Rydym yn gweithio gyda phobl a sefydliadau B/byddar, anabl a niwroamrywiol o bob maint i sicrhau bod y cynllun newydd yma’n croesawgar i bawb. Drwy wneud hynny, bydd o fudd i aelodau unigol o'r gynulleidfa yn ogystal â sefydliadau creadigol a diwylliannol o bob maint ledled y DU."

Dywedodd Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr Creu Cymru (rheolwyr Hynt): "Rydym yn falch iawn o weld y wefan newydd yn mynd yn fyw heddiw. Mae llwyddiant Hynt yng Nghymru wedi darparu rhagor o hygyrchedd i'r celfyddydau a sicrhau bod rhagor o theatrau yn rhoi anghenion pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol yn flaenoriaeth yn eu gwaith. Bydd yn ei gwneud hi'n haws i gynulleidfaoedd deithio a phrofi'r creadigrwydd a'r diwylliant sydd gan y DU i'w cynnig."

Meddai Andrew Miller MBE, Hyrwyddwr Hygyrchedd Celfyddydau'r DU i Bawb: "Yn 2014 gwelais lwyddiant Hynt yn uniongyrchol fel cyfarwyddwr lleoliadau Coleg Cerdd a Drama Cymru. Roedd yn gwneud bywyd ein cynulleidfaoedd anabl a staff ein swyddfa docynnau gymaint yn haws. Nawr rwyf am iddo wella'n sylfaenol brofiad pobl F/fyddar, anabl a niwroamrywiol sy'n mynd i ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ledled y DU drwy gael gwared ar rwystrau a’i gwneud hi'n haws archebu tocynnau a chynnig cysondeb. Ni ddylai prynu tocyn fod yn hen strach!"

Dywedodd Sam Tatlow MBE, Partner Amrywiaeth Creadigol yn ITV: "A finnau’n Gadeirydd Grŵp Ymgynghorol Cynllun Hygyrchedd o aelodau B/byddar, anabl a niwroamrywiol o’r gynulleidfa a fu’n llywio’r prosiect cyffrous am 18 mis, rwy'n falch o gefnogi'r brand a lansiad y wefan. Rydym am iddo gael gwared ar rwystrau i ddiwylliant a chynnig llais sydd fawr ei angen fel y caiff cynulleidfaoedd anabl groeso. Bydd ein grŵp yn parhau i herio a chefnogi’n annibynnol dîm y prosiect. Rydym gant y cant y tu cefn i’r prosiect."

Meddai Jamie Hale, Cyfarwyddwr Artistig, Celfyddydau CRIPtic: "A finnau’n anabl, mae anawsterau archebu tocynnau priodol yn aml wedi golygu fy mod wedi colli digwyddiadau yn gyfan gwbl. Rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r datblygiad sy'n cael ei arwain gan bobl anabl. Mae’n gynllun sydd â'r potensial i drawsnewid hygyrchedd ar draws y celfyddydau.

"Mae’r datblygiad yn parhau, ond mae'n wych gweld ei fod yn dechrau ymsefydlu a lansio ei wefan. Mae’n gynllun dan arweiniad pobl anabl sydd wedi adeiladu ar wybodaeth o anghenion y gymuned. Mae ganddo'r potensial i drawsnewid hygyrchedd pobl anabl i'r celfyddydau."