Rydym yn gwybod bod modd gwneud rhagor i gefnogi artistiaid a sefydliadau o gymunedau ymylol sy’n wynebu rhwystrau ac yn ei chael yn anodd cael gafael ar arian. O ganlyniad, ailwampiwyd Camau Creadigol i roi cefnogaeth ac arian i'r cymunedau yma.

Ail-lansiwyd Camau Creadigol yn 2021 ac mae wedi cefnogi 26 sefydliad celfyddydol dan arweiniad bobl anabl neu amrywiol a 70 unigolyn ledled Cymru. 

Mae Camau Creadigol yn cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n fyddar, anabl, niwroamrywiol neu’n ethnig a diwylliannol amrywiol. Mae'r cynllun yn datblygu gwaith a busnes y sefydliadau a'r unigolion. 

Dywedodd Andrew Ogun, Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Rydym am gyrraedd a chefnogi pobl fyddar, anabl, niwroamrywiol ac sy'n ethnig a diwylliannol amrywiol, boed yn artistiaid, staff mewn sefydliadau celfyddydol, sefydliadau sy'n cefnogi’n bennaf gymunedau a dangynrychiolir neu’n benderfynwyr. Mae ymchwil yn dangos nad yw’n harian yn cyrraedd y bobl felly. Nod Camau Creadigol yw goresgyn y rhwystrau a chefnogi pobl i ddatblygu eu gwaith neu eu sefydliadau. 

"Mae'n ffordd wych o gysylltu â rhagor o gymunedau ac â phobl nad ydynt erioed wedi gweithio gyda’r Cyngor o'r blaen. Mae modd i bobl ddatblygu o ran arian, arweiniad, mentora a phrofiad."

Ar 7 Chwefror 2025 y bydd y gronfa yn ailagor. Bydd y rownd gyntaf yn cau ar 12 Mawrth 2025 i sefydliadau ac ar 27 Mawrth 2025 i unigolion. 

Mae modd i unigolion ymgeisio am £500-£7,500. 

Mae tair lefel ariannu i sefydliadau:

  • cam cynnar (£500-£10,000)
  • ail gam (£10,001-£50,000)
  • trydydd cam (£50,001-£75,000)

Arian wedi’i godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da sy’n gwneud y cynllun yn bosibl.

Am ragor o wybodaeth am sut i ymgeisio neu drafod gyda ni a ydy’r gronfa’n gymwys ichi, cliciwch yma ar gyfer Camau Creadigol i Unigolion ac yma ar gyfer Camau Creadigol i Sefydliadau.

Artist: Dalisizwe Chitiyo
Teitl: Holy Glory 
Cafodd Dalisizwe Chitiyo £5,354 yn Chwefror 2023. Creodd ei brosiect lwyfan cyfryngol gweledol newydd i'w helpu ei hun a cherddorion eraill i adrodd straeon chwyldroadol. 
"Roedd yr arian yn gymorth mawr imi sylweddoli lle rydw i yn fy ngyrfa a'r hyn sydd angen imi ei wneud i gymryd y camau nesaf. Roedd y gronfa wedi fy helpu i gael offer a chael gwared ar rwystrau a oedd yn fy atal rhag ehangu fy ngyrfa a chael gwybodaeth newydd. Diolch i arian Camau Creadigol, roedd modd imi ddechrau ysgrifennu, cyfarwyddo a ffilmio fy ffilm fer gyntaf a chychwyn sefydliad bach sy'n ceisio chwyldroi Cyfryngau Cymru a gwneud adolygiadau o gelf amrywiol."            
Artist: Bridie Doyle-Roberts
Teitl: Sbectrwm o'r Golwg
Cafodd Bridie Doyle-Roberts £10,700 ym Mawrth 2023 am brosiect Ymchwil a Datblygu. Defnyddiodd oleuadau, cerflunio ac ysgrifennu creadigol i archwilio sut mae colli golwg yn effeithio ar fywyd bob dydd.
"Cafodd y prosiect effaith enfawr ar sut dwi’n meddwl am fy ymarfer creadigol. Mae wedi fy ngalluogi i archwilio’r tu hwnt i ffiniau traddodiadol yr arddangosfa. Dwi hefyd wedi cael cyfle i ystyried fy stori bersonol o golli fy ngolwg mewn ffordd ddilys ac ystyrlon.
"Roedd gweithio ar y prosiect yn bwynt tyngedfennol yn fy ngyrfa. Diolch yn fawr  am y cyfle i gymryd camau creadigol tuag at fy nod."

 

Artistiaid: Cymuned Dawnsfa Cymru (CDC)
Derbyniodd CDC £10,000 ym mis Mawrth 2023. Mae CDC yn ofod diogel unigryw, creadigol sy'n cynnig dosbarthiadau ar gyfer datblygu sgiliau, cymorth gan gymheiriaid a chyfleoedd datblygu trwy gyfrwng Dawns. Maent yn cwiar ac yn cael eu harwain yn ethnig ac yn ddiwylliannol amrywiol.
"Mae ein prosiect wedi bod yn daith drawsnewidiol sy’n ymestyn y tu hwnt i CDC i’r cymunedau rydym yn anelu at eu gwasanaethu. Mae’r prosiect wedi bod yn brofiad dysgu amhrisiadwy i arweinwyr CDC, gan eu harfogi â sgiliau rheoli prosiect, cynllunio ariannol ac ymgysylltu â’r gymuned.”