Digwyddiad barddoniaeth am ddim gyda'n ffrindiau o Wasg Arachne – cyn bo hir yn Hyb y Llyfrgell Ganolog! Dewch draw i gael gwledd amser cinio ar ddydd Sadwrn ar 1 Mehefin am 12pm. Tocynnau: https://tinyurl.com/2s3evntc 

Ymunwch â beirdd o Wasg Arachne i ddathlu cyhoeddi Byways:  Poems and Stories on Foot, a Joy//Us: Poems of Queer Joy.

Mae Byways yn archwilio lleoedd y gallwch eu cyrraedd ddim ond drwy gerdded yno, boed yn llwybr byr i'r siop sglodion neu’n ddiwrnod allan ar y bryniau. Darlleniadau gan Sara Louise Wheeler (yn Gymraeg), Des Mannay, a Cath Humphris.

Mae Joy//Us yn ffrwydrad di-flewyn-ar-dafod o lawenydd gan feirdd LHDTC+ ledled y DU: beth sy'n ein gwneud ni'n hapus?  Popeth o ddawnsio i drin tŵls maen! Darlleniadau gan Cherry Potts, Joshua Jones, Garnett Frost a Zo Copeland. 

Ystafell gyfarfod 4ydd llawr, Hyb y Llyfrgell Ganolog, Caerdydd.

Yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.