Eleni mae’r ŵyl yn cyflwyno dau osodiad celf (am ddim i’r cyhoedd) yn ogystal â llu o berfformwyr cerddorol o Sir Benfro, ledled Cymru, Iwerddon a thu hwnt.
Modrwy Diemwnt - gosodiad celf sonig a gweledol gan yr artist sain/cyfansoddwr o Sir Gaerfyrddin, Richard James (gynt o Gorky’s Zygotic Mynci) a’r peintiwr o Dyddewi, Tony Kitchell.
Mynediad am ddim. Capel Seion, prif adeilad, Stryd Newydd, Tyddewi. Gwe 25 - Iau 31 Hydref, 10 yb - 6 yh. (Sylwer bod yr arddangosfa hon yn rhedeg i’r dydd Iau ar ôl yr ŵyl i gynnwys wythnos hanner tymor)
Mae’r artist sain, Richard James, a’r peintiwr, Tony Kitchell, yn cydweithio i greu gosodiad celf sain a gweledol gyda’r themâu cyffredin sef cymuned, amgylchedd, a newid hinsawdd.
There is really here - gosodiad celf/ffilm sci-fi byr gan yr artist a gwneuthurwr ffilmiau o Dyddewi sy'n cael ei arddangos yn rhyngwladol, Ben Lloyd.
Mynediad am ddim. Festri Capel Seion, Stryd Newydd, Tyddewi. Gwe 25 - Sul 27 Hydref, 10 yb - 6 yh.
Mae gwraig cyntaf y dyfodol yn malu trwy wal wydr y wladwriaeth dotalitaraidd ac i fewn i natur gyntefig.
Gellir prynu tocynnau gwyl gerddoriaeth yma www.boiafestival.co.uk (Zutons, Bodega, Lanterns On The Lake)